Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleithder

lleithder

Ac yn bennaf yr adeg hon o'r flwyddyn, byd y synhwyrau, byd yr ogleuon hydrefol y ceisid eu hatgynhyrchu mewn sentiach drud i ddynion: oglau lleithder siarp, mwsog a ffwng a rhedyn.

Peth arall sy'n ymestyn oes swigod yw lleithder.

Chwiliwch am yr amryw o blanhigion arfoor a ddaw i'r amlwg yma, wedi addasu eu hunain i wrthsefyll drycinoedd y glannau ac i sugno as chadw lleithder cyn iddo diflannu i'r tywod.

Mae llawer o'r gwledydd sy'n datblygu yn dioddef eithafion tymheredd a lleithder ac mae rhoi ffilm mewn camera bob rhyw ychydig funudau mewn monswn neu storm o lwch yn waith lle gall y ffilm gael ei difetha'n hawdd iawn.

Wedi'r fath golledion arteithiol, gwaethygodd ei iechyd a soniai fwyfwy yn y pulpud ac yn ei ysgrifau am dymhestloedd geirwon, blin gystuddiau, chwerwder marwolaeth, y dywarchen olaf, lleithder y bedd, ac angau a thragwyddoldeb.

Llanwyd y craciau, ailaddurnwyd y waliau tu fewn, rhwystrwyd y lleithder rhag amharu mwy ar wynder y wal y tu ôl i'r pulpud a gwnaed pob dim yn ddiddos a chlyd er mwyn croesawu'r adfywiad a oedd yn sicr o ddigwydd.

Mae'r tomatos yn hoffi amgylchfyd sych a'r cucumerau yn hoffi lleithder felly, ni ddylid eu cymysgu yn yr un tŷ a disgwyl tyfu'r ddau gnwd yn llwyddiannus.

Gwres yr haul oedd yn codi anwedd o'r lleithder yng ngenau'r twnnel, ac yn troi'r olygfa yn gylchoedd consentrig unlliw'r enfys.