Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llangefni

llangefni

Y bwriad oedd cynnal yr Eisteddfod yn Llangefni, ond bu'n rhaid ei symud i Fangor ar gais y Gweinidog Trafnidiaeth.

Steve Eaves fydd yn ymddangos ar y llwyfan, ac mae'r tocynnau ar gael am £4 o Siop Cwpwrdd Cornel, Llangefni ac o Awen Menai, Porthaethwy.

Clybiau Llangefni a Bodedern oedd yn gydradd drydedd efo Clwb Dwyran yn bumed a Llangoed yn chweched.

Wrth nesa/ u at Llangefni, llifa'r nant drwy lyn a elwir yn Llyn Pwmp.

Islaw Pont Llangefni mae'r afon yn llifo'n araf a dioglyd ar draws Cors Ddyga a Morfa Malltraeth i'r môr.

Yn y blynyddoedd hyn arferai aelodau Cangen Coleg y Brifysgol ym Mangor fynd oddi amgylch i werthu Y Ddraig Goch a phamffledi'r Blaid ar y strydoedd yn nhrefi a phentrefi Môn a Arfon; lleoedd iawn am farchnad oedd Caernarfon, Llangefni ac Amlwch ar nos Sadwrn.

Mab Trefor Bach (i bobl Llangefni) yw Barry Williams, Athro ym Manceinion ac yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae wedi profi ei hun yn ddramodydd o fri.

Dechreuodd Janet ar ei gyrfa addysgol yn ysgol Tŷ Mawr, Capel Coch, ac Ysgol Gyfun Llangefni.

Gêm gyfartal 1 - 1 yn erbyn Porthmadog gafodd Llangefni, sy'n yr ail safle.

'Mae'n dipyn o broblem,' meddai Brian Owen, rheolwr Clwb Pêl-droed Llangefni.

Yn nhref Llangefni ac yn ei chyffiniau mae nifer o byllau yn Afon Cefni, a rhoddwyd enwau ar bob un.

Cerddodd gorymdaith fawr o aelodau'r Gymdeithas o Faes yr Eisteddfod yn Llangefni at y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd gan gasglu 20,000 o enwau ar Ddeiseb ar y ffordd.

CAI: Canolfan Astudiaethau Iaith, Llangefni

Mae Audrey yn aelod o gangen Llangefni o'r mudiad ac yn ymddiddori yn y gweithgareddau ers pum mlynedd.

Gallwn fod yn bur sicr, pe ymddangosai Christmas Evans yn Llangefni'r wythnos nesaf, y byddai cryn dyrru i weld y dyn, ond go brin y byddai pobl yn dal i dyrru i wrando arno ymhen pythefnos.

Os yw ffigurau diweddar i'w credu yna gallwn ragweld mai Llangefni a Bodffordd fydd yr unig gymunedau naturiol Gymraeg ar ôl ym Môn gyda dros 75% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg pan gyhoeddir canlyniadau y cyfrifiad nesaf sydd i'w gynnal yn 2001.

Ffurfwyd dwy gymdeithas tenantiaid, un ym Mhenucheldre, Caergybi, a'r llall ar Stad Ty Hen, Llangefni.

Yn Llyfrgell y Sir, Llangefni; Archifdy Mon; Llyfrgell Coleg y Brifysgol ym Mangor - lle cafwyd llawer o gymorth gan Tomos Roberts; Llyfrgell Ganolog Manceinion ac mewn hen rifynnau o'r "Guardian a'r Times".

Tilsley â ni i gwm dychmygol yn ei awdl fuddugol, 'Cwm Carnedd' yn Eisteddfod Llangefni, 1957, ond cwm a oedd yn adrodd hanes pob cwm a chwalwyd o ganol y pumdegau ymlaen.

LLONGYFARCHIADAU cynnes iawn i Mrs Josie Pickering sydd yn aelod o Sefydliad Y Merched, Llanedwen ar ennill y "Gwen Brock cup" y hi gafodd fwyaf o bwyntiau mewn cystadleuthau unigol yn yr "Anglesey Federation Annual Comp" a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Llangefni.

Yng nghylch Amlwch ac yn Ysgol Llangefni yr oedd mab hynaf y Cynghorydd a Mrs Percy Ogwen Jones Llaneilian eisoes yn enwog am ei ddisgleirdeb.

Llangefni Mehefin 23 Gareth Thomas, Aelod Seneddol; Yr Athro Derec Llwyd Morgan, Prifathro Prifysgol Cymru Aberystwyth; Bethan Evans (Gwanas), awdures; Y Cynghorydd Goronwy Parry.

Dywedodd Carol Owen, llefarydd ar ran y symudlad fod yr wylnos yn ffordd o ddangos cefnogaeth i waith y gangen yn Llangefni.

Yn dilyn wythnos a hanner eithriadol lwyddiannus yn hanes Theatr Fach Llangefni, cafwyd sgwrs ag awdur y ddrama "The Royal Charter".

Penderfynwyd yn y diwedd adeiladu oriel newydd ger Llangefni a fyddai'n ganolbwynt ar gyfer bywyd diwylliannol yr ynys.

Geni Kyffin Williams yn Llangefni.

Y refferendwm, sgwâr Llangefni ar ôl ethol Keith Best yn 1979 a chyfarfod cyhoeddus i gefnogi Gwynfor yn ei safiad dros Sianel ydi rhai o'r 'profiadau mawr' cynta dwi'n cofio eu cael, a gan nad oedda ni yn deulu am fynd o steddfod i steddfod mae'n debyg mae steddfod Llangefni a champio yng ngardd gefn Anti Jini oedd un o'r cyfleoedd cynta ges i i ymaelodi.

Steddfod Genedlaethol Llangefni 1983.

Yn ogystal â gig y Dysgwyr fe fydd Ap Ted a'r Apostolion yn ymddangos yn Nhafarn y Rhos, Llangefni ar yr un noson.

Mae'r enw hwn yn sicr yn cyd-fynd â ffurf ddaearyddol Dyffryn Cefni, yn enwedig felly'r rhan ohono sydd uwchlaw Llangefni.

Davies, 4 Ponc y Fron, Llangefni, Sir Fôn, sy'n derbyn copi o Lyfr y Ganrif.

Aeth Gwilym R. Tilsley â ni i gwm dychmygol yn ei awdl fuddugol, 'Cwm Carnedd' yn Eisteddfod Llangefni, 1957, ond cwm a oedd yn adrodd hanes pob cwm a chwalwyd o ganol y pumdegau ymlaen.

YR ARWYDD A'R CELFYDDYDAU: Roedd y cyflwyniad "Royal Charter", y sgript gan Barry Williams yn Theatr Fach Llangefni yn llwyddiant eithriadol.

Trefnwyd yr wylnos nos Fawrth gan fudiad Cymorth Merched Cymru sy'n rhedeg y lloches yn Llangefni.

Os yw ffigurau diweddar Social & Market Strategic Research i'w credu yna gallwn ragweld mai Llangefni a Bodffordd fydd yr unig gymunedau naturiol Gymraeg ar ôl ym Môn gyda dros 75% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg pan gyhoeddir canlyniadau y cyfrifiad nesaf sydd i'w gynnal yn 2001.