Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleisiau

lleisiau

Ar unwaith distawodd y lleisiau fel swits Hwfer yn cael ei ddiffodd ac ar ol eiilad neu ddwy clywais gadair yn cael ei symud.

Disgrifiodd ei gwaith fel 'helwraig ysbrydion' a darlithydd mewn Ffenomena Lleisiau Electronig ( EVP) Y mae'n aelod o Gymdeithas Ymchwil Seicic (SPR); Cymdeithas Ffenomen Lleisiau Electronig America (AAEVP); Cymdeithas Astudiaeth Wyddonol o Ffenomenâu Abnormal (ASSAP); a Choleg Gwyddor Seicic (CPS).

Symudai'r niwl gydag ef i bobman, gan gadw'r ergydion draw, a chan gadw'r lleisiau y tu hwnt i'r sŵn.

Clywodd nhw'n dechrau gweiddi mewn lleisiau cras a dwfn a stampio'u traed ar lawr.

Felly, pwy goblyn oedd piau'r lleisiau yma?

`Hwrê - nawr beth sydd yn ...?' Tawelodd y lleisiau.

Cododd y lleisiau yn uwch ac yn y diwedd dyma lanc yn neidio i ben wal y ffynhonnau gan daflu ei wallt cyrliog du yn ôl a chodi ei ddwrn i'r awyr.

Roedd yr haul yn disgleirio ar wydr y ffenestri mawr a deuai swn lleisiau'r morynion prysur o'r gegin.

Rydych chi'n gweld Ben, Mererid a Karen ymhob rhaglen, ond dim ond clywed lleisiau Ioan a Rhian fyddwch chi.

Teganau gwerthfawr fyddai yn y hosanau, a wnaed gan ryw Tom Smith os cofiaf yn iawn, a llanwyd yr ysgol gan ein lleisiau ifainc yn canu mewn Saesneg Cymreig iawn.

Bellach, pan fydd trychineb neu ryfel neu storm, fe ddaeth yn arferol clywed lleisiau Cymry alltud yn sôn am eu profiadau.

Mi glywais y lleisiau a glywais yng Ngherrig Duon sawl tro wedyn mewn drama neu stori ar y radio a'r teledu, a theimlo mod i'n 'nabod cymeriadau Carreg Boeth (Hufen a Moch Bach) cystal â'r Parch.

Ei gyrru'n gynddeiriog a wnâi trwy rincian am ei wreiddiau a'i ddyletswydd o a hithau i wrthsefyll pobl ddwad yn mynnu eu hawliau a chodi eu lleisiau hyd yr arfordir.

Yna, wrth iddi ddod yn nes, codid eu lleisiau i gwyno am y tywydd neu i holi sut oedd peswch Joni bach erbyn hyn.

coffrau, a lleisiau pobl ariannog ac ariangar Hong Kong a dinasoedd dwyreiniol eraill a gafodd sylw, ac nid banciau bach cefn gwlad Cymru sydd yn awr yn cau o un i un.

Ar nos Wener y deuai o'r Wasg; y noson honno a Sadwrn, yn strydoedd y Rhos ac wrth ddrysau'n tai, clywid lleisiau hogynaidd yn gweiddi "Herald, RHOS

Mae'r cytgan yn aros yn eich pen ac yn nes at ei diwedd mae lleisiau'r merched sy'n canu cefndir yn atgyfnerthu'r swn.

Nid yw'r llywodraeth yn caniata/ u i'r cyfryngau ddarlledu lleisiau ei harweinwyr a'r unig beth a wyr pobl am y blaid hon yw ei bod yn cefnogi ymgyrch dreisiol yr IRA.

Yma hefyd y crewyd sain unigryw Corau'r Rhos, y lle yn ysgwyd dan gyfaredd lleisiau coliars, yn carthu llwch a thywyllwch y pwll glo o'u heneidiau.

Cyn iddo agor ei lygaid, medrai Geraint glywed sŵn organ yn gymysg â lleisiau'n gwau drwy'i gilydd fel ieir.

Un o uchafbwyntiau arall yr wyl oedd animeiddiad gwych o Don Quixote gan Cervantes, gyda lleisiau Sharon Morgan, Yoland Williams a Ray Gravel.

Ac wrth iddi dacluso'i llyfrau yn nistawrwydd diwedd pnawn a chlywed lleisiau ei disgyblion yn pellhau nes mynd yn un â'r tawelwch y tu allan, ni allai lai na'u dilyn yr holl ffordd adref, yn ei meddwl.

Chwaraeai rhyw hanner gwên yng nghornel ei wefusau fel y trodd yntau, wedi i'w lleisiau ddistewi yn y pellter, a chychwyn yn ôl ar hyd y llwybr i Lety Plu.

Wrth i Carol ysbarduno'r car bach yn ddidrugaredd tua'r gogledd, gallai glywed eu lleisiau'n parablu'n gynhyrfus am yr holl bethau a welent drwy'r ffenestri, a gwyddai mai felly'r oedd hi wedi disgwyl i bethau fod.Gallai ei chysuro'i hun nad ymddwyn yn fyrbwyll a wnaethai, ond paratoi cynllun brysiog yn ei phen a gweithredu arno'n syth.

Mae'r ffaith fod yr actorion i gyd yn siarad ar dop eu lleisiau, yn aml yn gweiddi, yn ychwanegu at y gwrthdaro.

Mae'r ffaith fod ein cymdeithas wedi bod yn araf i gydnabod argyfwng yn gysylltiedig â gofal plant ac mor amharod i wrando ar eu lleisiau yn dweud nad ydym wedi dod i oed fel cymdeithas.

Ym mis Mai 1999 cymerodd y Corws ran yng Nghyngerdd Lleisiau'r Genedl ym Mae Caerdydd, i ddathlu agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Daeth y nifer mwyaf erioed o sêr o Gymru ynghyd ym Mae Caerdydd ar gyfer Lleisiau Cenedl, cyngerdd mawreddog yn rhad ac am ddim a gynhaliwyd i ddathlu agoriad brenhinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Daeth lleisiau llawen o'r stafell fwyta.

'Rydyn ni'n rhydd,' gwaeddodd Morlais wrth glywed lleisiau'r corachod yn gwanhau y tu ôl iddyn nhw.

Lleisiau'r bechgyn a'i tynnodd yn ôl i dir rheswm.

Dechreuodd ambell un redeg a chododd eu lleisiau'n uchel wrth iddyn nhw ddechrau dringo'r grisiau ar ei ôl.

Edrychai'r carchar iddo ef yn lle caled a haearnaidd heb gwmni merched, yn lle oer heb eu lliw, eu llun, a'u lleisiau.

Cawn gân neu ddwy gan Veronica Gilder - un o'r lleisiau gorau yn y Gymdeithas ac 'rwy'n sicr y bydd pawb mewn hwyliau i ganu yr hen ffefrynnau hefo'n gilydd.

Yn ôl y chwedl, am hanner nos ar y noson cyn y Nadolig, mae'r anifeiliaid mud yn y stabal yn medru siarad mewn lleisiau dynol am ychydig bach o amser.

Mae ton eu lleisiau'n fonheddig a'u hosgo'n urddasol.

Lleisiau dynion.

galwasant a galwasant, a 'u pryder yn graddol droi 'n ddychryn, a 'u lleisiau 'n mynd yn sgrech, a 'r tri 'n rhedeg i fyny ac i lawr y lan gan chwilio yma a chwilio acw, ond yn gwybod yn dda y gallai llifeiriant gwyllt fel hwn daflu ffred a 'i gludo ymaith mewn chwinciad.