Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lifrai

lifrai

Petai rhywrai'n digwydd gweld y ffilm hon ar ei hanner, a'r olygfa o'r gweithlu ym mol buwch y sinema, oll yn eu lifrai gwynion a'u helmedau lampiog a'u lanternau yn eu dwylo, gellid maddau iddynt am dybio mai glowyr oedd ar y sgrin.

A hithau mor dywyll a chanhwyllau'n goleuo, edrychent yn eu lifrai gwynion fel y côr o angylion gynt.

Roedd y darlun yn un o swyddog mewn ystum ffurfiol yn gwisgo lifrai llawn o tua chyfnod Rhyfel Mecsico.

Gwisgai lifrai llwydwyrdd, ac yng ngolwg y plant edrychai yn bwysig iawn.

Yn hwyr neu'n hwyrach byddai'n rhaid egluro i'r plant beth oedd neges y dieithryn mewn lifrai, ac yna, ni fyddai dim yr un fath iddynt hwythau, ychwaith.

Agorwyd y drws mawr allanol iddynt gan was mewn lifrai ysblennydd.

Fe fu ambell filwr yn help ymarferol mawr yn benthyg lifrai i ddau ohonom gael teithio gyda nhw ac yn ein cuddio yng nghefn eu cerbydau ambell dro.

Ond aeth Gadaffi ymhellach na'r hyn yr oedd yr Eglwys a gweddill y byd Arabaidd wedi ei ddisgwyl; doedd neb wedi rhag-weld y byddai merched Libya mewn lifrai milwrol.

Ymhen amser dechreuodd y rhain ddod i mewn, rhai yn lifrai'r Pwyllgor Dwr, nes bod y swyddogion yn sicr o'u mwyafrif.