Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llechwraidd

llechwraidd

O'r diwedd, cafodd hyd i'r hyn y chwiliai amdano a rhoddodd ef ym mhoced ei sgert yn llechwraidd.

Mae'n ymddangos i mi weithiau mai rhyw fusnes llechwraidd bron yw cyhoeddi llyfr yn y Gymraeg.

Gwyddai hefyd y byddai ei fam - fel rhyw fath o ymddiheuriad dros beidio â' i amddiffyn pan gosbid ef - yn gwthio chwecheiniog, neu hyd yn oed swllt, yn llechwraidd i'w law, ac roedd hynny'n ei blesio'n iawn ac yn tanseilio datganiad f'ewythr, "Wel, os na halwn ni ef bant i'r ysgol, rhaid ei gadw fe'n brin o arian a chadw disgyblaeth iawn arno." Pan ddechreuodd Dic fynd i Ysgol Ramadeg Derwen, i'r Dosbarth Cyntaf, roedd yn cael mwy o arian poced mewn wythnos nag a gawn i am fis pan oeddwn yn y Chweched Dosbarth.

Ni allai Harri ychwaith beidio â meddwl am ei gyfoedion a'i gyfeillion, fel y byddent yn cymryd arnynt gydymdeimlo ag ef yn ei golled, ac ar yr un pryd yn llechwraidd chwerthin yn eu llewys ei fod wedi bod mor anffortunus yn ei ymdrech gyntaf i droi ei gefn arnynt hwy!

Toc, mentrodd agor cil ei llygaid i edrych yn llechwraidd o'i hamgylch, gan ddisgwyl gweld rhywun yn camu o'r tywyllwch.

Trwy wneud hyn mae'n ei diogelu ei hunan rhag ymosodiad llechwraidd unrhyw elyn a all fod yn dilyn ar ei thrywydd.

Wedi'r cyfan, roedd yn rhaid i'r dawnswyr sicrhau fod ganddynt ddau o bob un o'r nwyddau gwerthfawr a brynent - un ar eu cyfer hwy'u hunain ac un arall i'w estyn yn llechwraidd i swyddogion y tollau ym Moscow.

Yn ystod y cyfnod yma o tua deng wythnos pan gollent eu plu a thyfu rhai newydd, maent yn ddistaw a llechwraidd gan eu bod mewn perygl oddi wrth pob math o elynion.

Yn llechwraidd ofalus, agorodd gornel.

'Roedd Cellan Ddu wedi sleifio allan o geg yr ogof ac yn gwthio'i ffordd yn llechwraidd o lech i lwyn tua Nant Gwynant.

Os oedd hi'n ddydd gwaith, a dyn yn ymdrechu, hyd orau'i allu i chwibanu a chodi'i galon wrth gerdded yn anfoddog tua'r ysgol, mynnai'r galon guro'n gyflymach wrth imi brysuro heibio'r rhes o dai lle roedd Talfan yn byw, ac yno y pwysai'n llechwraidd yng nghysgod y drws, ei wallt cnotiog du yn ei lygaid a darn o'i dalcen yn gwenu arnaf.

Dro arall, cymerai gip yn llechwraidd at yr ŵydd, fel petai'n ofni y gallai'r greadures honno neidio'n sydyn dros ymyl y ddysgl ac ymosod arno.