Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleianod

lleianod

Gwisgai'r lleianod wisgoedd claerwyn ac ar eu pennau yr oedd cyflau duon.

Y peth sy'n drawiadol am y traddodiad Cymreig yw'r argyhoeddiad fod y gwerthoedd a'r safonau sy'n ysbrydoli'r rheolau'n rhai ar gyfer gwerin gwlad, nid yn unig ar gyfer clerigwyr, mynachod a lleianod.

Am gyfnod, roedden nhw'n gorfod gwisgo sgertiau byrion ac yntau'n eu galw yn `lleianod chwyldroadol'.

Yr oedd clywed am hyn yn gymaint o ysgytwad imi fel yr addewais i sgrifennu rhywbeth ar gyfer y lleianod.

Am gyfnod, mynnodd eu bod yn gwisgo sgertiau byr, a chyfeiriai atynt fel 'y lleianod chwyldroadol' - er bod lle i amau eu purdeb.

Wrth i honno gael ei throi, byddai'r plant yn disgyn i ofal y lleianod y tu mewn.

Un bore, wrth ddihuno, gwelais golomen wen yn disgyn ar sil fy ffenestr Wrth edrych arni, meddyliais am y lleianod wrth y llyn, am fy nyweddi ac am rai eraill a oedd wedi marw, yr oedd cwlwm ysbrydol rhyngof a hwy.

Ysbrydolwyd y cerddor o'r Ariannin, Ariel Ramirez, i'w gyfansoddi ar ôl cael ei ysgwyd gan yr hanes am ddewrder lleianod yn bwydo 800 o Iddewon newynnog yn yr Almaen adeg y rhyfel gan wybod mai eu crogi fyddai eu cosb o gael eu dal gan y Natsiaid.