Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lliain

lliain

O'i chwmpas, mi roedd y ffasiynau'n newid yn gyson - y lliain bwrdd yn toi o lês synthetig i fformeica, y lluniau ar y wal yn newid o Winston Churchill i dair hwyaden a'r tridarn eistedd o Regency ffug i ledr plastig, gwichlyd.

Roedd y postman wedi bod, a Mam, ar ben y bwrdd, newydd dynnu llythyr o'r amlen a'i agor ar y lliain ar fwriad o'i ddarllen.

Dyma lle yr oeddynt hwy a'u teuluoedd yn preswylio - yn byw yn foethus yng nghanol eu llawnder - yn ymdroi mewn porffor a lliain main ac yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd eu plantations ar y dyffryn, neu hwyrach tua glannau y Mississippi, yn cael eu gweithio ymlaen gan eu niggers, ac overseers uwch eu pennau.

Y cinio a'r te yn cael eu cario mewn basgedi efo ni yn y trap mawr, a dada yn taenu canfas o dan gysgod y coed, a mam yn rhoi lliain gwyn "damascus", ar danteithion i gyd ar ben Tan yn cael ei wneud, a'r tecell haearn yn mynd ar hwnw i ferwi dŵr i gael gwneud te.

Yr oedd y lliain mor glaerwyn, y grefi mor ansefydlog, llygaid Anti Lw a'r misus mor dreiddgar, fel y byddai'n amhosibl bron i mi ddod trwy'r cinio'n ddidramgwydd ac yn ddigonol.

Ni allai'r brecwast orffen yn ddigon cyflym, a'r funud y symudodd yr ymwelydd o'r bwrdd rhuthrodd fy mam i fyny i'w ystafell a gweld bod y lliain glân eto yn llinellau duon drosto.