Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llefydd

llefydd

Hyd yn oed wrth droi'n ddiweddar at destunau'n nes adref yng Ngwent am ysbrydoliaeth, mae gweddillion chwareli mewn llefydd fel Clydach, heb fod ymhell o'r Fenni, wedi galluogi Bert Isaac i barhau â'r thema.

Mewn llefydd fel Beirut, Gogledd Iwerddon neu Kuwait lle bynnag yr ydw i wedi bod - mae yna ddigwyddiad sicr a phendant wedi dangos i mi fod yna lywodraeth ddwyfol ac nid jyst llywodraeth fydol.

'Fydda i ddim yn meddwl amdanyn nhw fel llefydd segur, ond fel llefydd byw a diddorol iawn yn eu ffordd eu hunain'.

Mae'n help i wasgu ychydig rhagor ar y llyw mewn llefydd felly.

Nid yr un drefn sydd ym mhob gwaith; mae y malwr ei hun, yn ambell i le, yn gorfod tyllu'r rhain, ond mewn llefydd eraill mae dyn sy'n gwneud dim ond tyllu.

Os oes ond ychydig o batrymau ymddwyn positif ar gael, a mynediad cyfyngedig i siopau, llefydd gweithio a gweithgareddau hamdden, yna gellir gwneud hunan-ddatblygiad yn nod ffurfiol.

Y tueddiad heddiw ydi clirio llefydd o'r fath, a dyna'r nico wedi colli ei gynefin a ninnau yn colli ffrind a chantor lliwgar diguro.

Mae hyn i'w weld i raddau yn y gwledydd yr ydw i wedi dewis mynd i ffilmio ynddyn nhw - llefydd sydd wedi cael sylw mawr yn y newyddion, ond sylw arwynebol, a lle mae yna her i edrych yn ddyfnach .

Gyda'r nos yn yr haf byddai'r meinciau i lawr ger Penycei yn llawn o ddynion mor, pawb a'i bibell yn ei ben yn hel atgofion am hynt a helynt cychod a llongau.Clywid enwau llefydd fel Valparaiso, Taltal, Callao, Buenos Aires, Cape Town, Hambro a Genoa yn amlach o lawer na llefydd fel Pwllheli a Chaernarfon.

Bu'n gweithio ac yn arddangos lawer iawn dramor hefyd, mewn llefydd megis Galicia, Rwsia, Tsiecoslofacia a'r Ffindir, lle daeth ei grūp yn bedwerydd yn y byd mewn cystadleuaeth cerflunio eira.

O ystyried pethau fel yna, roeddech chi'n sylweddoli wedyn eich bod chi yn un o'r llefydd mwya' peryglus ar y ddaear.

Gwnewch restr o rai o'r llefydd lle gall gweithiwr gofal hyrwyddo datblygiad personol a gwrthweithio diffyg hunan-barch.

A deud y gwir Glyn fy mrawd canol, oedd y drwg, fo yn ddieithriad oedd cychwyn pob drygioni yn tŷ ni, wn i ddim am neb sy'n gallu tynnu coes ru'n fath â fo 'Odd Wili mrawd hyna', yn hogyn call distaw, ond efo cyhyrau mewn llefydd nad oedd gen i ddim llefydd.

Doedden nhw ddim yn hoff iawn o'r Israeliaid ac roedden nhw am ddangos i ni y llefydd oedd wedi'u dinistrio - fel y stadiwm athletaidd arbennig o hardd a chwalwyd gan y frwydr.

Bydd y ffilm ddogfen yn dilyn Geraint ar hyd strydoedd y brifddinas, i gwrdd ar bobl ac i weld y llefydd gafodd ddylanwad arno yn ystod ei yrfa.

Yn 1998 cynhaliodd Cyngor Sir Conwy adolygiad llawn o faint o le oedd ar gael i ysgolion er mwyn darganfod beth oedd yr angen o ran llefydd ychwanegol.

