Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llafar

llafar

Mae angen cynllunio'r defnydd o'r gair llafar yn fanwl o safbwynt y defnydd ohono gan athrawon a disgyblion.

Erbyn y cyfnod, hwn, wrth gwrs, er bod y traddodiad llafar yn ffynnu o hyd, ochr yn ochr ag ef daeth y testun ysgrifenedig yn fwyfwy cyffredin a phwysig, yr hyn a olygai datblygiadau newydd yn natur y testun naratif a'i dechnegau.

Robert Jones, Rhos-lan, sydd wedi diogelu'r traddodiad llafar am Morgan Llwyd:-

Lle bo ansawdd yr addysgu'n dda, bydd cynllunio'r cwricwlwm yn adlewyrchu rhaglenni astudio'r Cwricwlwm Cenedlaethol, yn rhoi ystyriaeth i ryngberthynas gwaith llafar, darllen ac ysgrifennu ac yn cynnwys elfennau megis gwybodaeth am iaith, drama, addysg y cyfryngau a thechnoleg gwybodaeth.

Mae grŵp bychan o feini hir yn Langon ac yn ôl llafar gwlad yr ardal honno, criw o ferched ifanc ydynt a benderfynodd fynd i'r cae i ddawnsio yn lle mynd i'r eglwys un dydd Sul.

yn sicr, o dderbyn y sbardun hwn yn y llafar a'i barhau o fewn yr un thema gyda'r darllen, yna, byddai'r dasg ysgrifenedig yn manteisio ar y cefndir cyfoethog hwn.

'Rwy'n siŵr fod nifer o ddarllenwyr wedi clywed stori gyffelyb i hon, neu wedi ei darllen fel stori newyddion - byddwn yn falch iawn o'u clywed - danfonwch hwy ymlaen i Llafar Gwlad.

Ac mae'r wyau toredig a pherfedd ceiliogod yn siarad rhwng y meini ac o dan y cromlechi am genedlaethau diflanedig sydd yno o hyd yn llygaid ac yn llafar y Casiaid.

Llithrigrwydd llafar.

Cynhelid y rhagbrofion ym mharlwr tū'r ysgrifennydd, ac yno y bu+m i'n gwrando'n astud ar gyflwyniadau llafar y cystadleuwyr a obeithiai am lwyfan.

Bu'n ddiweddarach yn ymchwilio, dan nawdd y Cyngor Ysgolion, i broblemau dysgu a phrofion gwrando/ llafar.

Y mae'r cofiant yn gyfraniad o bwys wedi'i seilio ar waith ymchwil trylwyr, yn cynnwys defnydd helaeth o ffynonellau niferus, llafar ac ysgrifenedig.

Trefnu gwaith llafar fel rhan naturiol organig o waith y dosbarth.

Dylid cofio, wrth gwrs, inni ddefnyddio Golwg, Llafar Gwlad, Y Wawr, Fferm a Thyddyn, Cristion a Tafod y Ddraig er mwyn dosbarthu'r holiadur, a dylid cadw hyn mewn cof wrth ddehongli'r ffigurau.

Byddai hyn yn ychwanegu at gymhwysedd llafar y disgyblion.

Syniai Saussure am iaith fel chwarae gwyddbwyll, lle y bo i'r darnau eu gwerth a'u swyddogaeth a lle y bo'n rhaid eu symud yn ôl rheolau arbennig; bod dwy wedd ar astudio iaith, sef y wedd syncronig, disgrifiad o gyfansoddiad iaith, ei sieniau, ei geiriau a'i gramadeg mewn cyfnod arbennig, a'r wedd ddeiacronig, y cyfnewidiadau sy'n digwydd i iaith dros gyfnod o amser; a bod rhai gwahaniaethau rhwng Langage, gallu cynhenid yr hil ddynol i gyfathrebu trwy gyfrwng arwyddion llafar confensiynol, la langue, y system ieithyddol fel y mae'n bod yn meddwl pawb sy'n defnyddio'r iaith, a la parole, arferion llafar ac ysgrifenedig y siaradwyr, yr unig wedd y gellir ei hastudio.

