Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llenni

llenni

Wrth orwedd yn ei ymyl ar y gwely, a'r llenni ar agor i adael golau dydd i mewn, teimlai Hannah'n eiddigeddus o'i iechyd.

gan egluro lle roedd pob dodrefnyn yn mynd i fod, lliw'r carpedi a'r llenni.

Panic llwyr--agor y drws i'r cefn, a fflame yn dringo i fyny'r llenni.

Yn awr, agorwch y llenni a syllwch i mewn i'r drych eto.

Fe ddylai'r gwely fod mor bell o'r ffenestr ag sy'n bosib, os nad yw'r llenni yn drwchus.

Yn gynharach yn y flwyddyn, roedd The Office yn olwg dreiddgar y tu ôl i'r llenni ar y Swyddfa Gymreig oedd yn dangos gweision sifil wrth eu gwaith yn datblygu ac yn llywio'r ddeddfwriaeth ac yn trafod cartref y Cynulliad.

Yr wyf yn ymwybodol wrth gyflwyno'r anerchiad hwn, sydd wedi ceisio codi cwr y llenni ar fyd ieuenctid a sefyllfa bresennol y Gymraeg, fy mod wedi codi mwy o gwestiynau ar y thema dan sylw nag ydwyf wedi gallu cynnig atebion iddynt.

Ond yr oedd ffenestri'r ysbyty wedi eu cau â sachau tywyll ac yr oedd llenni duon mawr trymion yn cau am bob ffenestr.

Yn fuan doedd neb i'w weld, felly caeodd y llenni a cherdded yn ofalus i'r gegin i wneud cwpanaid o de a rhywbeth i fwyta iddo ei hun.

Agorir y llenni yn nechrau Meini Gwagedd ar gegin yr hen dyddyn adfeiliedig ar Noson Gŵyl Fihangel, 'yn unrhyw un o flynyddoedd y ganrif hon'.

Bargen gafodd ei daro rhwng coeden a chreadur oesoedd yn ôl yw hon, ond brwydr yn hytrach na bargen sydd i'w weld o sbecian y tu ôl i'r llenni.

Ond roedd y gobaith yn dal, roedd rhyw fymryn o obaith am adferiad a pharhad y Ffydd a'r achos, hyd yn oed os mai cul ydoedd fel y stribedi o olau a ddihangai rhag caethiwed y llenni duon, trwchus, dros y ffenestri.

Symudodd un o'r llenni trymion rhyw fodfedd o'r neilltu er mwyn cael gweld yr ymwelydd yn cerdded oddi yno a'i gynffon rhwng ei goesau.

Fel aelod o dîm y Swyddfa Dramor, mae Mr Garel-Jones yn ei chanol hi eto y tu ôl i'r llenni.

Roedd y glaw wedi peidio a'r gwynt wedi gostwng, ac roedd rhimyn o haul i'w weld trwy freuder y llenni.

Fe ddaw ei eiriau am y rhan o wisg pen Rhiannon a ddylasai guddio'i hwyneb ag adlais o gynghorion Tertullian ar wisg gwragedd, a llenni'n arbennig, a hefyd o eiriau canon y chweched ganrif sy'n gorchymyn i wragedd clerigwyr wisgo llenni.

Sail y ddadl yw y gellir disgwyl gwell cyfraniad y tu ôl i'r llenni gan berson a fydd yn barod i lafurio'n dawel a diflino heb uchelgais i fod yn geffyl blaen.

Roedd y llenni ar gau a'r ystafell yn wag a'r un mor ddigroeso â'r cyntedd.

Llamodd calon Morfudd a gollyngodd ei gafael ar y llenni.

Cydies yn y sosban, a honno'n poeri saim dros y carped a'r llawr, a'i thaflu allan drwy ddrws y cefn; yna rhwygo'r llenni oddi ar y ffenest, a'u stwffio o dan y tap dwr.

Croesodd at y ffenest, rhoi'r llythyron, nodyn Megan a'i bag ar y bwrdd bychan ac agor y llenni.

Ac eto, y tu allan i'r stribedi culion o olau trydan a ddihangai rhwng y llenni duon dros y ffenestri, roedd y byd mawr yn dywyll a dieithr, yn llawn ofnau am yr hyn a ddeuai yfory drwy law'r postman am hynt a helynt plant y plant a aeth i ffwrdd i Affrica, i'r Dwyrain Pell ac i bob man lle ceisiai Prydain Fawr ddal rhyw afael ar ei thiroedd ar hyd a lled wyneb y ddaear.

Yr oedd teimlad rhyfedd wedi dod trosom, rhyw fath o wacter, y llenni i lawr ar y ffenestri, Mama a'i llygaid yn goch, a phawb yn mynd o gwmpas eu pethau yn ddistaw.

Fo'n tynnu'r llenni a rhoi record i chwara, yn rhythu arna i'n awchus a 'nhynnu i ddawnsio, yn dynn at ein gilydd fel gelod.