Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleiafrifoedd

lleiafrifoedd

Lle'r oedd un genedl yn ddigon cryf i fonopoleiddio Llywodraeth y wlad, gallai droi yr athrawiaeth Herderaidd yn erbyn y lleiafrifoedd.

Ond wrth fynd drwy'r rhes negeseuon ar y peiriant ateb wedi dychwelyd i'm gwaith clywais lais Ffrengig Claudie Moyson yn fy atgoffa imi gytuno i ofalu am ‘gynrychiolaeth' o Lydaw fyddai'n dod i Gaerdydd i ddysgu popeth am deledu lleiafrifoedd.

Yn sicr, y mae'r Cymry diwreiddiedig hyn yn ffurfio un o'r lleiafrifoedd mwyaf yn y wlad hon.

Hanes sy'n gyfrifol, hanes - y tarfwr hwnnw sy'n trin lleiafrifoedd a gwledydd bychain fel y mynn.

Yng nghanol ymosodiad ar y lleiafrifoedd ethnig yn Hwngari, enwodd Kossuth y Cymry mewn rhestr o genhedloedd bach Gorllewin Ewrop na herient iaith genedlaethol y wlad (sef y Saesneg yn ein hachos ni) ond a fodlonai ar feithrin gartref eu traddodiadau diniwed.

Protest y golomen yn erbyn yr eryr oedd hon, mewn gwirionedd; protest dros hawliau lleiafrifoedd y byd.

Fel llawer o wledydd sydd a phroblemau lleiafrifoedd, y mae Cymru mewn sawl ffordd yn lle dirdynnol.

Dyna paham bod lleiafrifoedd - ac fe olyga hynny wledydd bychain hefyd y dyddiau hyn - ar hyd y canrifoedd wedi bod yn ddrain yn ystlysau meistri'r byd.

Mae gan Loegr, dyn a ŵyr, ei phroblemau lleiafrifoedd ei hun, ond y maent yn wahanol iawn i'n rhai ni, yn llawer mwy anghyswllt fel y gall teithiwr fwrw heibio heb sylwi arnynt.

Yr oedd yn ymladdwr wrth reddf er na fu gwrolach heddychwr erioed; câi fwynhad wrth ganmol daioni dynion, eithr gwae y rheiny a fanteisiai ar y gwan ac a ormesai'r lleiafrifoedd.