Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleiafrifol

lleiafrifol

Nid yw'n syndod yn y byd mai'r stori fer yn hytrach na'r nofel yw ffurf ryddiaeth fwyaf poblogaidd ieithoedd lleiafrifol.

Ond problem unrhyw ddiwylliant lleiafrifol yw ei bod yn straen ar adnoddau dynol ac ariannol gorfod darparu'r helaethrwydd defnyddiau sy'n angenrheidiol i blesio chwaeth amrywiol y gynulleidfa, ac na ellir chwaith fforddio troi unrhyw ffurf lenyddol i gyfeiriadau rhy esoterig ddeallusol ar draul ennyn diddordeb y mwyafrif (sydd ynddo'i hun yn lleiafrif!) Felly rhaid o hyd ennyn diddordeb yn y gair Cymraeg printiedig trwy gyfrwng pethau fel Cyfres y Fodrwy neu'r papurau bro, er bod y wasg argraffu'n anleu fwyfwy at bobl sy'n meddwl yn ystyriol erbyn hyn.

Y mae'r bobl sy'n siarad yr ieithoedd "imperialaidd", fel y gelwir hwy, - Rwseg, Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg - yn debyg iawn i'w gilydd yn eu hymagwedd at ieithoedd lleiafrifol.

I hyrwyddwyr ieithoedd lleiafrifol, iaith yw'r symbol grymusaf oll gan ei bod yn elfen hanfodol mewn unrhyw ymgais i godi ymwybyddiaeth a chyflwyno ideoleg, sef y camau cyntaf tuag at greu model o drosglwyddiad iaith a diwylliant hyfyw.

Y siaradwr gwâdd eleni fydd Allan Wynne Jones, Cadeirydd Biwro Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop.

Mae aelodau rhai diwylliannau lleiafrifol yn genfigennus ohonom ni yma yng Nghymru.

Ac yn drydydd sut orau y gellid osgoi'r ymchwalu sydd mor nodweddiadol o bleidiau lleiafrifol?

Anerchwyd y cyfarfod gan Allan Wynne Jones, Cadeirydd Biwro Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop, a Dafydd Thomas ar ran Cyfeillion y Ddaear.

I ddiffinio bwriadau, targedau ac amcanion I drefnu profiadau dysgu mewn gwyddoniaeth sydd yn ystyrlon a pherthnasol ar gyfer disgyblion a phob math o allu ac o bob oed yn amrediad yr ysgol uwchradd I ddethol, defnyddio a rheoli'n effeithiol y cwmpas llawn o ddefnyddiau ac adnoddau sydd ar gael I drefnu a chadw trefn ar wersi theori a gwersi ymarferol fel ei gilydd I fod yn sensitif i anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu, disgyblion a gallu arbennig a grwpiau ethnig lleiafrifol I feithrin y sgiliau rhyngbersonol priodol ar gyfer cyfathrebu â disgyblion, rhieni a phobl broffesiynol Sgiliau Labordy Paratoi defnyddiau labordy ar gyfer dysgu Arddangos arbrofion a thechnegau ymarferol i'r disgyblion Rheoli gwahanol fathau o wersi ymarferol Gwybodaeth Wyddonol Y mae gan y myfyrwyr i gyd radd yn y gwyddorau ond bwriad arbennig y cwrs yw estyn ac ehangu eich profiad yn y canlynol:

Camgymeriad, er hynny, fyddai credu bod Unbennaeth Oleuedig bob tro yn niweidiol i ieithoedd lleiafrifol, a'r meddylfryd Herderaidd bob amser yn arf gadarn o'u plaid.

Cychwyn gyda gwrtheb a wnaeth yr awdur - ar Genedlaetholdeb yr oedd y bai am bicil Cymru gyfoes, cenedlaetholdeb gwladwriaethau Ewrop, gyda'u pwyslais ar undod a chryfder ar draul diwylliannau lleiafrifol.

Dilema'r diwylliant lleiafrifol yw ei fod mewn cymaint o beryg cael ei ddifodi, fel bod raid i'w gynheiliaid gyfaddawdu rhywfaint trwy greu sylfaen o ddeunydd cydymffurfiol 'er mwyn cadw'r iaith yn fyw' cyn y gall fforddio lleiafswm o ddeunydd cwestiyngar anghydffurfiol sy'n mynd i wneud yr iaith yn werht byw trwyddi.

Ymhlith syniadau eraill y mae gwahodd sêr y cyfryngau a chwaraeon i gwrdd â grwpiau o blant a phobl ifainc, trefnu teithiau cyfnewid gydag ieuenctid o wledydd sydd yn siarad ieithoedd lleiafrifol a llunio cyweithiau cymunedol fyddai'n denu pobl ifainc i gyfrannu tuag at ddiogelu'r amgylchedd a bod yn fwy ymwybodol o'r peryglon sydd yn ei bygwth.