Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lleuad

lleuad

Daeth y lleuad allan gan daflu ei golau tawel oeraidd dros y wlad.

Ar yr un noson cafwyd Arthur C Clarke - A Man Before His Time lle bu henadur ffuglen wyddonol yn siarad am ei fywyd, ei waith ar proffwydoliaethau a wnaeth - gan gynnwys dyn yn cerdded ar y lleuad.

Petai'r goeden gyraints duon honno gan yr estate agent , ac yntau eisiau ei gwerthu, ni fuasai'n chwarae o gwmpas gyda rhyw lol am haul a lleuad.

Arbrawf ym myd ffantasi a ffansi fel Rhys Llwyd y Lleuad a Hcn Ffrindiau oedd Stori Sam fel y cydnebydd yr awdur ei hun.

Yr oedd yr Almanac yn ystordy o wybodaeth gymysg am genedlaethau lawer, geni, priodi, marw rhyw deyrn neu arglwydd, drylliad llong, neu dan mawr Llundain, ac yna yn sydyn, rhyw ddywediadau fel - "Gwynt a glaw, yma a thraw%, rhyw erchyllderau dyddiol am sbel wedyn, ac yna "Felly pery i'r mis derfynnu%, hynt y lleuad a thrai a llanw.

Neil Armstrong yn glanio ar y lleuad.

Mawl i Ti, fy Arglwydd, am ein brawd nobl, yr Haul, Mawl i Ti am ein chwaer, y Lleuad, a'r sêr i gyd, Mawl i Ti am ein chwaer, Dwr...

'O?' 'Efo Ifan Paraffîn, yn y bus.' ''Ron i'n meddwl 'mod i'n gweld gola' ac yn clywad rhyw swn pan o'n i'n cau ar yr ieir.' Sylweddolodd Dora Williams ei bod hi'n sefyll yn llond y ffenestr yn ei choban, yn wyneb llafn o olau lleuad, a theimlodd ei hun yn cael ei dadwisgo'n gyflym.

Digon gwasgaredig oedd y tai a'r bythynnod, ac wedi iddi nosi fyddai yna ddim golau heblaw'r lleuad, os o gwbl.

Mwynhaodd y sylw a llithro'n ôl i'w blynyddoedd melyn - cysgu yn yr un ystafell fechan lle y gwelsai wyneb Duw yn y lleuad a chlywed Evan Moses yn mwmian am Ei gartre i fyny rywle yn yr awyr.

Mae gwahaniaeth rhwng lleuad a lleuad mewn gogoniant hefyd gyda thros ugain o dermau â lleuad yn rhan ohonyn nhw - yn amrywio o lleuad fain i leuad march melyn a lleuad naw nos ola.

Pan fo'r lleuad yn llawn, mae ei golau yn goleuo'r awyr.

A'r eiliad nesaf, neu felly yr ymddangosi hi, roedd Tom yn sefyll uwch ei phen Roedd ei gefn at y lleuad, ac ni allai hi wel ei wyneb yn glir - ond roedd ei lais yn ddigon i'w dychryn.

Mae'r golau hwn yn amharu ar nifer y ser y gallwn eu gweld (yn yr un modd ag y mae golau'r ystafell yn eu rhwystro rhag weld pethau tywyll y tu allan pan edrychwn allan o ystafell gyda'r nos.) Dywedwn fod golau'r lleuad yn effeithio ar ddisgleirdeb yr awyr, neu ar ba mor dywyll yw'r awyr.

Lluniodd gerddi am bynciau cyfoes ar y pryd fel y gwrthdystio yn erbyn y Rwsiaid ym Mhrâg, protestiadau Cymdeithas yr Iaith, yn ogystal â'r ysbryd protestgar byd-eang yn y cyfnod, y glanio ar y lleuad ym 1969, Fietnam, y newyn yn Biaffra, ac yn y blaen.

