Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llanelli

llanelli

Naw i dri ar yr egwyl, a Gareth Edwards wedi cael ei rwystro rhag croesi am gais gan amddiffyn effeithiol rheng ôl Llanelli.

Fel y tîm o'r Alban, sgoriodd Llanelli bedwar cais - dau i'r capten Scott Quinnell ac un bob un i Dafydd James a Chris Wyatt.

Sgoriodd Chris Watkins bedair gôl Llanelli, ac fe llai yn hawdd fod wedi sgorio mwy.

Gary Proctor yw rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Llanelli.

Bydd Simon Easterby, blaen-asgellwr Llanelli ac Iwerddon, allan o'r gêm tan tua'r Nadolig.

Mae'n bwysig iawn bod Llanelli'n whare'n dda.

Agor gwarchodfa adar Penclacwydd ger Llanelli.

Yn ystod yr amser yma roedd tad Euros yn Llywydd Cymmrodorion Llanelli a Llywydd Undeb Cymdeithasau Cymraeg Dwyrain Dyfed.

Dyma fe 'nawr yn gorfod sefyll wrth groesfan ddwyreiniol Llanelli cyn mynd i mewn i'r orsaf am arhosiad arall o ddeng munud.

Tref ar i fyny oedd Llanelli ar droad y ganrif.

Bydd Llanelli yn ddigon parod i barhau yn y rôl honno yfory.

Yn ogystal â'r gosfa, pedwar cais i un, cafodd asgellwr Llanelli, Mark Jones, ei gario o'r maes.

Bu'n blismon ers saith mlynedd gan dreulio'r holl amser hwnnw yn Llanelli, fel heddwas stryd yn gyntaf ac yna fel ditectif gwnstabl.

Bydd Cwmban yn chwarae Llanelli ddydd Mercher.

Cyfrannu erthyglau amrywiol ar weithgarwch CYD i'w cynnwys yng ngholofn Gymraeg y Llanelli Star.

Er enghraifft, cynghorodd Dr William Davies (a gadwai athrofa Ffrwd Fâl ger Pumsaint), John Williams, mab Brownhill, Llansadwrn, os oedd yn meddwl am weinidogaeth mewn tref fel Llanelli, y buasai yn well iddo fyned i athrofa, ond os oedd yn meddwl am weinidogaeth yn y wlad, nad oedd angen iddo fyned i athrofa o gwbl.

Davies, Llanelli (Brycheiniog) i ddangos 'gwrthuni ac anghysondeb tystiolaeth yr offeiriaid ac anwireddau'r adroddiad'.

O'r digwyddiad hwnnw ymlaen, un tîm oedd ynddi, ac ar y diwedd, Llanelli aeth drwyddo i'r rownd gyn-derfynol, gyda sgôr o ddeg pwynt ar hugain i dri, a'r hawl i wynebu sialens tîm arall o gryse duon--ond cryse duon o Gastell Nedd y tro hwn, a'r gêm yn cael ei chware ar faes San Helen yn Abertawe.

Bydd Llanelli'n wynebu un o gyn-ffefrynnau'r Strade.

Stori gyfarwydd oedd hi yn gêm arall y Cwpan Cenedlaethol - Caerdydd yn curo Llanelli, sy'n cael tymor anodd yn y Cynghrair Cenedlaethol, ar Barc Ninian.

Collodd Llanelli o 45 i 35 yn erbyn Glasgow ar Barc McDiarmid, Perth, ddoe.

Ni fydd mewnwr Llanelli, Guy Easterby, yn gallu chwarae am o leia chwe wythnos ar ôl torri ei goes yn erbyn Castell Nedd ar Y Strade echdoe.

Roedd pêl-droed Llanelli'n gyflym ac effeithiol tra roedd Merthyr yn edrych yn ofnadwy yn yr ail hanner.

Ond mae rhyw sbeis ychwanegol pan mae Llanelli yma.

Cafodd Dickerson ddau gyfle arall yn yr hanner cynta ond methodd fanteisio arnyn nhw ac er i'r cyfleon gorau ddisgyn i ran Llanelli wedi'r ail-ddechrau, Leo Fortune West sgoriodd yr unig gôl gan roi'r pwyntiau i Gaerdydd ond y clod i Lanelli.

Hanai fy nau dad-cu o sir Gar Thomas Griffiths o Lannon, Llanelli a Thomas Bowen o'r Pwll, Penbre yn agos i Lanelli, a'm mam-gu o du fy nhad, Dinah Davies o'r Bwlchnewydd, Llannewydd, yn ymyl Caerfyrddin.

Daeth y cais cyntaf o'r chwech pan gafodd Castell Nedd sgrym bump ar ôl i Luc Evans ddal cic letraws Steve Bowling, ac er syndod i bawb, gwthiwyd wyth Llanelli dros eu llinell a chwympodd Gareth Llywelyn, yr wythwr, ar y bêl.

