Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llethrau

llethrau

Er enghraifft, gwelir llawer o graig noeth yn y golwg, ac y mae'r llethrau i gyd yn reit serth.

Dyffryn afon Lledr yn llawn ffresni i gyfeiriad Bwlch y Groes a llethrau'r Drosgol, efo ambell oen bach yn prancio yn ei afiaith ar y llechwedd.

Wedi nesa/ u at ddinas enwog ei genedl a chael cipolwg arni o un o'r llethrau cyfagos ni allai lai nag wylo wrth feddwl am y dinistr a fygythiai ei heddwch (Luc xix.

Ei gartref - ardal y grugoedd a chynefin y defaid, a chreigiau llwyd Cyn Gambriaidd Cefn Padarn yn brigo yn feini mawr ar y llethrau, rhwng y grug a gweiriau'r borfa fynyddig.

Byddaf yn meddwl mai rhywbeth i blant ac i bobol y llethrau llithrig ydi eira þ heb anghofio hefyd y bobol sy'n gwneud cardiau Nadolig ac almanaciau.

Clywais rywun yn dweud unwaith fod llethrau'r cwm lle saif Pontycymer mor serth nes bod modd i drigolion y naill ochor ysgwyd llaw â phreswylwyr y tai ar yr ochor arall.

Bachu llun o Margaret gyda llo oedd yn gorwedd yn ddi-hid ar y llethrau a chloch am ei wddf.

Gwyrddlesni'r dail yn troi yn felyn ac yn frown, a'r coed a'r rhedyn yn harddu a goleuo'r llethrau.

Cadw ddigon pell wnaf i os daw'r dydd, ac eraill sy'n gallu mwynhau troedio'r llethrau, hyd yn hyn.

Yn y prynhawn, dewis y ffordd hawdd a dewraf i fyny'r llethrau, sef mewn car cêbl, a'i wifrau syndod o gryf yn llusgo'r wynebau chwilfrydig a'r boliau jeli i'r entrychion.

Mae'r actorion yn wych yn y ffordd y maent yn portreadu'r cymeriadau hynod oedd unwaith yn ffarmio'r llethrau ar hyd ddyffrynoedd Swydd Efrog.

Y trydydd diwrnod o sgio, roedd y llethrau'n brin o eira a'r rhew fel gwydr.

Profodd byddin yr heddlu yn rhy gryf iddynt, ond pan oedd y seremoni yn dechrau ni allai neb na dim atal eu rhuthr i lawr y llethrau i dynnu'r pafiliwn i lawr a dinistrio'r seremoni.

Y merlod hyn oedd yn tramwyo'r llethrau moel cyn dyfodiad y defaid.

Anialwch o lwch a chreigiau yw llethrau'r mynydd, heb ddim yn tyfu arnynt na dim yn symud drostynt, ddim hyd yn oed fân greaduriaid ac ymlusgiaid.

Gall llwybrau ucha'r Wyddfa fod yn beryglus ganol gaeaf ac felly yn aml iawn cadw ar y llethrau is fyddaf wrth gerdded gyda'r plant bryd hynny.