Ar yr un noson cafwyd Arthur C Clarke - A Man Before His Time lle bu henadur ffuglen wyddonol yn siarad am ei fywyd, ei waith a'r proffwydoliaethau a wnaeth - gan gynnwys dyn yn cerdded ar y lleuad.

Roedd popeth wedi'i arwisgo ag arlliw o lwyd gan y lleuad lastwraidd.

Roedd golau gwan y lleuad yn help iddynt weld ei amlinell fel y safai am ennyd yn y fynedfa cyn camu i mewn rhwng y muriau.

Bydd y beirdd yn sôn am yr haul yn gosod aur ar y dail, neu'r lleuad yn gosod arian, ond gŵyr pawb call mai ffansi bardd yw hyn ac nad oes mewn gwirionedd ond rhyw fymryn o oleuni melyn neu wyn yn syrthio ar ddail coeden gyraints duon yng ngardd y bardd.

Nid yn aml y gwelir peth fel hyn, er bod adran amaethyddol y Brifysgol erbyn hyn wedi llwyddo i gael defaid i fwrw ŵyn bob mis o'r flwyddyn, beth bynnag yw'r fantais o hynny, rhagor na mynd i'r lleuad.

Un o orchestion y flwyddyn oedd Moon Night, a ddathlodd 30 mlynedd un o orchestion mwyaf dyn, y glaniad cyntaf ar y lleuad.

Codasai'r lleuad mewn awyr serog, glir, a helpai'r gwynt ei llewyrch gwan i symud y cysgodion rhyfedd yng ngodre'r winllan ac ar y weirglodd las.

Mor dda hefyd y cofiai ei chyfnither, Anna Maria, merch ei Hewyrth Joseph y ddwy ohonynt ar lawnt fechan Trefeca Isaf yn gorwedd ar eu cefnau i weld y sêr a'r lleuad trwy delesgop rhyfeddol ei hewyrth, wedi eu swyno gan ddirgelwch peiriant a fedrai dynnu'r sêr a'r nef ei hun mor agos atynt.

Bol buwch ddu go golledig oedd ymddeoliad y ser a'r lleuad dan gymylau trymion y gaeaf hwn ar ei egraf.

Yng ngolau'r lleuad gwelodd Glyn adeiladau tebyg i ysguboriau a beudai a'r tŷ yn sefyll yng nghanol pinwydd talgryf.

Cododd y lleuad i oleuo'r wlad.

Mae'r byd mor fach bellach, fel bod y lleuad yn frith o faneri, a phridd y lleuad yn tyfu ffrwythau yma ar y ddaear.

Gyda lleuad crwn yn codi yn yr awyr y mae adar i'w gweld yn hedfan i glwydo.

Mae'r un atdyniad yn egluro symudiad y lleuad o amgylch y ddaear, a chylchoedd y planedau o amgylch yr haul.

Mae'r lleuad yn llawn ac rwyt yn ceisio ailddilyn y llwybr i'r fan lle leddaist y baedd.

'Falle y bydd e'n hwyrach os gallwn ni yrru adre o'ch tŷ chi yng ngole'r lleuad.

Roedd y lleuad yn llawn a'r wybren yn ddigwmwl wrth i'r llong adael y porthladd a thorri ei chŵys drwy'r môr agored a oedd, trwy drugaredd, fel llyn hwyaid y noson honno.

Heb y dechnoleg newydd hon mae'n eithaf sicr na fyddai dyn wedi glanio ar y lleuad ac na fyddai ein dealltwriaeth o'r bydysawd, y gofod a'n planed ni ein hunain, yn agos mor eang.

Byddai'r Eifftiaid yn addoli'r haul a'r Babiloniaid y lleuad.

Chwaraeodd y lleuad ran mewn her arall i BBC Radio Wales, sef eclips rhannol yr haul ym mis Awst.

Cafwyd cerddoriaeth i osod naws ynghyd â chyfweliadau unigryw gyda rhai o'r prif gymeriadau oedd yn gysylltiedig â'r glaniad cyntaf hwnnw ar y lleuad.