Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleddir

lleddir

'Nid bob dydd y lleddir mochyn' chwedl f'ewyrth, ar derfyn cinio diwrnod dyrnu.

Bradycha ymddiried Math a Phryderi, mae'n creu rhyfel rhwng Dyfed a Gwynedd lle collir bywydau lawer, a lleddir Pryderi gan Wydion ei hun, - hyn oll er mwyn bodloni chwant Gilfaethwy.

Felly y lleddir y wedd ddistrywiol i dadolaeth, a gwneir yr un peth i'r wedd gyffelyb mewn mamolaeth wrth ladd y Twrch, sy'n cynrychioli, dan gochl creadur gwrywaidd, yr hen fam o hwch a ildiodd fywyd i Culhwch, ond a oedd - fel y dywedodd James Joyce am ei famwlad - am ei fwyta'n fyw wedyn.

Lleddir y morloi bach ar yr adeg yma oherwydd pe baen nhw'n cael byw yn hwy fe fuasai eu cotiau yn troi'n lliw brown llai deniadol.