Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llifo

llifo

Gyda'r gwin (y Pino-shite o Chile) bellach yn llifo, cafwyd trafodaeth hir a ffyrnig hyd yr oriau mân ar safonau newyddiadurol yng Nghymru.

Mae iaith y cerddi yn llifo'n bwrpasol ac nid yw'r geiriau, fel arfer, yn cael eu gwanhau ar ôl eu trosi.

Gan ei bod yn llifo ar draws tir Newidfa a Phlas Llechylched, y duedd yw ei galw'n Afon Widfa, neu'n Afon Plas.

Mae'r busnes wedi gwneud camau breision tuag at ymgorffori ymagweddau mwy blaengar i'w arlwy o wasanaethau, gan gynnwys penodi rheolwr datblygu cynnyrch newydd arbenigol i weithio'n agos gyda BBC Cymru mewn meysydd megis technoleg rithwir a llifo byw.

Y rheswm am hyn yw fod y cerrynt mawr hanesyddol, o'r oesoedd canol hyd at ganol yr ugeinfed ganrif, oll wedi llifo trwy Ffrainc ac wedi cael mynegiant cyflawnach yno nag yn unrhyw wlad Ewropeaidd arall.

Roedd y Siampên yn llifo am ddim drwyr nos ac fel arfer buaswn wedi bod yn fy seithfed nef - ond yn ller bybli sudd oren a gefais i gydol y noson.

Islaw Pont Llangefni mae'r afon yn llifo'n araf a dioglyd ar draws Cors Ddyga a Morfa Malltraeth i'r môr.

Diolch byth bod yr hen roddwr hael yn cymryd ei dalu mewn darnau plastig meddyliaf wrth fy hun wrth ymuno â'r ffyliaid dyledus eraill sy'n llifo o gwmpas honglaid o warws a'i lond o deganau a rheiny res ar res o'r llawr i'r to ugain troedfedd a mwy uwch fy mhen.

Mae'n adran fawr a phrysur a thrwy'r dydd bydd newyddion yn llifo i mewn o bob rhan o Gymru a'r byd.

Bodlonrwydd yn llifo drosof am fod yr angen i gael fy ngweld yn byrlymu trwy'i lais.

Y ffwrnesi mawrion a'u geneuau aethus yn chwydu allan golofnau mwg a fflamiau troellawg cymysgedig a gwreichion i'r nwyfre, ac megys o dan ei seiliau yn tarddu allan gornentydd tanllyd o feteloedd yn llifo i'w gwelyau, y peirianau nerthol yn chwythu iddynt trwy bibellau tanddaiarol fel pe bai diargryn wedi talu ymwdiad a'r dyffryn .

Y mae'r afon yn llifo'n dawel, nid oes unrhyw ddyfroedd garw na rhaeadrau yma.

Y mae'r diagram yn dangos y gall dyodiad naill ai fod yn ddŵr arwyneb a fydd yn rhedeg i ffwrdd ac yn llifo'n uniongyrchol i lawr yr afon, neu gall suddo i mewn i'r tir drwy broses a elwir yn ymdreiddiad.

Yn ôl Syr Ifor Williams, awgryma'r enw ffrwd gref, un yn llifo'n nerthol.

Mae afon Cafnan yn tarddu yn Llyn Llygeirian ym mhlwyf Llanfechell ac yn llifo tua'r gogledd i'r môr ym Mhorth y Pistyll, cilfach fechan ar ochr orllewinol Trwyn y Wylfa.

Yr ochr draw i Gob Malltraeth, mae Afon Cefni yn llifo'n naturiol unwaith eto, ac yn lledu'n aber eang.

Ym mis Mai eleni, hedfanodd Aled i Iran i dynnu lluniau'r Cwrdiaid oedd yn llifo allan o Irac, o afael erlyn di-drugaredd Saddam Hussein.

mae'r busnes wedi gwneud camau breision tuag at ymgorffori ymagweddau mwy blaengar i'w arlwy o wasanaethau, gan gynnwys penodi rheolwr datblygu cynnyrch newydd arbenigol i weithion agos gyda BBC Cymru mewn meysydd megis technoleg rithwir a llifo byw.

Mae'r llwybr isa'n llifo ar draws Cors Ddyga.

