Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleiafrif

lleiafrif

Ystyrid yr iaith ymerodrol fel un a oedd yn rhagori ar yr ieithoedd lleiafrif.

O'r cychwyn cyntaf dadleuodd Cymdeithas yr Iaith dros bwysigrwydd Cynulliad trwyadl ddwyieithog, ond, flwyddyn wedi sefydlu'r Cynulliad realiti'r sefyllfa yw mai lleiafrif bach o aelodau'r Cynulliad sy'n dewis siarad Cymraeg ar lawr y siambr a llai fyth yng nghyfarfodydd pwyllgorau'r Cynulliad.

Codai pryder pellach, petai'r broses adnabod anghenion o fewn y cynghorau newydd yn arwain at anwybyddu anghenion neilltuol y disgyblion a'r myfyrwyr sydd yn mynd trwy'r ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg, trwy fod cynrychiolwyr y system honno yn y lleiafrif bob amser wrth ystyried anghenion a blaenoriaethau a'r anghenion cyfrwng Cymraeg yn cael eu gosod yn ddarostyngedig i anghenion y disgyblion a'r myfyrwyr sy'n mynd trwy'r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yn bennaf.

Ond problem unrhyw ddiwylliant lleiafrifol yw ei bod yn straen ar adnoddau dynol ac ariannol gorfod darparu'r helaethrwydd defnyddiau sy'n angenrheidiol i blesio chwaeth amrywiol y gynulleidfa, ac na ellir chwaith fforddio troi unrhyw ffurf lenyddol i gyfeiriadau rhy esoterig ddeallusol ar draul ennyn diddordeb y mwyafrif (sydd ynddo'i hun yn lleiafrif!) Felly rhaid o hyd ennyn diddordeb yn y gair Cymraeg printiedig trwy gyfrwng pethau fel Cyfres y Fodrwy neu'r papurau bro, er bod y wasg argraffu'n anleu fwyfwy at bobl sy'n meddwl yn ystyriol erbyn hyn.

Yma y peth a ddaw i'r golwg yw difri%o'r diwylliannau lleiafrif trwy eu hanwybyddu.

Os mai trwy gyfrwng y Saesneg y dysgir plant, pa iaith bynnag eu mamiaith - boed hynny yng Nghymru neu yma yng Nghaerl^yr lle mae chwarter y plant sy'n byw yma yn Asiaid neu yn yr Unol Daleithiau lle mae lleiafrif arwyddocaol Hispanig neu mewn llawer man ledled y byd - nid oes byth broblemau mae'n ymddangos.

Eraill yn mynnu y dylai fod hawl gyda phob lleiafrif i ymarfer eu crefydd a'u diwylliant.

Er enghraifft, er bod menywod yn amlwg fel gweithredwyr o'r cychwyn cyntaf, lleiafrif oeddynt ymhlith yr arweinwyr dros y cyfnod ar ei hyd, darlun sy'n adlewyrchu natur gwleidyddiaeth Cymru yn gyffredinol hyd heddiw.

O ran hynny lleiafrif cymharol fychan o Annibynwyr sydd â syniad clir am ei natur, ei waith a'i awdurdod.

Lleiafrif ohonynt a dderbyniodd unrhyw fath o addysg ffurfiol, ac yn ystod y cyfnod hwn y gwelwyd agor y mwyafrif o academi%au'r ymneilltuwyr.

Iaith ar encil yw'r Gymraeg yng Nghymru mwaych, iaith lleiafrif a lleiafrif sydd eto'n lleihau.

Fel Cymro, dwi'n meddwl fy mod i'n dueddol o glywed llais y lleiafrif, yn hytrach na'r mwyafrif; mae gen i fwy o glust i glywed yr ochr leiafrifol, neu'r ochr sy'n colli a'r ochr sy'n cael ei gormesu.

Y mae hefyd yn cynnwys ei lleiafrif ei hun o siaradwyr Cymraeg.

