Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llafurio

llafurio

Ac yntau'n frodor o sir Frycheiniog, ac wedi treulio'r rhan helaethaf o'i oes yn llafurio yn y sir honno, y mae'n teilyngu amlygrwydd mawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Fel yn bennaf oll y cadwasom yr ystyr a llafurio bob amser i'w adfer yn gwbl gywir, felly yr ydym â'r parch mwyaf wedi cadw priod ddull y geiriau yn gymaint ag i'r Apostolion wrth lefaru wrth y Cenhedloedd ac ysgrifennu atynt yn yr iaith Roeg eu cyfyngu eu hunain i ymadrodd bywiog yr Hebraeg yn hytrach na mentro ymhell trwy ystwytho eu hiaith i lefaru fel y llefarai'r Cenhedloedd.

Tybed na 'welai' y bardd hefyd y caledi a'r dioddef oedd ynghlwm wrth y llafurio am gyflog bychan, i chwarelwr, ac elw mawr, i berchennog?

Breuddwyd y ddiweddar Shân Emlyn, cyn gadeirydd Cymdeithas Cymru Ariannin, oedd ffilmio'r Misa Criolla a Mary Simmonds a Ceri Sherlock o gwmni teledu Teliesyn sy'n llafurio ers dyddiau yng ngwres Rhagfyr i droi'r freuddwyd yn rhaglen deledu.

Fel Theophilus ei hun y mae gwreiddiau'r Athro Jenkins yn sir Aberteifi, ond Brycheiniog oedd y winllan y bu Theophilus yn llafurio ynddi am ran helaeth o'i oes ac yn Llangamarch y mae wedi ei gladdu, a hynny heb fod nepell o faes y Brifwyl eleni.

bu'n llafurio'n gyson o blaid heddwch am flynyddoedd cyn hynny, gan deithio o amgylch y wlad i ddarlithio ac annerch cyfarfodydd yn aml.

Mewn gwirionedd, y mae Samuel a Phantycelyn yn dweud yr un peth - pobl dda'n llafurio a'r wlad er hynny mewn enbydrwydd moesol ac ysbrydol.

Peryglus yw sentimentaleiddio - ynghlwm yn y gymdeithas gymwynasgar a chrefftus 'roedd y diciâu a thlodi a llafurio llethol.

O'u defnyddio yn y dosbarth, gall yr offer yma arbed y darlithydd neu'r athro rhag gorfod llafurio i ennyn brwdfrydedd a diddordeb yn y pwnc trwy ddisgrifio a rhestru ffeithiau yn unig.

Nid ydwyf yn dywedyd fod llafurio ac ymboeni gyda hyn o angenrheidrwydd yn niwed i wir grefydd a duwioldeb yn yr enaid....

Rhaid cofio mai mab i chwarelwr ydoedd, wedi ei fagu ymysg teuluoedd chwarelwyr ac yn gwybod o brofiad am erwinder y llafurio'n y graig ac am gyndynrwydd yr ymddrech ar yr aelwyd i fyw gyda thipyn o urddas a hunan-barch.

Wedi llafurio gydol y bore methodd bowlwyr Lloegr a chipior un wiced.