Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llifeiriant

llifeiriant

Y mae Cristnogaeth ei hunan yn llifeiriant, ac lesu ei hunan yn llifeiriant hanes dyn.

Roedd pethau'n ymddangos mor eglur yn Rostock: roedd cymdeithas lle roedd y rhan fwyaf yn ddi-waith am y tro cyntaf erioed wedi gorfod ymdopi â llifeiriant o ffoaduriaid, y rhan fwyaf ohonynt yn sipsiwn.

Roedd gwynt mawr wedi taro eu llong ym Môr China, a'r llifeiriant wedi rhuthro i ystafell y peiriannau gan fygwth malurio'r llong yn ddarnau.

Disgynni ar dy ben i'r dŵr ac mae'r llifeiriant cryf yn dy gario i lawr yr afon ac o dan y bont.

Hanes llifeiriant yn ffrydio ydyw hanes dynoliaeth - ymlaen ymlaen o hyd .

Duw'n unig a wyr beth oedd ymateb y saint yn nwfn eu calonnau wrth i'r straeon a'r dywediadau carlamus arllwys yn un llifeiriant o'i enau.

Pwniai llifeiriant gwyllt o gofion am helyntion y noson cynt ei hymennydd, a nawr wele lythyr Hannah Dim gwahoddiad i Fryste!

Daeth cymydog i'r drws ac meddai â'i anadl yn fyr o frysio yma, "Mae dy adwy isaf yn agored cofia ac mae'r defaid oddi yma i Pen Llyn acw ac yn y ffarm arall." Gellwch ddychmygu'r llifeiriant geiriau a ddaeth yn sgîl y sylw, "Pwy sy'n gyfrifol am hyn tybed?" Yn sydyn clywem sŵn traed yn llusgo am y t^y.

Iddo ef nid oedd holl ddysg y Dadeni, y toreth o opiniynau gwrthgyferbyniol, y llifeiriant o ddamcaniaethu athrawiaethol yn ddim ond rhwystrau ar ffordd dyn i gyfathrachu'n uniongyrchol â Duw.

galwasant a galwasant, a 'u pryder yn graddol droi 'n ddychryn, a 'u lleisiau 'n mynd yn sgrech, a 'r tri 'n rhedeg i fyny ac i lawr y lan gan chwilio yma a chwilio acw, ond yn gwybod yn dda y gallai llifeiriant gwyllt fel hwn daflu ffred a 'i gludo ymaith mewn chwinciad.