Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

linellau

linellau

Bodiais yr ystyllen fregus a elwid yn rhwyf a syllu'n hir ar linellau'r ewyn yn ymestyn o flaen y gwynt.

Dim ond yn hwyr y cyrhaeddodd dylanwad yr Oleuedigaeth a'r ymgais i greu gwladwriaeth fodern ar linellau Ewropeaidd.

Nodyn chwerw-drist a glywir yn y geiriau, a daw i gof linellau clo cerdd arall gan R.

Ar ryw ystyr felly y mae ysgolheictod diweddar yn ailgydio (ond gyda llawer mwy o wybodaeth a manyldra hanesyddol) ym mhrif linellau dehongliad cychwynnydd yr ymchwil fodern am yr Iesu hanesyddol, sef Reimarus, gŵr o ddaliadau deistaidd yn y ddeunawfed ganrif a geisiai wrthwynebu'r Gristnogaeth draddodiadol.

Efallai y dylwn feddwl am gael rhai wedi'u hargraffu erbyn y flwyddyn nesaf: rhywbeth ar linellau 'Cyfarchion tymhorol i'n hoff gyfeillion.

Ceir yn y bryddest linellau a darluniau a aeth wedyn yn rhan o'n treftadaeth: Heintiau'n cyfarch hetiau'n fonheddig, Gwenau'n dinoethi dannedd ar y stryd.

Mae gennym ni linellau o emyn yn rhywle sy'n dweud, 'Mhen oesoedd rif y gywod man/Ni bydd y gan ond dechrau'; syniad nid annhebyg i'r un Indiaidd.

Mae'n amlwg fod y gyfres ysgubol o linellau sy'n dechrau â 'fy' yn y pedwerydd paragraff yn tynnu ar dechneg dyfalu, lle byddai bardd yn rhestru pethau a oedd yn geffelyb i'r gwrthrych.

Cais llawn - adeiladu 'booster' i gronfa ddŵr presennol Cais llawn - lolfa haul yng nghefn tŷ rhes Cais llawn - estyniad i swyddfeydd Cais llawn - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf Cais adeilad rhestredig - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf (ii) Hysbysu'r Bwrdd Trydan nad oedd gwrthwynebiad i'r cais canlynol am linellau trydan:- Cais llawn - ail-leoli llinellau trydan

Mae'r felin foel yn cydio tir, môr ac awyr trwy linellau lletraws ei hesgyll.

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn dueddol o feddwl mai adrodd rhyw fymryn o linellau ydi'r hyn mae rapwyr yn ei wneud ond gwelir yma fod meistrolaeth o rhythm a geirfa yn hanfodol hefyd.

"Ti'n sylweddoli dwad, gwaith cofio sy' 'na, camras, goleuada, meicraffons, a chei di ddim deud dy lein yn rhywla, rhywla sdi, rhaid i chdi ddeud dy linellau yn yr un lle bob tro, neu mi fydd y cyfarwyddwr.