Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llinyn

llinyn

Yn ddiamheuaeth, bydd hanes yn siwr o farnu mai rhan allweddol o'r llinyn mesur ar lwyddiant ac arwyddocâd y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr hyn a gyflawna'r Cynulliad dros sicrhau dyfodol i'r iaith Gymraeg.

Ar y llaw arall, gallai ddadlau na ddylai Undodwr gwerth ei halen fod hebddo, nid yn unig oherwydd ei waith personol, ond am ei fod yn ddolen gydiol rhwng aelodau gwasgaredig a llinyn bywyd y mudiad.

Ond y ffaith amdani, wrth gwrs, oedd fod yna wrthddywediadau yn rhedeg fel llinyn drwy'r wasg Gymreig yn oes ei bri.

Yr oedd Ieuan Gwynedd yn byw yn Nhredegar pan ddechreuodd y tri Sais mawreddog ar eu gwaith o fwrw llinyn mesur dros Gymru a'i phobl.

Ac egwyddor gyntaf ceidwadaeth yw ymwrthod â phob chwyldroad, cadw llinyn bywyd cymdeithas yn gyfan a didor, parchu yn fwy na dim arall mewn bywyd draddodiadau'r genedl.

Oddi mewn i bob cell fyw mae DNA - y llinyn o wybodaeth enetig sy'n cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r nesaf.

Fy rheswm dros ddibynnu ar y plu yma yw fod yr Arian Glas yn bluen oleu a'r Ceiliog Hwyaden Corff yn dywyll Beth bynnag fydd amgylch lliw gwiniadau'r tywydd a ffansi'r sewin mae'r ddau ddewis nawr gennyf ar yr un blaen llinyn.

'Mae cŵn yn costio,' meddai Mam yn bendant, 'ac mae'n ddigon anodd cael deupen y llinyn ynghyd fel ag y mae...'

Ond llinyn bôl oedd yn ei dal hi hefo'i gilydd, fwy neu lai.

Wrth gwrs byddai dyn cynefin â'r wlad wedi codi'r llinyn dros y cilbost yn hytrach na'i ddatod, a byddai dyn felly wedi cau'r llidiart ar ei ôl yn ogystal.

Torrodd y llinyn brau a fu'n cadw rheolaeth ar dymer Dilwyn.

Er enghraifft, pe bai gwraig feichiog yn neidio drosti credid y gallai'r llinyn bogel dagu'r baban.

Oddeutu'r pum cant, fwy neu lai, sydd yn cystadlu yn Adran Llên y Genedlaethol bob blwyddyn, er bod pum mil a mwy ar b'nawn Iau yn ysu am roi 'u llinyn mesur ar 'u tipyn ymdrechion nhw hefyd.

Roedd llinyn pysgota dau gant saith deg troedfedd o hyd wedi cael ei glymu wrth y saeth - ac roedd ganddyn nhw ffrind ar ochr orllewinol y wal yn aros i'w helpu nhw i ddianc.

roedd llinyn mynegi safbwynt a barn wedi'i hepgor o'r llyfryn cofnod gan nad oedd yn cael ei asesu eleni.

Roedd hi'n Rhyfel Byd erbyn hyn ac roedd cael dau ben llinyn ynghyd i weinidog ifanc a chanddo bellach bump o blant yn anodd.

Y rheswm dros y cynnwrf oedd y cysgodion duon oedd i'w gweld yn llinyn tywyll ar lawr y dyffryn.

Erbyn hyn roedd y jetiau wedi glanio a thrwy'r dail gallai Elen weld y llinyn truenus o garcharorion yn cael eu gwthio tua giatau'r gwersyll newydd a oedd wedi'i agor ar lannau'r llyn.

Ar adran honno yw'r llinyn syn rhedeg cysylltur coleg a sefydlwyd yn y cabanau ar y Waun ac a symudodd i adeiladau newydd yng Nghyncoed ddechraur chwe-degau.

Torrid llinyn ei fogail allan a'i hoelio i dderwen, yna fe i gorfodid i gerdded o gwmpas y goeden nifer o weithiau nes bod ei berfedd wedi ei dynnu allan a'i ddirwyn o gwmpas y pren - bywyd am fywyd.

