Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

liw

liw

Eto, doedd yna liw o ddim.

Yn aml, rhif y ceffyl neu liw dillad y joci fydd yn denu'r gamblwr.

Eisteddasom ar gerrig oedd bron o'r golwg dan orchudd o fwsog a chen llwyd wyrdd ac oren a bonion clustog Fair yn argoeli gwledd o liw yn yr haf.

Mae'r 'conau'yn sensitif i liw ac i olau llachar, a'r 'rhodenni' sy'n gweld pethau llai disglair ac sy'n rhoi golwg inni gyda'r nos.

Tynnwch lun ffenestr liw eich hun sy'n dangos eich hoff aderyn.

Gwisgais fy ffrog siyrsi winau - rhag ofn i Emli feddwl mai dim ond y siwt a wisgwn i ar y prom oedd yn ffit i'w gweld - a chardigan o liw mwstard, a phar newydd o sanau neilon.

Eto, nid am gynnwys y ffisig y byddai'n sôn, ond am ei liw.

Ceisiodd Hector groesawu brwdfrydedd y gwynt llym, gan obeithio magu lliw haul, neu, o leiaf, liw tywydd ar ei groen tyner.

Gwnewch gerdyn ar ffurf ffenestr liw.

De Affrica yn gwahardd y bleidlais i bobl 'liw'. Lansio Ymgyrch Senedd i Gymru yng Nghaernarfon.

Testun du a gwyn (gyda clawr lliw o bosib) Testun dau-liw â chlawr lliw llawn Testun a chlawr lliw llawn

Hiraethwn am liw ac am lun y byd masnach byrlymus sydd ohoni, er da ac er drwg, yn y gorllewin.

Mae yna bedwar lliw yn y gwyrdd, dau liw gwyrdd - y chlorophyll a a b, sy'n gyfrifol am sugno ynni goleuni'r haul ac yn ei osod yn ddiogel yng nghyfansoddiad y siwgr a'r starch.

Os byddai Enlli o liw llwydlas, roedd hynny yn ddigon o arwydd am ddiwrnod braf trannoeth.

Ar lawer ystyr mae'r rhain yn nodweddiadol o waith yr impresionistiaid - yn ymdrin â thestun cyffredin, yn dibynnu ar ddabiau o liw.

Ond ar ôl amser hir pan ges i hyd iddo roedd yna hen liw afiach arno, am ei fod wedi mynd gyn hen ac wedi llwydo.

I beth ar wyneb daear y mae angen codi liw nos?

Maent yn synied amdano fel gŵr di-liw, di-rym - dyn diymadferth a reolir gan eraill.

Fe orchymyn Cadog i'w wŷr ddod ê gwartheg o unrhyw liw a thrwy ddylanwad dwyfol troir hwyn'n goch a gwyn fel y deuant o flaen y llys.

Roedd llywodraeth De Affrica newydd basio deddf yn dweud na fedrai pobl liw fyw ochr yn ochr â phobl wyn.

Gofynnodd y Tywysog Bach iddo: 'Wyddoch chi sut i helpu fy rhosyn truan i, sy'n colli ei liw ac yn gwywo?' Dangosodd y Man Friday ei ddannedd mewn gwên fawr ac ateb: 'Mae'n rhaid i ti ei fwyta e'.

Pan fydda i'n sgwennu hwn gartra, mi fydda i'n medru edrach allan drwy'r ffenast, a gweld yr haul yn mynd i lawr, a dibynnu beth fydd 'i liw o, a lliw yr awyr, mi fydda i'n dyfalu sut ddiwrnod fydd hi fory.

Mae yna ddau liw arall yn y chlorophyll - lliw melyn y carotin sydd i'w weld mewn menyn, a lliw oren y xanthophyll sydd i'w weld mewn melynwy.

Mae pen rhai o'r saethau wedi eu paentio yn aur - gan ddod ag ychydig o liw i'r ardal.

Yr enghreifftiau amlycaf yw cyrn neu liw mewn anifail.

Ceir coed derw sy'n cochi - y Quercus rubra a'r Quercus coccinea - mae rhai o'r rhain wedi eu plannu yn ein fforestydd ni i ni gael mymryn o liw.

Ar freichiau'r plant, mae yna freichled o un o dri gwahanol liw.

Rhyw liw felly wedi ei gymysgu efo melyn cyfoglyd ydi'r milgi.

Droeon yn ystod ei yrfa newidiodd ei liw diwinyddol er na chrwydrodd yn bell oddi wrth y Galfinyddiaeth efengylaidd honno a oedd yn brif ysgogiad ei waith.

Roedd y tair mil o bobl liw a addolai yn eglwys Mr Henrickse yn gorfod gadael eu heglwys a'u cartrefi a mynd i dref newydd - tref i bobl liw yn unig.

Ar un ystyr rhestrau di- liw a di-bwrpas yw'r achau teuluoedd sydd yn y Beibl (e.e.

Fel yr awgrymwyd eisoes cynnil yw y defnydd a wneir o liw.

De Affrica yn gwahardd y bleidlais i bobl 'liw'.

