Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleddfu

lleddfu

A go brin fod Rick wedi lleddfu dim ar ei thymer ddrwg drwy fod hanner awr yn hwyr yn dod i'w nôl hi.

Bwriad y tasglu sy'n cwrdd ym Mhen-y-bont yw lleddfu'r ergyd i'r diwydiant yng Nghymru.

Nid oes unrhyw brofiad yn fwy ingol na gwylio rhywun yn dioddef poenau dirdynnol heb fawr ddim gobaith gallu eu lleddfu.

Hedfan am bump awr mewn cocpit awyren y Groes Goch, yn cario nwyddau allan i geisio lleddfu dioddefaint y Cwrdiaid.

Ar yr un pryd, roedd rhan y llywodraeth yn lleddfu'r newyn yn ddadleuol iawn.

Nid heb achos y dywedir fod Thomas Jones Dinbych yn 'anwesu Dafydd ap Gwilym a Lancelot Andrews!' Y mae'r ffraethineb hefyd yn lleddfu rhywfaint ar rym y serch: nid y rhyferthwy o serch meddwol y canodd y beirdd rhamantaidd iddo sydd yma o gwbl.