Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleolir

lleolir

Y New Statesman a'r Daily Telegraph oedd y papurau newydd y byddai'n eu darllen sydd yn dangos nad oes raid i'ch gwleidyddiaeth chi gydfynd â'r papur newydd 'dach chi'n ei ddarllen bob tro!' 'Y mae i Glynllifon, lle lleolir yr Eisteddfod eleni, hanes cyfoethog.

Fe'i lleolir yn Awstria ac yn Abertawe, lle magwyd yr awdur.

Lleolir pentre dychmygol Cwmderi rhywle rhwng Caerfyrddin a Llanelli.

Lleolir pob stori yng Nghymru a hefyd ceir amrywiaeth o themâu diddorol i ddifyrru ac ymestyn y plentyn - e.e. bwlio, anabledd a diogelu'r amgylchfyd.

Gyferbyn a'r Rex lleolir siop y Valley Videos ac yn oes mwy unigolyddol y peiriant fideo aeth y sinema gyhoeddus ar i lawr (er bod arwyddion o ddadeni diweddar yn ei hanes gyda dyfodiad y system multiplex o America lle ceir ffilmiau, bariau, clybiau a bwytai oll o fewn yr un adeilad).

Lleolir arosfan y bysiau wennol ger prif fynedfa Ysgol Maesincla.

Lleolir yr arddangosfa yn y Neuadd ARos Uwch sydd ar y ffordd i'r ystafelloedd pwyllgorau ger Tŷ'r Cyffredin.

Aiff Trefor a'i dri mab gartref at eu mam, Nia, a'i hail ŵr, Dave: lleolir eu tŷ mewn rhes o dai ar fryn serth sy'n anelu am i lawr; mae Dave yn ddi-waith a dygir y fideo a'r soffa oddi arnynt fesul un.