Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

liniau

liniau

Daeth cyffro sydyn i'r pebyll; dadwersyllwyd mewn byr amser ac yn syndod o fuan roedd y cwbl wedi ei bacio ar gefnau'r camelod, a rheiny'n protestio yn eu ffordd arferol yn erbyn gorfod codi oddi ar eu pen-liniau.

Daeth o hyd i hwnnw ar ei liniau, a dywedodd wrth y morwr ifanc: "Os oes gen ti rywfaint o synnwyr ar adeg fel hyn, mi ei dithau ar dy liniau a gweddi%o." Caeodd Douglas ei lygaid a dweud ei bader yn dawel wrth nofio'n unig yng nghanol y môr mawr.

A thra byddai un yn gweddio ar ei liniau, yr oedd pawb yn gweddio a'r lle yn llawn o 'Amen' ac 'Ie, ie!', yr hyn oedd yn swnio yn hynod o ryfedd i ni ar ôl cyfnod mor fawr o ddistawrwydd a chysgadrwydd gydag achos lesu Grist.

Dyna pam roedd Sydna, y forwyn fawr, yr eiliad honno, ar riniog y drws ffrynt yn ceisio boddi y gofid â'i chroeso a'r hwsmon, Obadeia Gruffudd, ar ei liniau ar lawr cegin y gweision yn chwilio am feddyginiaeth wahanol.

Mae'r teirw yn ceisio gwthio'i gilydd wysg eu pennau o amgylch y cylch ond dim ond am rhyw ddau funud neu dri mae'r gystadleuaeth yn para - nes y bydd un tarw ar ei liniau neu pan yw'r gwr efo'r corn siarad yn rhoi diwedd ar bethau a dau darw arall yn cael eu tywys i'r cylch a'r holl beth yn dechrau eto.

Wedi cael cefn Pyrs teimlai Obadeia Gruffudd ei bod hi'n ddyletswydd arno i ailgydio yn y weddi ond fel roedd o'n hwylio i ddisgyn eilwaith ar ei liniau daeth y Parchedig John Jones, person plwy Llaniestyn i mewn, a hanner baglu dros y gist ddillad yr un pryd.

Disgynnodd Villani ar ei liniau i'r pridd sych a dododd ei dalcen ar ymyl y ffynnon.

Yn Nghapel Jerusalem [y Methodistiaid], yn hwyr yr un dydd, pan oedd y gynulleidfa yn canu ar derfyn yr oedfa, daeth dyn ieuanc i mewn, ac aeth ar ei union i'r set fawr, ac ar ei liniau, ac ymddangosai fel dyn mewn breuddwyd.

Mewn rhan arbennig o Chwareli'r Oakeley roedd yna un ohonynt wrth ei waith hefo'i geffyl pan lithrodd hwnnw a syrthio ar ei liniau rhwng y bariau am ryw reswm neu'i gilydd.

Ac yn wir dyma'r awel yn dod, ac yn rhoi Richard Owen ar lawr ar ei liniau i weddio'n gyhoeddus am y tro cyntaf erioed am wn i, ac yna yr oedd yn ceisio gweddio yn ei ddagrau, ac yn methu dweud dim, ond dyma fo yn medru gweiddi allan: 'O Arglwydd, maddau, maddau, maddau imi.