A'r nod arall, anodd ond hollbwysig, ydyw cyrraedd at Olwen a dysgu cyd-fyw â hi, sydd fel y lloer i'r haul, yn ei adlewyrchu liw'r nos fewnblyg.

O'i chyferbynu ag eiddo ei gūr, syml a phlaen oedd gwisg lwyd Lowri Vaughan, sylwodd Meg gyda pheth malais, a dygwyd pob mymryn o liw o'i hwyneb main a hir gan y ffisiw brown a fradychai yn hytrach na chuddio teneurwydd ei bronnau.

Os edrychwch chi'n fanwl yn y canolfannau carafanio, fe welwch ei fod ar gael mewn dau liw poteli glas a photeli coch.

Maen ymddangos mair unig beth syn peri oedi ynglyn â chreu y rhain yw na all neb benderfynu pa liw ddylen nhw fod.

Bydd hon yn gosb am beidio â gwisgo gwregys; gorlwytho cerbyd; defnyddio'r corn liw nos; anwybyddu arwyddion ffyrdd, ac ati.

Lapiwyd ei gorff hir a chul - yn y gwres hwnnw - mewn carthen car a gŵn ymolch coch wedi colli ei liw.

Tegeirian tal, cain ei wedd, o liw pinc tywyll ydyw, a'i arogl hyfryd o sbeis a mymryn o 'carnation' yn cryflhau fin nos er mwyn denu'r gwyfynnod i'w beillio.

Cors anferth yn llawn anifeiliaid gwyllt, a thir brown cochlyd na welais liw tebyg iddo erioed.

Llinellau cyfeiriadol tew a haenau o baent o wahanol liw a thôn sy'n disgrifio'r rhan yma.

Er mai gwr bychan o gorff yw'r Arglwydd - Dafydd" i Brif Ysgrifennydd y Cynulliad ac i arweinyddion y pleidiau - y mae eisoes yn llenwi ei le gan ddod a thipyn o liw a steil i'r siambr.

Torri 'ngwallt i heb yngan gair, dim ond gwenu a chrechwenu'n y drych wrth ddefnyddio'r siswrn obeutu 'nghluste i, ac esgus holi'n ddifrifol pa liw oedd 'y ngwaed i; gwaed 'nigar' - fel tasa fe'n gweud 'gŵr bonheddig' neu 'Gymro' neu 'Sais'.

'Du a gwyn' 'Dau liw' 'Lliw llawn'

Anghofiwch pob atgof sydd gennych o rynnu mewn canolfannau preswyl di-liw a di-raen yn ystod dyddiau ysgol.

Roedd o wedi sniffio gormod o liw.

Oddi allan, mae tair sepal fawr binc golau neu liw rhosyn â gwythiennau gwyrdd arnynt.

Ond mewn cae rhwng y siop a Stanley Buildings digwyddais ddal sylw ar ferlan ddu yn tynnu car fflat, a deall gan ffrind ei bod yn perthyn i 'Hugh Williams joinar' ac yn danfon eirch liw nos i Bendyffryn (sanatoriwm yr adeg hynny).

Dyma a welais i yn yr ogof: Roedd ei thu mewn fel rhyw fath o glai o liw arian.

Hwn oedd y tro cyntaf iddo ddangos ei liw comiwnyddol, a dyna yw'r ddelwedd ohono ers hynny; cadarnhawyd amheuon yr Unol Daleithiau ei fod yn gomiwnydd rhonc.

Pa liw sydd yn well gan yr adar?

Tu mewn mae'r chwe briger a'r pistil hefyd yn las, a'r unig liw arall a welir fydd y paill melyn.Fe gynhyrchir hyd man tywyll, ond mae bwlb dan y pridd a gall oroesi'r gaeaf felly.

Mae golchiad o liw melyn yn dod i'r golwg trwy haenau o las golau a llwyd, gan awgrymu'n gynnil ôl tywydd ar garreg.

Er na fedrai weld eu hwynebau yn glir, gwyddai eu bod yn gwelwi i liw'r eira o'u cwmpas.

Pegwn y cywirdeb gwleidyddol gwallgof hwn yw cynnwys Cuba Gooding Jr fel cogydd du sy'n dipyn o baffiwr ar un o longau'r harbwr - cymeriad nad oes a wnelo affliw o ddim a'r stori ond bod ei angen i ddangos pa mor bositif yw Americaniaid pan ddaw hi'n liw croen.

Llafur breichiau caethwas bwrcasodd eich lleni o sidan a moreens o liw glas, porphor ac ysgarlad; a'ch carpedau amryliw o weithdai Kidderminster a Brussels.

Chlorophyll y celloedd yn y ddeilen sy'n newid ei liw.

Dechrau ar gwrs arall- darlith oedd ar waith yr Adran, rhyw gawl aildwym o'r hyn a gawsom ym Matlock llynedd gydag ychydig o liw neu flas tramor wedi'i roi ynddo i'w wneud yn fwy llyncadwy.

Allan â nhw, i weld pwy ar y ddaear oedd wedi gyrru yno'r adeg yna o'r nos, ond doedd yno liw o ddim.