Beth am yrru gair a chopi i Llafar Gwlad.

Y mae defnydd ohoni wedi'i chyfyngu i'r llafar gan nad oes iddi ffurf ysgrifenedig gydnabyddedig na gramadeg sustematig, na dim o'r offer ieithyddol ychwanegol fyddai ei angen i'w haddasu'n iaith ar gyfer addysg, gweinyddiaeth a defnydd swyddogol ffurfiol.

Bu ceisio cyfleu hanes digwyddiadau a oedd yn gydamserol mewn nifer o fannau gwahanol yn broblem i stori%wyr llafar erioed, a hynny am resymau amlwg.

Cynhwysai hyn addewidion llafar a gweithredoedd symboliadd.

Un duedd gyffredinol yw cyflwyno cyfarwyddiadau a chynnwys tudalennau o werslyfrau yn llafar i'r dosbarth gan fod hynny'n gyflymach ac yn sicrhau fod yr holl ddisgyblion wedi derbyn yr un wybodaeth.

y Gymraeg yn llafar ac yn ysgrifenedig b.

A yw disgyblion yn dangos cynnydd yn eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau ac yn arddangos hynny'n llafar ac yn ymarferol?

Lle bo ansawdd y dysgu'n dda, bydd disgyblion o'u gwirfodd yn siarad gyda hyder; yn cymryd rhan weithredol mewn amrediad o weithgareddau llafar sy'n cynnwys cyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol.

Mi dybiwn i y bydd gan ddarllenwyr ddiddordeb neilltuol yn y pytiau cynganeddol hynny - amryw ohonynt yn fyrfyfyr - sydd bellach yn rhan o lên a llafar y sawl sy'n ymhe/ l â barddoniaeth, a ninnau, efallai, heb lwyr sylweddoli bob amser mai David Ellis yw'r awdur.

Tra bo'i rieni yn casglu llen a llafar plant dechreuodd Robert Opie, yn fachgen ifanc, gasglu papurau losin a siocled, potiau iogwrt, a bocsys bwyd brecwast.

Wrth i'r 20fed ganrif ddod i'w therfyn darlledodd BBC Radio Cymru gyfres hanes llafar 16 rhan Hyd Ein Hoes, sef menter unigryw a ail-greodd brofiadaur can mlynedd diwethaf drwy leisiaur bobl a fun byw drwyddynt.

O ystyried mai penodol yw cynnwys Llafar Gwlad, mae'n ymddangos fod y cylchgrawn hwn yn apelio'n eithaf cyfartal ar draws yr holl ystodau oedran - camp yn wir !

Mae'n siwr fod nifer o ddarllenwyr Llafar Gwlad yn chwarae golff.

Ond fel y dywed ef ei hun, mae'r bregeth bellach yn fwy o draethawd nag o ddim arall, yn cymryd ei lle gyda llên y Methodistiaid yn hytrach na'u llafar, er mor anfethodistaidd ydyw rhai o'r nodweddion sydd iddi.

Ond, mae sefydliad dwyieithog lle mae'r aelodau i gyd yn rhugl mewn un iaith a lleiafrif yn unig yn rhugl yn yr iaith arall yn dra gwahanol i sefydliad lle mae'r rhan fwyaf o'r aelodau yn hollol ddibynnol ar gyfieithu llafar ac ysgrifenedig.

Mae angen i'r athrawon nad ydynt yn gwneud hynny eisoes yn eu dysgu, ystyried rhoi mwy o le i sefyllfaoedd plentyn ganolog sy'n cynnwys gwaith llafar pwrpasol mewn grwpiau bychain.

Mae ffactorau eraill megis faint o'r iaith lafar a ddefnyddir gan yr athrawon eu hunain a'r cywair llafar a ddefnyddir yn ymwneud ag arddulliau dysgu.

Dro arall ant i ryw gylch o gerrig i sefyll am awr neu ddwy a llafar ganu'n uchel wedi eu gwisgo mewn gwyn a glas a gwyrdd.

Yr enwocaf o'r criw llafar hwn, yn y cyswllt presennol, oedd y Parchedig Evan Jones (Ieuan Gwynedd), Tredegar, prif ladmerydd y Cymry yn ystod 'argyfwng' y Llyfrau Gleision.

