Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleoli

lleoli

Er mai yn y blynyddoedd 1909 ­ 1915 y cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd ei anterth, gyda 'Gwlad y Bryniau', 'Yr Haf' ac 'Eryri', yr oedd y llanw wedi troi yn erbyn Rhamantiaeth erbyn hynny, gan fod darllenwyr wedi syrffedu ar yr awdlau a'r pryddestau hyn a oedd wedi eu lleoli mewn rhyw orffennol chwedlonol, ac wedi syrffedu hefyd ar eirfa'r Rhamantwyr.

Gall gwneud tipyn o ddarllen cefndirol fod yn fuddiol hefyd ac mae yna amrediad o ddeunyddiau ar gael drwy'r Gwasanaeth Lleoli Athrawon.

Ers nifer o flynyddoedd bellach, mae United Biscuits wedi bod yn argyhoeddedig o werth lleoli athrawon mewn busnesau ac yn y gymuned.

(c) Ceisiadau a gweithrediadau amrywiol a ddirprwywyd i'r Prif Swyddog Cynllunio CYFLWYNWYD er gwybodaeth adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio iddo:- (i) Ganiatau'r ceisiadau canlynol dan yr amodau a nodir ar eu cyfer yn y Gofrestr Ceisiadau:- Cais llawn - adeiladu modurdy/ gweithdy preifat Cais llawn - estyniad ochr unllawr to brig i dŷ Cais llawn - estyniad cefn deulawr to brig i dŷ Cais llawn - estyniad unllawr i fwthyn a lleoli tanc nwy Cais llawn (diwygiedig) - estyniad unllawr i dŷ yn cynnwys modurdy Cais llawn - estyniad cefn unllawr i ffermdy Cais llawn - estyniad llawr cyntaf i dŷ i greu darpariaeth ar gyfer person anabl a modurdy newydd.

(e) Ar gyfer lladd-dŷ a diwydiannau a busnesion gyda chysylltiadau amaethyddol a/ neu bwyd ac anghenion lleoli arbennig.

Dibynnant lawer am eu diogelwch ar gyfeiriad neu drawiad y gwynt ac ar eu gallu i arogli gelyn cyn iddo'u goddiweddyd, yn fwy felly nag ar eu llygaid, sydd wedi'u lleoli ymhell yn ôl ar ochr y pen.

Mae'r Gwasanaeth Lleoli Athrawon yn darparu arweiniad, arbenigedd a chefnogaeth ymarferol ar gyfer lleoliadau.

O fewn Coleg Prifysgol, Bangor, mae'r Ysgol Gwyddor Môr (sydd wedi ei lleoli ym Mhorthaethwy).

O ganlyniad i sefydlu Canolfan Gwybodaeth newydd i wylwyr a gwrandawyr, wedii lleoli yng nghanolfan y BBC ym Mangor, cafwyd cyswllt uniongyrchol gyda BBC Cymru a ddefnyddir gan tua 150 o bobl y dydd ar gyfartaledd.

Mae pynciau teuluol yn amlwg iawn, pethau fel geni a marw, profiadau crefyddol personol, y bygwth niwclear, - a'r cwbwl wedi eu lleoli'n gadarn yng nghynefin yr awdur ei hun.

Gwasanaeth Lleoli Athrawon

Roedd hon yn rhaglen fywiog wedii lleoli mewn clwb dychmygol o'r enw The Bank gyda gwesteion megis Jimmy Nail a David Essex.

Canolfan genedlaethol ar gyfer llenorion yng Nghymru, wedi'i lleoli yn hen gartref David Lloyd George.

Yn ail, 'roedd y ddau blwyf yma wedi'u lleoli mewn rhan o'r wlad a gysylltid yn agos iawn â Lolardiaeth, hen heresi canlynwyr y Diwygiwr medifal, John Wyclif.

MAE DYFODOL swyddfa Bangor Awdurdod Datblygu Cymru yn dal yn y fantol yr wythnos hon wedi i'r gweithwyr gael gwybod y bydd y rhan fwyaf o'u swyddi yn cael eu lleoli yn Lanelwy wedi'r addrefnu yn yr Hydref.

* cwblhau ffurflen werthuso'r Gwasanaeth Lleoli Athrawon ac anfon copi at eich trefnydd.

Dangosir cyfres ddrama deledu newydd ar BBC Un yn yr haf, sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, y cyntaf mewn nifer o brojectau y mae disgwyl iddynt ddod o'r 40 project datblygu sydd ar y gweill.

mae'r cwmnïau cynhyrchu wedi eu lleoli ledled Cymru ond gyda'r mwyafrif wedi eu lleoli yn ardal Caernarfon yn y Gogledd a Chaerdydd yn y De.

Er ei bod wedi ei lleoli yng nghyfnod Maelgwn Gwynedd, yn y chweched ganrif, 'roedd iddi hi neges amserol iawn, sef dyfodol ysbrydol a diwylliannol Cymru ar ôl blynyddoedd barbaraidd yr Ail Ryfel Byd.

Rhaid gofalu eu bod wedi eu lleoli ar sgwariau diogel lle nad yw eich gwrthwynebydd yn gallu ymosod arnynt ar unwaith.

Fe wyddom fod yr atomau mewn grisialau cywrain fel diemwnt wedi eu lleoli mewn trefn anhygoel bron ac fe wyddom hefyd fod priodweddau'r solid yn dibynnu ar natur yr atomau, eu lleoliad a'r modd y cysylltir hwy a'i gilydd.

Dau lun bychan ydynt wedi eu lleoli y naill uwchben y llall.

Ysgol gynradd sirol yw Ysgol Gymuned Pentraeth, sydd wedi ei lleoli ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn, yng Ngogledd Cymru.

(yr oedd Sieffre o Fynwy wedi lleoli chwedl Brad y Cyllyll Hirion heb fod nepell o Gôr y Cewri) sydd yn awgrymu bod hynafiaethwyr y cyfnod yn dechrau amau ac yn gofyn am brawf bod y brad wedi digwydd.

* dweud wrth gyd-weithwyr, y Gwasanaeth Lleoli Athrawon a'r gymuned leol am eich lleoliad.

Mae'r Gwasanaeth Lleoli Athrawon yn weithgaredd a gynhelir gan bartneriaethau addysg busnes lleol wedi'i gyllido gan yr Adran Gyflogaeth, Swyddfa'r Albanaidd a'r Swyddfa Gymreig.

Yn ôl pob sôn, mae'r eglwys hon, sydd wedi ei lleoli yn un o ardaloedd tlotaf Caerdydd, yn rhoi mwy i'r tlodion na sawl eglwys arall mewn ardaloedd hynod o gyfoethog.