Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

liwt

liwt

Oherwydd natur y gwaith, arferir derbyn yn ddigwestiwn air gohebwyr y papurau lleol neu'r newyddiadurwyr sy'n gweithio ar eu liwt eu hunain, ond y gwir yw nad oes raid i ohebydd feddu ar lawer o ddychymyg i greu ei stori%au ei hun pe bai newyddion yn brin !

'Roedd y ffaith i un llyfrgellydd fentro ar ei liwt ei hun, ar nifer mor fawr (a oedd yn ymddangos yn wastraff), yn garreg filltir bwysig.

Pan gafwyd gwerthiant da i dâp o sesiynau ac EP gan Tynal Tywyll, grŵp a oedd wedi ymddangos ar label yr Anrhefn ac wedi rhyddau senglau ar eu liwt eu hunain, roedd y tri myfyriwr yn gweld dyfodol i'r cwmni ar ôl dyddiau coleg.

A oes rhaid rhaglennu'r holl gyfarwyddiadau y mae angen eu dilyn i ddatrys problem, yntau a oes dull arall yn bosibl - lle bydd y cyfrifiadur yn canfod ateb i'r broblem ar ei liwt ei hun?