Rhoddir cyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan gyflawn mewn amrywiaeth o weithgareddau llafar gan ddod ar draws amrediad eang o lenyddiaeth a thestunau eraill, gan gynnwys deunydd gyda dimensiwn Cymreig.

Dywedodd Haf Elgar sy'n arwain ymgyrch ddarlledu y Gymdeithas,'Yr ydym yn gwneud y cais hwn am gyfarfod yn dilyn derbyn nifer o gwynion llafar ac ysgrifenedig oddi wrth aelodau'r Cynulliad sy'n dweud eu bod o dan anfantais os siaradant Gymraeg.

Gyda nifer o gyhoeddiadau ar faterion pur dechnegol y cychwynnodd ar sesiwn cwestiynau llafar y Cynulliad ddydd Mercher.

Gwaith llafar yn y sefyllfa ddwyieithog - ystyriaethau ynglyn a chywair iaith.

Drwy gydol y blynyddoedd hyn yr oedd sir Fynwy yng nghanol tanbeidrwydd y dadlau; a hynny, nid yn unig oherwydd maint y boblogaeth, ei symudolrwydd a'r broblem fawr o ddarparu addysg ar ei chyfer, ond hefyd oherwydd presenoldeb carfan gref o weinidogion amlwg a llafar iawn eu barn.

Bu cwyno yn y papur bro lleol, Llafar Bro, fod mast teliffon symudol hyll wedi ymddangos, a mawr oedd y cwynion yn ei erbyn.

CYFLWYNWYD adroddiad llafar y Prif Weithredwr ar ddau gynllun arall, sef Oblygiadau Gofal yn y Gymuned (Tai Eryri) ac Arolwg Hyfforddiant Staff (Prifysgol Lerpwl).

Yn y cyswllt hwn roedd tair tuedd: * ystyried y gair llafar yn fodel ar gyfer y gair ysgrifenedig ac felly, mabwysiadu cywair safonol a oedd yn gallu ymddangos yn anystwyth a phell,

A'r adroddiad ymlaen i fynegi gofid bod y rhaglen a gynigir yn nes ymlaen yn yr ysgolion cynradd "yn fwy ffurfiol ac yn fwy caeth i lyfrau ac ni chynhelir, bob tro, y cynnydd cynnar mewn datblygiad llafar".

Yr oedd fel petai, yn isymwybodol, wedi penderfynu cadw ei danbeidrwydd yn beth llafar ac wedi penderfynu syberu ei ysgrifeniadau.

Bydd Datganiad o Angen Arbennig (DAA) yn aml yn nodi bod angen mewnbwn sylweddol, addysgol oddi wrth therapydd llafar, cynorthwydd dosbarth a staff para-addysgol tebyg.

Mae asesiadau athrawon mewn iaith yn rhoi ystyriaeth i gynnydd y disgyblion yn yr amrediad llawn o waith llafar, darllen ac ysgrifennu.

Tybed a oes rhywun sy'n darllen Llafar Gwlad wedi dod ar draws rhyw ofergoel tebyg i hyn?

CYNGOR HYFFORDDIANT ADLONIANT A'R CELFYDDYDAU Rhoddodd Mandy Wix adroddiad llafar ar ddaliadau CHAC.

cytunwyd hefyd fod y das lafar yn bwysig i gadarnhau statws yr iaith gymraeg yn y cwricwlwm ac i gadarnhau pwysigrwydd gwaith llafar er mwyn cyflawni amcanion y cwricwlwm cenedlaethol cymraeg.

Yn y mwyafrif o ddosbarthiadau plant bach, ceir cyplysu clos ar iaith a phrofiad, ac enillir cymhwsedd llafar yn rhwydd.

Anodd dysgu Saesneg llafar i grwpiau mor fawr gan nad yw gwaith dosbarth yn rhoi digon o amser i bob un siarad.

Heb yn wybod iddynt eu hunain, yr oedd pobl yn dysgu bod yn llafar ac yr oedd hynny'n gyfraniad o bwys eithriadol i'r bywyd cyhoeddus.