Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llanwyd

llanwyd

Llanwyd ei galon â llawenydd; roedd o'n rhydd!

Wedi misoedd o baratoi llanwyd y capel i'r ymylon a chafwyd hwyl ysgubol arni.

Cyn gynted ag y dechreuais siarad llanwyd neuadd y Cyngor â storom o stŵr o dan arweiniad ffyrnig yr enwog Mrs Bessie Braddock, AS a ddigwyddai eistedd yn union o'm blaen.

Teganau gwerthfawr fyddai yn y hosanau, a wnaed gan ryw Tom Smith os cofiaf yn iawn, a llanwyd yr ysgol gan ein lleisiau ifainc yn canu mewn Saesneg Cymreig iawn.

'Roedd dail trwchus y coed wedi troi lliw yma ac acw yn barod, a llanwyd ei ffroenau gan leithder hydref.

Llanwyd y ddau Land Rover a chychwyn ar doriad gwawr.

Llanwyd y craciau, ailaddurnwyd y waliau tu fewn, rhwystrwyd y lleithder rhag amharu mwy ar wynder y wal y tu ôl i'r pulpud a gwnaed pob dim yn ddiddos a chlyd er mwyn croesawu'r adfywiad a oedd yn sicr o ddigwydd.

Llanwyd hi â dŵr a ...

Llanwyd ei ffroenau ag oglau gwlydd a phridd, a gwenodd wrth feddwl iddi ennill y frwydr i beidio â'u golchi.

Teimlodd nhw yn ei ddwylo a llanwyd ei feddyliau gan falchder a thristwch.