Y mae Cymru Gymraeg eto'n rhan go helaeth o ddaear Cymru ac nid yw'r lleiafrif eto'n gwbl ddibwys.

Ond, mae sefydliad dwyieithog lle mae'r aelodau i gyd yn rhugl mewn un iaith a lleiafrif yn unig yn rhugl yn yr iaith arall yn dra gwahanol i sefydliad lle mae'r rhan fwyaf o'r aelodau yn hollol ddibynnol ar gyfieithu llafar ac ysgrifenedig.

Y mae hi ei hun yn lleiafrif bychan iawn o fewn y Deyrnas Unedig a reolir gan Loegr.

Un o'r tri oedd am aros adre oedd Leighton James ond roedd yn y lleiafrif o bell ffordd.

"Perffeithrwydd yw nod yr eilradd" "Rhyw y Sais, drais a lladrad." "Mae awgrym yn creu; mae gosodiad yn lladd." "Y lleiafrif sydd wastad yn iawn." "Bydd yn ymarferol - mynna'r amhosibl." ac un arall, sy'n addas iawn siŵr o fod: "Gwae chwi pan ddywedo dyn yn dda amdanoch."

Ond y rheswm paham fy mod i yn lleiafrif o fewn lleiafrif yw am ei bod yn edifar gennyf bod hyn oll wedi digwydd.

Yr wyf innau'n un o'r lleiafrif hurt sy'n gweld ynddo farwolaeth barchus ac esmwyth ac angladd ddialar i'r Gymraeg.

'Does raid i ni ond cofio am y Catalaniaid a'r Basgiaid i sylweddoli sut y mae bodolaeth lleiafrif diwylliannol, hanesyddol neu ethnig yn dibynnu ar iaith.

Hyd y gwn, dyw'r ysgolheigion heb weithio ar y cysylltiad rhwng patrwm y pleidleisio yn y ddwy refferendwm, ond mi led-greda'i fod cyfran uchel o'r rhai a bleidleisiodd dros y Cynulliad ymhlith y lleiafrif a bleidleisiodd dros ddod allan o'r Gymuned.

Dyn a gyts y proffwyd ynddo i fentro sefyll ar ei ben ei hun ac mewn lleiafrif - fel y Parch.

Y gwir yw fod dallineb tuag at ddiwylliannau lleiafrif yn cael ei feithrin yn gyson tros y canrifoedd yng nghyfundrefn addysg Lloegr.

Ond buan iawn yr oeddent yn mynd gam ymhellach ac yn defnyddio'r iaith ymerodrol fel cyfrwng i danseilio'r diwylliant lleiafrif.

Os ydych ymhlith y lleiafrif ffodus sy'n ystyried prynu carafan newydd sbon yn hytrach nag un ail-law, yna mae'n bosib y cewch chi fargen ychwanegol drwy roi eich archeb yn ystod wythnos y sioe.

Eto rhaid cofio mai mudiad bychan iawn, mudiad lleiafrif bach, oedd y Blaid yn ystod y rhyfel.

Pryderir y gallai hyn ddigwydd am fod lleiafrif bychan o'r gymuned - rhieni lleiafrif o'r plant sydd yn digwydd bod yn mynd trwy'r ysgol ar y pryd - yn dymuno addysg Saesneg yn bennaf i'w plant.

De minimus non curat lex. Nid estyn y Llywodraeth fys i achub lleiafrif sy mor boliticaidd aneffeithiol, mor druenus ddihelp, mor anabl i'w amddiffyn ei hun ag yw'r lleiafrif Cymraeg yng Nghymru.

Mae cefn gwlad wedi newid yn llwyr, mae pobl yn mwynhau'r un moethusrwydd a phobl y trefi, a lleiafrif bellach sy'n byw yn y wlad sy'n uniongyrchol dibynnol ar y tir am eu bywoliaeth.