Ond doedd Dickerson a Llanelli ddim wedi anobeithio.

Mae'n rhaid i ni edrych ar y garfan sy da nhw, meddai maswr Llanelli, Stephen Jones.

Yn Ebrill 1952 prynodd ef a'i wraig fwthyn yn Llangennech gerllaw Llanelli, mewn ardal y mae naw o bob deg o'i phoblogaeth yn Gymry Cymraeg.

Condemniwyd yn arbennig dystiolaeth y Parchedig John Hughes, curad Llanelli, a'r Parchedig W.

Llanelli a'r Athrofa sydd nawr ar waelod y tabl.

Lleolir pentre dychmygol Cwmderi rhywle rhwng Caerfyrddin a Llanelli.

Ond pennaf cyfaill ei dad yn Llanelli oedd Dr Gwylfa Roberts, gweinidog Tabernacl, Llanelli a bardd a enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.

'Roedd y gêm yn erbyn Llanelli ychydig bach yn anffodus - o'dd y ddau dîm yn eitha gwan.

Llanelli gollodd y gêm, nid bod Northampton wedi ei hennill hi.

Mae Gareth Jenkins, hyfforddwr Clwb Rygbi Llanelli, wedi bod yn cwyno am drefn gemau'r tymor.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Chwech yn marw wedi ymosodiadau treisgar yn ystod streic y glowyr yn Llanelli.

Mae gêm fawr 'da ni yn erbyn Llanelli ddydd Sadwrn lawr yn Strade a dyna'r gêm ni'n edrych ymlaen amdani.

Ni'n hyderus iawn yn mynd i'r gêm yn erbyn Llanelli fory.

Cerddodd Mary Games yn ol tuag at ei phlas yn Llanelli.

Mae Croesoswallt nawr dri phwynt uwchben Llanelli.

Er bod dipyn dros hanner o ddynion rêl Llanelli yn perthyn i undeb, ni chyffyrddwyd yr ardal gan y streiciau answyddogol a ddigwyddodd mewn mannau eraill o ddechrau mis Awst.

Llanelli - mae eisie iddyn nhw sgori pwyntiau a cheisiau.

Wrth gwrs, mae yna feddwi a thrais ar y stryd gyda'r nos a sŵn miwsig rêf yn atseinio o glybiau nos yn oriau mân y bore - yn enwedig adeg gemau rygbi cartre' - ond, yn ôl pobol leol, mae pethau yn waeth yn Abertawe a Llanelli.

Cyrhaeddodd trên llythyron gyffiniau Llanelli am ddeng munud wedi naw y nos ond rhwystrwyd y groesfan yno gan fil a hanner o bobl, gan gynnwys llanciau a oedd wedi dryllio ffenestri'r blwch arwyddo gerllaw.

Ar ôl colli yn eu gemau agoriadol, llwyddodd Llanelli a Chaerdydd i ennill.

Yr oedd Margot ar ymweliad a'i chynefin yn ardal Llanelli yn gynharch eleni ac wedi iddi ddychwelyd adref enillodd cerdd a gyfansoddodd yn sôn am ei thristwch yn gadael Cymru Gwpan Raphael Jones mewn cystadleuaeth flynyddol gan y gymdeithas Gymraeg yn Wellington.

Yna gôl wych gan chwaraewr y gêm, Mark Dickerson, wedi camgymeriad gan golwr Caerdydd, Jon Hallworth, yn dod a Llanelli yn gyfartal.

Mae gemau Cwpan Heineken Ewrop yn dechrau heno gyda Llanelli a Chaerdydd yn chwarae.

Yn nhîm Llanelli mae'r wythwr Scott Quinnell a'r clo Chris Wyatt yn cael gorffwys a'r maswr Stephen Jones fydd y capten.

'Gollon ni yn erbyn Llanelli ar Y Gnoll - gêm o'n i'n gobeithio ennill.

O flaen torf o dros dair mil, roedd Llanelli'n colli'r gêm o naw pwynt i chwech, a dim ond ychydig funude o'r gêm yn weddill, pan lwyddodd Andy Hill i groesi am gais a droswyd gan Phil Bennett, eiliade yn unig o'r diwedd.

Nos yfory bydd Caerdydd yn chwarae eto, y tro hwn yn y Cwpan Cenedlaethol, oddi cartre yn erbyn Llanelli.

"Dwi isio iddyn nhw gynnig pethau sy'n bwysig iddyn nhw, i'w hoedran nhw a'u hardal nhw." Dyna pam ei bod wedi mynd i ysgolion mewn ardaloedd tra gwahanol o'r wlad i chwilio am bobl ifainc i gymryd rhan yn y gyfres - Yr Wyddgrug, Llanfyllin, Llanfair Caereinion, Llanelli, Caernarfon, Blaenau Ffestiniog, Pontypridd a Chwmbran.

