Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llidiart

llidiart

Cyraeddasant y llidiart heb weld dim.

Wrth gwrs byddai dyn cynefin â'r wlad wedi codi'r llinyn dros y cilbost yn hytrach na'i ddatod, a byddai dyn felly wedi cau'r llidiart ar ei ôl yn ogystal.

Ond go brin y byddent wedi bod mor dawel eu meddyliau pe gwyddent bod gwyliwr distaw yng nghysgod y ddraenen ddu, heb fod ymhell o'r llidiart ach, wedi eu gweld ac wedi clywed llawer o'r hyn a ddywedent.

Cafodd fwy o drafferth i agor y llidiart.

Trwy drugaredd, cofiai ei gosod ar ben postyn llidiart Tandisgwylfa.

Un bore, 'roedd Deiniol yn hwyr yn cyrraedd llidiart Caeau Gleision, a Charadog yn anesmwytho gan fod gwaith y fferm yn disgwyl.

Felly, pan sylweddolodd yn hwyr un noson iddo adael ei waled yn llawn o arian ar ben postyn llidiart buarth tyddyn anghysbell yng nghyffiniau Llynnoedd Teifi ar noson o eira ar drothwy'r Nadolig doedd ganddo fe ddim dewis.

Dychmygai weld ffurf sinistr, tywyll y dewin yn sefyll wrth bob llidiart a choeden, ond yr oedd pobman yn dawel a dim ond sŵn ei draed yn atsain ar y ffordd oedd i'w glywed.

Er na wyddai JR am chwedl Odo yn bledu'r tai, ac er na fu ym Mol y Mynydd ond unwaith o'r blaen, ni chafodd drafferth i ddarganfod llidiart pren Nefoedd y Niwl.

Rhedodd hithau â'r lamp ar y bwrdd, ac erbyn mynd yn ôl ni welai ddim ond dau gysgod megis wrth y llidiart, ac un yn gweiddi "Gest ti hi?" wrth ymbalfalu.

Bedwar mis yn ôl 'roedd y llwybr igam-ogam o'r llidiart i'r buarth fel haearn Sbaen ond heddiw edrychai'n debycach i afon na dim arall a châi'r Mercedes moethus drafferth i deithio.

Safodd y tri a'u pwysau ar y llidiart yn gwylio.