Am ddau ddiwrnod cyfan bu Idris yn crwydro drwy'r goedwig, ond y trydydd dydd, yn y bore bach, cyrhaeddodd wlad brydferth yn llawn mân fryniau a dolydd, afonydd yn llifo drwy'r cymoedd, pentrefi bach yn britho'r wlad a chestyll urddasol yma a thraw ar y bryniau.

Fel llawer o afonydd y mae Afon Conwy weithiau yn llifo dros ei glannau ac yn gorchuddio'r tir o'i hamgylch.

Bellach, mae erthyglau yn llifo i mewn, a'r Gymraeg yn gyfrwng i fynegi syniadau.

Teimlodd y nerfusrwydd yn ei adael fel dŵr yn llifo oddi arno, ond rhoddodd Bilo ei law ar ei ysgwydd a'i wthio'n ôl yn ddigon diseremoni i'w sedd.

Yr oedd yn awdur toreithiog, a llyfrau hanes, dyddiaduron gwir a dychmygol, erthyglau di-rifedi, ac un nofel hanesyddol yn llifo o'i bin ysgrifennu.

A myfi a sylwais y modd y byddai gyrrwr y trên hwnnw wrth esgyn yn defnyddio grym trydan oedd yn llifo mewn gwifren uwchben i gynorthwyo'r trên ar ei daith.

Chwarddodd eto, yr un chwerthin gyddfol, ond yn sydyn trodd y chwerthin yn gyfog a gwelodd Llio waed yn llifo o'i cheg, ei llygaid yn troi a'r graith yn goch hyll ac yn amrwd.

yr oedd eira chwefror a glawogydd tros w ^ ŵyl ddewi wedi chwyddo nentydd yr ardal a chreu rhaeadrau yn hafnau 'r bryniau, a 'r cwbl yn llifo i afon afon nes ei bod hi, erbyn cyrraedd y dyffryn lle safai aberdeuddwr, yn genllif gwyllt gwyn, ar frys i gyrraedd y dolydd tu hwnt i trillwyn isa lle gallai orlifo i 'r caeau a chael ymwared a 'i ffyrnigrwydd.

Teimlai nerth anhygoel yn llifo i'w freichiau a'i ddwylo.

Gelwir y rhan o Afon Caradog sy'n llifo drwy blwyf Llandrygarn yn Afon Post hefyd gan bobl yr ardal, enw sy'n amlwg wedi tarddu o'r ffaith fod Swyddfa'r Post ar un adeg yn Rhydcaradog.

Yr oedd y dagrau yn llifo.

Teimlodd y poer yn llifo i'w geg wrth eu henwi.

Arweiniodd Marie y ffordd i fyny grisiau culion di garped, a'r lleithdra'n llifo hyd y pared noeth.

Ond efallai, meddyliodd, wrth deimlo'r gwaed yn llifo o'i ysgwydd ac i lawr ei fraich, y byddai'n anodd defnyddio manual ar y funud ta beth .

Pan glywn y geirie, "Mike England's here% cyn unrhyw gêm roedd yr adrenalin yn llifo ddwywaith gymaint ag arfer.

Yn ei rhan ganol, mae Afon Cefni'n llifo drwy bedwar llyn.

Gwelem Mekong o'r awyren fel llinell arian yn llifo drwy'r wlad; mewn rhai mannau mae'n dair milltir o led ac yn ddigon dwfn i longau o'r môr mawr i hwylio i fyny cyn belled â Phnom-Pen .

Yna daeth i olygu'r fan lle bydd afon yn llifo allan o lyn.

Gydag ymdrech enfawr, llwyddodd i atal y geiriau aflednais rhag llifo o'i enau a bodlonodd ar edrych yn fileinig ar y swyddog ifanc.

Dechreua'r trac agoriadol gyda swn dwr yn llifo ac mae'n agoriad effeithiol i'r gân Dysgu Nofio - un o uchafbwyntiau Clockwork.

Mae arwyddion Saesneg i'w gweld ar bob tu a'i seiniau'n llifo drwy'r cyfryngau i bob cartref, yn wir i ystafelloedd preifat ein plant a'n hieuenctid drwy gyfrwng y dechnoleg gyfoes.

Dewisais 'Pennar' am fod yr afonig Pennar yn llifo i'r afon Cynon lai nag ystaden o'r lle y'm ganed.

Ffoaduriaid yn llifo i Orllewin Berlin o'r sector Rwsiaidd.