Fe/ ddaeth haul y gwanwyn â gwên i bob un o gefnogwyr brwd y Strade a holl aelode'r tîm fel ei gilydd, yn arbennig felly o gofio i bedwarawd o Glwb Llanelli grwydro oddi ar y llwybr cul, ac ymuno â Chlwb Caerdydd yn ystod diwedd y chwedege--Robert Morgan, D.

Ymhlith pynciau sgwrs pobl Llanelli yr oedd y tywydd deifiol o boeth a methiant diflas Cymdeithas Harmoni Llanelli yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin lle honnodd yr Athro Walford Davies fod y côr yn 'badly flat' wrth ganu 'How lovely is thy dwelling place' gan Brahms.

Er hynny parhau yn isa ond un mae Llanelli yn y Cynghrair Cenedlaethol.

Yn y llythyr yn trosglwyddo aelodaeth a anfonwyd gan ysgrifennydd Eglwys Ebenezer, Llanelli at ysgrifennydd Rhydyceisiaid, at un o'r plant yn unig y cyfeirir, sef Euros.

Enillodd Llanelli 11 - 0 neithiwr.

Ar ôl dod mor agos at gyrraedd yr wyth ola y tymor diwetha, bydd Llanelli yn yr un grwp a'r deiliaid - Caerlyr - y tymor nesa.

Rhoddodd y cytundeb yr hawl i BBC Cymru ddarparu darllediadau teledu, radio ac arlein o wyl 1999 ar Ynys Môn ac yn 2000 yn Llanelli, gan sicrhau darllediadau llawn a chynhwysfawr ar y teledu ar radio.

Gwantan iawn oedd record Llanelli yn y gême yn erbyn Caerdydd--wedi'r cwbwl, dim ond un gêm ro'n ni wedi'i hennill mewn pedair blynedd ar ddeg, ac roedd hwn yn gyfle rhy dda i'w golli, er mwyn dechre unioni'r cydbwysedd.

Penbre a'r llall o Ynys Befers, Llannon, Llanelli.

Bydd Hollins yn arwyddo amddiffynnwr canol cae Llanelli, Andrew Mumford.

Bu Llanwrtyd a'i ffynhonnau yn gyrchfan boblogaidd gan lowyr a gweithwyr alcan dyffryn Aman yn ystod y cyfnod hwn, ac yma y treuliai Gwilym Meudwy yntau fisoedd yr haf, gan ddychwelyd i Frynaman, Llanelli, neu Abertawe bob gaeaf.

Ond fydd Llanelli ddim yn teimlo fel gwneud unrhyw ffafrau a Chaerdydd.

Yn 1960 cafodd Mr a Mrs Beasley bapur dwy-ieithog yn hawlio'r dreth leol oddi wrth Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli, a Chymraeg y bil lawn cystal â'i Saesneg.

Sefydlu dwy gangen newydd yn ystod y flwyddyn; ail gangen yn Llanelli, sydd yn cwrdd yn y bore, a changen o fewn Cyngor Bwrdeistref Castell Nedd, y gangen gyntaf i'w sefydlu o fewn y gweithle.

Digwyddodd y cyfan ar linell bump ar hugain Llanelli, gyda Phil Bennett yn rhoi cic bwt i aildde/ chre'r chware; f~nne'n ply-gu i/ godi'r bêl, ond fel ro'n i'n sythu 'nghorff, dyma dacl ffyrnig yn 'y nghefn gan ddau o'r gwrthwynebwyr.

Dangosodd wyth Llanelli y gallent hwythau hefyd hyrddio'n effeithiol ar ôl sgrym, ac ennill ryc, a defnyddio'r meddiant pan ddaeth Luc Evans i mewn i roi pas wych i Andrew Morgan, yr asgellwr de, a chwaraeodd yn lle Ieuan Evans anafus.

Yn ystod fy nhymor yn fyfyriwr yn y Brigysgol yng Nhaerdydd, yn athro yn Nhonyrefail ac ym Mhenbre, Llanelli ac yn ddiweddarach yn Arolygydd Ysgolion ei Mawrhydi yn y Rhondda y cefais wir gyfle i hel y ffeithiau a hynny oddi ar berthnasau pell ac agos ac o archifdai, llyfrgelloedd a cherrig beddau, a bu'r wybodaeth yn gaffaeliaid ac yn iechyd i'm meddwl a'm hysbryd.

Ond tra oedd Llanelli yn dal yn y gêm wrth flaene eu bysedd, cafodd y cwbwl ei wyrdroi gan un symudiad cryf gan y blaenwyr, a Tommy David yn arddangos ei fedr a'i gryfder wrth garlamu dros linell gais Castell Nedd i sgori pedwar pwynt.