Unwaith y sefydlwyd Lloegr fel cenedl-wladwriaeth, yr oedd hi'n anochel y byddai'i brenhinoedd yn meddiannu Cymru, yn rhannol, wrth gwrs, am fod brenhinoedd yn y dyddiau hynny yn hoffi meddiannu llefydd, ond hefyd am y byddai Cymru yn fygythiad parhaus i Loegr, boed yn fygythiad uniongyrchol o du'r Cymry eu hunain neu o du gelynion tramor.

Os yw llefydd a allai fod yn ffrwythlon yn dal i ddirywio, pa obaith sydd gan ardaloedd y sychder mawr?

Ym mhob un o'r llefydd hynny, roedd gohebwyr Cymraeg yn gweithio, nid gydag ysgrifbin a phapur ond gyda meicroffon a chamera.

Mae Menna Elfyn wedi teithio dros y byd yn darllen ei gwaith i gynulleidfaoedd; mae'r llefydd anghysbell y mae hi wedi ymweld â hwy a'r bobl y mae hi wedi eu cyfarfod yn ychwanegu at ei gwaith.

Ond mi fyddwn i'n dweud wrth fy nghyd-Eglwyswyr, dydi hyn ddim yn deg ar y Capelwyr, ein bod ni yn disgwyl iddyn nhw gau eu llefydd nhw a chlosio ato ni.

Iddo ef, llefydd i'w gadael ar drugaredd natur ydynt, i ddirywio yn eu hamser eu hunain; ac mae'n arwyddocaol mai Dorothea ddadfeiliedig oedd yr ysbrydoliaeth fawr am flynyddoedd, yn hytrach na'r chwareli a drowyd yn atyniadau twristaidd ym Mlaenau Ffestiniog.

Fel arfer, roedd y paratoadau at y Nadolig yn digwydd mewn llefydd fel eglwysi'r Eglwys Roegaidd Uniongred ac mi roedd yna un eglwys hardd iawn yn y ddinas.

Mae disgwyl i Gymru ennill a mae'n gyfle cynnar i'r chwaraewyr i gyd i sicrhau eu llefydd yn y tîm ar gyfer y profion anos i ddod.

A chan mai ychydig o ddiddordeb sydd gan y rhan fwyaf o ohebwyr yn yr hyn sy'n digwydd, welwn ni ddim peth wmbreth o sylw yn y llefydd hynny.

Mae pob dim yn PDH bellach - archfarchnadoedd, llefydd parcio, banciau, peiriannau parod.

Pe cawsai Bedwyr fyw, buasai yn awr yn cydarwain tîm o weithwyr o dan nawdd y Bwrdd Gwybodau Celtaidd i lunio cyfres o eiriaduron ar enwau llefydd Cymru, tasg y mae hen angen ei chyflawni.

A dyma fi, gyda'r moesgarwch hwnnw sy'n dod i ddyn mewn ysbyty a llefydd lletchwith tebyg, yn dweud: 'Wel, gan fod y Pasg mor agos, mae'n weddus ddigon eich bod chi'n meddwl am grefydd.' Os do fe!

Yn aml iawn maent yn darganfod mai un o'r rhesymau pennaf dros ddirywiad ydi dinistrio cynefin yr dar, ac felly dinistrio eu bwyd a'r llefydd i nythu e.e mae llawer i hen ddarn o dir a llwyni toreithiog o ysgallen ynddo yn nefoedd i'r nico.

Porthwyd ei ddiddordeb cynnar ef mewn enwau llefydd gan yr archif anferth o enwau a adawodd ei ragflaenydd ym Mangor, yr Athro Melville Richards, i'r Coleg.

Yn Yn ei elfen magodd berthynas glo/ s gyda'i wrandawyr, er bod rhai yn ddig wrtho am roi'r farwol i'w damcaniaethau cartref hwy eu hunain am enwau llefydd ac enwau eraill.

Hyd yn oed os ydy aelodau Pwyllgor Gwaith Môn yn dweud nad oes agen y bae mi fydd yna rai enwau llefydd ar yr ynys yn aros waeth pa mor od ydy nhw - City Dulas, er enghraifft.