Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llechwedd

llechwedd

Dyffryn afon Lledr yn llawn ffresni i gyfeiriad Bwlch y Groes a llethrau'r Drosgol, efo ambell oen bach yn prancio yn ei afiaith ar y llechwedd.

Agor chwareli Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog i ymwelwyr.

Ymddangosodd milwr arfog dros y gorwel a rhedeg i lawr y llechwedd.

'Beth sy' gen' i dwi'n 'i roi a beth dwi'n gael dwi'n 'i gadw,' meddai hi a phocedu'r goron.) Ailgychwyn o Bontarelan; lle mae'r ffordd yn gwyro i'r chwith rhyw hanner milltir tu hwnt i'r bont, gadael y car a cherdded ar hyd yr hen ffordd las sy'n mynd ar letcroes i fyny'r llechwedd i'r dde.

Dan goed y goriwaered yn nwfn ystlysau'r glog, ar ddol a chlawdd a llechwedd, ond llechwedd lom yr og.

Parchus gof am y cartre hwn ar y llechwedd wrth droed y mynydd o fewn ychydig o fewn ychydig o filldiroedd i Chile.

Ac fe gefais gyfarwyddiadau - manwl; pwy ffordd i'w dilyn allan o Langolwyn, troi i'r chwith wrth eglwys y Santes Fair, a dilyn y ffordd fawr am ryw ddwy filltir, troi oddi ar honno wedyn wrth westy'r Tarw Du, a dilyn y ffordd gulach i fyny'r llechwedd; troi heibio talcen capel Methodus a dilyn ffordd y chwarel garreg galch; yna, ar grib rhiw go serth, ac yng nghanol y wlad yr oedd Trem Arfon.

Davies, Llechwedd, a'r Mri Iorwerth V.

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg dywedir mai tri yn unig a ddysgodd ddarllen, sef Edward Jones, Llechwedd Llyfn; Owen Roberts, Tŷ'n Pant; a Robert Roberts, Bryn Du.

Gan fod hen draddodiadau yw'n cysylltu mwy nag un cawr â'r Hengae mae'n bosibl iawn mai yno y trigai Carwed ac mae Rhiw Garwed oedd hen enw'r llechwedd rhwng Bwlch y Clawdd Du a'r Hengae.

Erbyn hyn anifeiliaid gaiff loches mewn rhai o'r hen gartrefi, fel Tai Fry a Llechwedd Llyfn, ac amheuwn a ŵyr un o drigolion yr ardal heddiw union safle y cartrefi a adwaenid gynt fel, Tyn-y-Maes, Ty'n-y-gornel, Ty'n-yr-ardd, a Bryn Bras.

Mae ei unig fab a'r unig Ferch o hyd yn byw yn yr hen gartref a phleser i mi yw mynd yn ôl ar dro yno a gweld ein hen fferm ninnau ar y llechwedd gyferbyn.

Ymhen rhyw ddwy filltir o Abergwesyn daw terfyn ar y coed gleision yr ochr draw i'r afon a daw llechwedd noeth Cein Alltwinau, a'r gwrychyn o graig ar ei war, i'r golwg.