Gwelais ef yn cael sawl ffafr ar gamlesi'r cyfandir ar ffin lle'r oedd Almaenwyr ar ofalaeth, drwy esbonio mai Cymro oedd ef, yn gofalu am long wedi'i chofrestru yn Llanelli porthladd heb fod nepell o Gaerdydd!

Mae lot o ffrindie 'da fi yn Llanelli.

Pentyrru mae problemau Clwb Pêl-droed Llanelli.

Mae Llanelli yn gyfarwydd iawn â'r Cwpan Heineken ar ôl cyrraedd y rownd gyn-derfynol y llynedd.

Collodd pob un o chwaraewyr Llanelli o gwmpas hanner stôn o bwyse yn ystod y gêm honno, wrth i'r chwys lifo oddi arnon ni.

Yn Llanelli mae'n fore sych a hynny yn argoeli am gêm agored yn erbyn Caerloyw ar Barc y Strade, yn ôl Ray Gravel.

Llanelli, wrth gwrs, yw fy hen glwb i - fel chwaraewr ac fel hyfforddwr.

Ni amgyffredid pa mor gyflym yr oedd tymheredd gwleidyddol Llanelli a'r cylch yn codi, nac i ba raddau yr oedd Llanelli'n ddolen wan yn y llinell gledr rhwng Llundain, Caerdydd, Abergwaun ac Iwerddon.

Dyna gyhoeddodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn eu cyfarfod yn Llanelli.

Trwy'r haf, cynhelid raliau poblogaidd yn Sgwâr Neuadd y Dref Llanelli gan y Blaid Lafur Annibynnol, gyda Dan Griffiths yn llywyddu.

Prif swyddog y milwyr yn Llanelli erbyn hyn oedd yr Uchgapten Brownlow Stuart.

Mae amddiffynnwr canol cae Llanelli, Andrew Mumford, eisoes wedi ymuno ag Abertawe ar gytundeb blwyddyn.

Mae enillwyr Cwpan Gilbert y llynedd, Y Barri, drwodd i rownd derfynol eleni ar ôl curo Llanelli 4 - 1 yn ail gymal y rownd gyn-derfynol ar Barc Stebonheath.

Martyn Williams, blaenasgellwr Caerdydd, a hwyrach Robin McBryde, bachwr Llanelli, yw'r ddau fwyaf annisgwyl o blith y Cymry.

Chwaraewr Llanelli sgoriodd hi - clasur o'i bath.

Sefydlwyd rhai canghennau newydd yn ystod y flwyddyn, yng Nghoed-poeth, y Bermo, Penrhyndeudraeth, Dyffryn Teifi, Wdig ac Abergwaun, Maesteg, y Rhondda, ail gangen yn Llanelli, a changen ymhlith staff Cyngor Dosbarth Castell Nedd.

Rhoddodd y cytundeb yr hawl i BBC Cymru ddarparu darllediadau teledu, radio ac arlein o wyl 1999 ar Ynys Môn ac yn 2000 yn Llanelli, gan sicrhau darllediadau llawn a chynhwysfawr ar y teledu a'r radio.

Dwedodd Wayne Peel a chwaraeodd i dîm dan 21 Llanelli yn ystod tymor, fydd yn mynd i Siapan gyda'r tîm cenedlaethol yn yr haf, ar y Post Cyntaf, 'Mae'n wael ar y chwaraewyr sydd wedi gweithio'n galed trwy'r flwyddyn.

Ond bwriedir chwarae'r gêm rhwng Caerdydd a Llanelli.

Bydd mewnwr rhyngwladol Llanelli, Simon Easterby, yn cael triniaeth i'w goes y bore yma.

Ond mae Cwmbran wedi chwarae dwy gêm yn llai, ac yn wynebu Llanelli fory.

Mae'r clwb yn agos iawn at fy nghalon i ac ar ôl canlyniad Casnewydd yr un cnta rwyn edrych amdano yw un Llanelli.

O gael buddugoliaeth naill ai yn erbyn Caerloyw neu Colomiers ddechrau'r flwyddyn fe ddylai Llanelli gyrraedd y rownd go-gyn-derfynol.

Roedd Helen Mary Jones am sicrwydd - yn Saesneg - y byddai lefel bresennol y gwasanaethau yn adran ddamweiniau ac argyfwng Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, yn parhau.

At hynny y cyfeiriodd swyddog y dreth yn Llanelli.

Hefyd yn y tîm am y tro cyntaf fydd Leigh Jones sydd wedi ymuno â Llanelli o Fryste.

Caerdydd yn erbyn Llanelli, a'r gêm rhwng Aberystwyth a Wrecsam ym Mhlas Crug.