Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llawenydd

llawenydd

Llanwyd ei galon â llawenydd; roedd o'n rhydd!

Roedd sawl achos i'r llawenydd hwnnw, ond oy llawenydd mwyaf ohonynt i gyd o du'r beirdd oedd y llawenydd o garu'n ddilyffethair.

Fuasai swyddogion Horeb yn caniata/ u?' A dyma'r hen frawd yn ateb ar unwaith â llawenydd y byddai popeth yn iawn, am iddo alw cyfarfod.

Mae gen i go' am deimlo llawenydd, nid yn unig ein llawenydd ni fel grūp ond llawenydd i dawnswyr eraill yn ein llwyddiant ni.

Mae dylanwad y llawenydd hwnnw yn y gwaith yn dal i lynu yn y cof.

Doedd anrhydedd ac urddas yn cyfrif dim a diflannodd pob llawenydd o'u bywydau.

A dyna ni wedi sôn am Colin Stephens: onid llawenydd pur yw i ddyn weld maswr yn rhedeg fel y gwnâi hwn brynhawn Sadwrn?

Gwrthgiliodd gofalwr arwyddion o'i safle yn y blwch gorllewinol, er llawenydd i'r dyrfa, ond rhaid oedd defnyddio dulliau cryfach i gael gwared ar y gofalwr o brif flwch yr orsaf.

Gwenodd ar Leusa Parry, a oedd wrth ei phleser yn llnau'r brasus: llawenydd ei bywyd hi oedd y sglein ar yr allor: Talai o'i phoced ei hun am y Brasso ar ôl i Undeb y Mamau gwyno ei bod yn defnyddio gormod ohono; ond ni ddychwelodd Leusa Parry ei gwên, ac roedd hynny'n brifo o gofio fel y bu hi'n ddadlau drosti.

Canmol a chlodfori a gwneuthur clod a llawenydd a gogoniant oedd moes ddiwers y prydydd.

Ydi'n llawenydd ni yn yr Arglwydd, ac yng ngwaith yr Arglwydd o ran hynny wedi mynd yn rhywbeth bas, 'sgwn i?

Mawr y llawenydd fydd gweled eu hwynebau melynion wedi cael byw i ddychwelyd - a dychwelyd yn fuddugoliaethus, dychwelyd wedi gorffen eu gwaith!

A llwyddodd yr Eglwys Bresbyteraidd hithau, â llawenydd, fel y rhai a aent i'r môr mewn llongau a gwneud eu gorchwylion ar ddyfroedd mawr, chwedl y salmydd, i gyrraedd 'i'r hafan a ddymunent'.

Dichon y daw llawenydd annisgwyl i'n rhan; dichon y bydd tristwch du yn ein goddiweddyd.

LLAWENYDD o'r mwyaf oedd clywed y newyddion mai ein Golygydd dawnus a gweithgaf fydd yn derbyn Medal Syr Thomas Parry Williams, er clod yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Nedd eleni.

Yr oedd yn rhaid imi gadw'r llawenydd yn ddistaw i mi fy hun.

Rhowch y prawf i mi, ac fel Tomos hefyd, mawr fydd y llawenydd yn fy nghalon.

Roedd pêl-droed Brazil yn codi rhywun i'r entrychion -- ....nid jest chwarae oedd yma ond celfyddyd yn rhoi mynegiant i'r ysbryd dynol ar ei orau, yn llawn llif dychymyg, creadigrwydd a llawenydd.

Mawr oedd y syndod a'r llawenydd a'r siarad trwy'r gymdogaeth ar yr achlysur; ond yr oedd Robin y Glep, druan, fel wedi ei daro â dychryn a mudandod; yr oedd ei holl ddaroganau wedi profi'n gelwyddog.

Ei nod pennaf yw osgoi pob drwg, ac yn arbennig y galluoedd drygionus sydd y tu hwnt i'w ddirnadaeth - osgoi'r drwg ac ymgyrraedd at y da a phrofi llawenydd a bodlonrwydd.

Er gwaetha'r llawenydd i Gasnewydd cafwyd un nodyn chwerw.

Diau fod aml denant yn methu cysgu gan y llawenydd sydd yn deillio iddo o'r ymwybyddiaeth hon o rinwedd ar ei ran.

Llawenydd o'r mwyaf oedd ennill y gystadleuaeth, ac i goroni'r cyfan cyflwynwyd cwpan iddynt gan Ddug Norfolk.

Gan fod marchnad iddynt yr oedd llaweroedd o bobl yn cael bywoliaeth o werthu cwningod bywoliaeth eithaf bras mewn rhai achosion - ac yn naturiol, nid oedd y clwyf yn achos llawenydd i'r rheini.

heb amheuaeth, cafodd pêl-droed yng nghymru ergyd greulon a'r unig achos llawenydd oedd yr un cwbl negyddol i loegr hefyd fethu a chael mynediad i'r america hefyd.

Yr oedd yn llawenydd i mi eich bod wedi darganfod gwreiddiol Scren Heddwch Islwyn, rhaid imi gyfaddef na wyddwn i ddim am Jane Simpson ac nid oes gair amdani yn y Biographical Dictionary sydd gennyf.

Ac y mae angen inni gael ein bedyddio o'r newydd â'r llawenydd hwnnw sy'n troi'n genhadu ffyddiog.

Felly hollol anaddas yw testunau fel "Llawenydd", "Gwladgarwch", "Eiddigedd", etc.

Da oedd cael rhannu peth o'r wefr a'r llawenydd.

Mynega Anna broffwydes ei llawenydd 'wrth y rhai oll a oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem'.

Nid yn aml y digwyddai hynny, ond mawr oedd fy llawenydd pan ofynnid i fy nhad wrando ar ein hadnodau.

Gweddi: Tydi, O Arglwydd, a lanwodd ein calonnau ni â llawenydd.

Dychmygai'r rhedeg penysgafn hyd lwybrau'r mynydd, y llawenydd o weld y tū o bell, yr edrych ymlaen at groeso mam ac at oriau o chwarae cyn noswylio.

'Rydan ni'n dueddol o feddwl am chwerthin fel peth pleserus, cynnes, afieithus; cyfrwng i ddangos a rhannu llawenydd.

'Duw anweledig, Duw bendigedig, meddwl tragwyddol, Trindod fendigedig anfeidrol, llawenydd anhraethol, Meistr hollalluog, undeb llonydd, anfesurol tragwyddol' a geir.

Udodd mewn llawenydd.