Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llaeth

llaeth

Godrir y llaeth a rhoi dogn mewn bwced i bob un o'r lloi.

Aflawen, fel yfed cymysgedd o'u dewis ddiodydd, seidr a llaeth enwyn, fyddai deuawd parhaus gan yr yfwyr cedyrn hyn.

Er bod y Bwrdd Marchnata Llaeth yn sicrhau siec fisol i rai ffermwyr, rhyw grafu byw mae'r mwyafrif sy'n gweithio'r tir.

Gwyddfid - Llaeth y Gaseg (Lonicera Periclymenum).

Cyflwyno cwotau llaeth.

Ac i'r rhai hynny ohona chi sydd wedi bod yn bwyta siocled plaen yn lle siocled llaeth gydol y blynyddoedd yn meddwl y gwnaiff o lai o gyfraniad i faint eich bol, does gen i ond dau air; Ha blydi ha.

Wyneb 'mor sur â phot llaeth cadw' sydd gan Huw yn y stori 'Gobaith', ac i Poli, mae'r nam ar y diwrnod y bu'n dyheu amdano 'fel pry du wedi disgyn i lefrith' ('Mis Medi').

Oni bai i'r bêl gyflymu yn ei blaen, mae'n bosib y byddai Idris wedi yfed y llaeth ac efallai farw neu syrthio i drymgwsg yn y fan a'r lle...

Ar yr ochr gadarnhaol, dywed yr adroddiad fod mwy o bobl ifanc yn hoffi cinio ysgol a gwelwyd cynnydd yn y nifer sy'n yfed llaeth sydd a llai o fraster.

Gūr oedd a allai dynnu llaeth o ysgallen, boed hi'n bigog neu beidio.

Gellirt cofnodi cynnyrch llaeth gyda jariau pwrpasol yn y parlwr godro a phwyso gwartheg a defaid gyda chloriannau.

Dychwelodd i Florida lle bu'n golchi llestri, gwerthu llaeth a gwerthu esgidiau cyn dod yn wr busnes llwyddiannus.

Wedi'r cwbl, ni chawsai fwy na bara a llaeth a physgod a mêl i'w bwyta ers tro, ac roedd wedi laru arnynt yn lân.

Yn naturiol ddigon byddai rhyddhau'r hormon yma ar y farchnad agored, er i'w wneuthurwyr honi ei fod yn hormon naturiol sydd yn y fuwch eisoes, yn hoelen arall yn arch gwerthiant llaeth wedi ei gynhyrchu o ganlyniad i hormon.

Mae arna i ofn gynddeiriog iddi hi setlo acw am 'i hoes." Tra oedd fy nghyfaill Williams yn gorffen y bara-llaeth, ac wedyn yn ysmygu wrth y tân, ceisiasom feddwl am ryw gynllun i yrru Anti Lw ar symud.

Llaeth o'r bwced Dull o roi llith i'r llo pan nad yw'r llo yn sugno'i fam.

Cyn i'r heddgeidwad gyrraedd, fodd bynnag, daeth Edward Owen, Tyddyn Waun, i Dyddyn Bach yn ôl ei arfer, i nôl llaeth i'r moch.

Gyda llaw, be sy gen ti yn y sospan yna?" "Bara llaeth ar gyfer swper," meddwn i, yn symud y sospan o gwr y tân ar y pentan.

Rhys: Brwyn y tir llaeth sy'n melynu'r hufen, fe allwn gywiro menyn a magu lloi .

Ar lawr un, agorodd mam ddagreuol flanced a orchuddiai gorff ei baban dri mis oed a fu farw rai oriau ynghynt am nad oedd llaeth ar gael iddo.

Yn fynych iawn, un o'r pethau cyntaf a wnaethpwyd i fuwch a ddioddai o glwy'r llaeth oedd tynnu pedwar neu bum chwart o waed!

Dewiswch laeth hanner sgim neu sgim yn hytrach na llaeth cyffredin.

Roedd y bwrdd wedi ei osod yn barod ar gyfer brecwast drannoeth, bowliau bara llaeth wyneb i wared mewn rhyw wyth neu naw o lefydd, ar wahân i lle'r oedd Dic yn eistedd, y lamp baraffin ar y wal uwch ei ben wedi ei throi i lawr rhag iddi fygu yn y drafft.) "Roedd hi'n bert iawn, gwraig y ffarmwr yma.

Dydd Gwener lOfed Bu farw Mr Richard Williams, cyn-swyddog gyda'r Bwrdd Marchnata Llaeth yn y Trallwng.

Ac at mynd a'ch croen ac eich blingo gyferbyn â to take everything you've got gellid ychwanegu y trawiadol - mynd a'r llefrith/llaeth o'ch te.

Gellid ei yfed mewn cwrw neu mewn llaeth.

Mae'r dechneg wedi ei defnyddio eisoes i ddatblygu defaid a llaeth ac ynddo ddefnyddiau annaturiol o ran defaid, ond sy'n werthfawr ar gyfer y diwydiant fferyllol.

Yn y tyllau hyn bydd nyth diddos o laswellt yn gymysg â blew'r fam, a bydd hithau yn mynd yno bob nos i roi llaeth y frest i'r cywion ac wrth ymadael yn gofalu cau ceg y twll gyda phridd fel nad yw'n hawdd canfod y fynedfa.

Yn y gyfrol Atgofwn, mae Kate Roberts yn cyfeirio at y tŷ llaeth helaeth y tu ôl i'r gegin yng Nghae'r Gors, a'i resiad o botiau llaeth cadw gyda llechi crynion ar eu hwynebau.

Glyn Davies, Ysgrifennydd Rhanbarth yr Undeb, yn ffonio fin nos eisiau cyfarwyddyd sut i gynghori ffermwyr llaeth i lenwi ffurflenni cais am y cwota ychwanegol.

Hefyd cwpan i ddal blodau, o wydr gwyn fel llaeth, oedd yn llewyrchu mewn amryw liwiau, fel tu mewn i gragen, pan fyddai goleu yn disgleirio arni.

Methodd y diwydiant llaeth ag ymateb i'r alwad i reoli cynnyrch.

Yn fwy diweddar rhoddwyd pwyslais ar ystyried nodweddion y gellir eu mesur yn uniongyrchol, fel cynnyrch llaeth a phwysau.

Oedd llawer teulu arall yn gwneud yr un peth cofiwch, a felly, picnic mawr neu "banquete% gredaf i oedd y peth, gan fod pob math o jams a theisennau a llaeth ffres a hufen tew i'w gael yno.

Mae cynnyrch llaeth neu bwysau anifail yn enghreifftiau o hyn.

Yr oedd rhai ohonynt yn magu ac yn llawn llaeth a hithau hefyd yn ddiwedd Mai neu ddechrau Mehefin poeth; yr oeddem wedi eu dal ar gam amser.

Gwnewch nifer o dyllau yn y bocsys llefrith/llaeth a phaentiwch nhw â gwahanol liwiau.

Eithr fe lanwai'r bwced â llaeth hyd at yr ymylon - pe buasech mor ddifeddwl â pheidio â'i wacau bob hyn a hyn.

Daeth rheolau glanweithdra wrth odro a thrin llaeth i'w afon i'r ffatri yn llawer mwy llym.