Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llaid

llaid

Nid adeiladwyd porthladdoedd mor sylweddol a chadarn â rhai heddiw ers talwm, ac erbyn hyn mae llawer ohonynt hwythau wedi eu dinistro neu wedi'u gorchuddio â thywod a llaid.

Wedi camu drwy'r drws yn y wal goncrid-flocs, neu'n hytrach drwy'r agendor lle buasai, gan ei fod wedi cwympo ar ei ben i'r llaid yng ngenau'r twnnel, tynnwyd llun arall o Eluned a minnau - y tro hwn, yn fwy llwyddiannus, ar gamera wincad llygad llo David Lewis, sy'n dangos yn amlwg ein bod yn falch o'n gorchest yn dwyn y cerdyn.

Holltasai cwmwl glaw yn y prynhawn, ac yr oedd y glaw wedi disgyn yn genllif ar y ty nes cuddio llawr yr adeilad â llaid hyd at y migwrn.

Ac yr oedd Alphonse yn friwiau ac yn waed drosto, gyda llaid yn glynu wrtho.

Yr oedd yr hen Owain wedi bod yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi bod yn gorwedd ac yn ymladd yn llaid y ffosydd yn Ffrainc.

I lawr wrth dorlan yr afon, a'i hanner yn y llaid a'i hanner yn y cwr, mae yna wely o frwyn.

Doedd o fawr gwaeth, ond welodd neb yn Cranwell un yn cyrraedd yn llaid o'i ben i'w draed o'r blaen!

Amser maith yn ôl yr oedd Tonle Sap yn fraich o'r môr, ond gyda threigl y blynyddoedd ymffurfiodd y llaid a gludid gan yr afon i lawr i'r môr, yn ddarn o dir ar draws genau'r afon a chaewyd Tonle Sap i fewn.

Gydag un ruad llamodd y Mercedes o'i gaethiwed a disgynnodd Elis Robaitsh yn glwt i'r pwll llaid.

Ni chai enllib, ni chai llaid Roddi troed o fewn i'w tre Chwiliai 'mam am air o blaid Pechaduriaid mwya'r lle.

Roedd yna ddigon o olion pedolau a llithriadau yn y llaid, ond dim byd arall.