Gwyddent taw Jonathan oedd yr unig ddolen gyswllt rhyngddyn nhw a'r byd ar ei newydd wedd a gwyddent hefyd fod y cyfarfod rhyngddo ef a Mathew yn mynd i fod yn un allweddol i gael gafael ar ben-llinyn yr holl ddryswch.

Mae'r llinyn o chwe phentref yn medru cynnwys gwybodaeth unrhyw daith i ddosbarthu Delta - gellir ei alw'n 'DNA' sy'n cynnwys gwybodaeth enetig taith arbennig.

Rhaid, drwy gyffyrddiad y bysedd ar y lein, ddychmygu taith y plu ar y blaen llinyn, a thrwyddynt gyfieithu pob cyffyrddiad ac ystum o'u heiddo yn ddarlun o'r hyn sy'n digwydd yn y pwll.

Gwisgais fy 'llinyn G' a'm clocsiau, cyn inni lusgo'r corffyn allan a'i archwilio.

Unwaith inni weld sut un ydyw a'r math o anawsterau y mae'n eu hwynebu yn feunyddiol wrth geisio crafu bywoliaeth yna daw yn gyfaill inni, neu o leiaf yn rhywun sydd oherwydd ei ymdrech i gael dau ben llinyn ynghyd yn haeddu ein cydymdeimlad a'n cymorth.

Ac hefo llinyn bôl y clymodd Ifor rhyw hen ddôr ar dalcan y sied, gan ddisgw'l y byddai%r saer coed yn dwad yn ei ôl i roi drws yno rhywbryd yn y dyfodol.

Mae natur yr hanes yn wahanol, gan fod Duw yn defnyddio'r llygoden i gynorthwyo Cadog, ond fe welir y sant yn dal llygoden yn ei law ac yn ei rhwymo ê llinyn, elfennau nas ceir yn yr hanesion eraill.

Cyn gynted ag y gwelodd ef y saeth a'r llinyn yn nadreddu dros y wal rhedodd tuag at y fan lle y disgynnon nhw.

Nid oedd yn gyfarwydd â physgota yn y nos efo plu, ac yr oedd wedi gadael blaen llinyn ar ôl blaen llinyn, fel trimins ar fasarn a gwern, o gwmpas y pwll.

Cododd y llinyn a dechreuodd ei dynnu fel bod y wifren ddur a oedd wedi cael ei chlymu wrtho'n dod dros y wal hefyd.

Gallaf weld darlun ohono yn fy meddwl pan oedd yn ugain mlwydd oed, yn ddyn ifanc talgryf, cymesur, a'i wddf praff nid fel llinyn rhwng y corff a'r pen, ond yn estyniad cadarn o'r corff.

Erbyn hyn, mae nifer cynyddol o bobl yn gorfod benthyca arian, nid er mwyn cael moethau bywyd, ond er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd.

`Mae hyn yn wych,' gwaeddodd Archie, `pryd rydyn ni'n tynnu llinyn y parasiwt?' `Mae digon o amser,' atebodd John Boxall, yr hyfforddwr.

Gobeithio fy mod wedi clymu'r plu a'rblaen llinyn yn iawn.

Aeth yn ôl i helpu'r amddiffyn a gwneud tacl wych yn y gornel ond fe dynnodd llinyn ei âr - yr hen wendid yna sy ganddo fo - a gorfod gadael y cae.

Cawn ei gweld yn symud i'r ardal i briodi, yn dechrau magu plant, ac yn ymdrechu i gael y ddau ben llinyn ynghyd, cyn i'r ffocws symud yn raddol at Owen.

At y gorchwyl hwn roedd yn gorfod cadw tennyn (llinyn mesur) at ei wasanaeth er mwyn gwneud gwaith cymen a chywir.

Bob nos Sadwrn fe fyddai Mati'n gwisgo'i gêr arferol þ hen gôt racslyd a llinyn wedi'i glymu am ei chanol; het dyllog; trowsus ribs; blewyn o wair yng nghornel ei cheg.

Ond er mor syml y rhediad mae'r manylion a gynhwysir a'r awyrgylch a gre%ir yn cyfrannu at ddatblygiad y stori oherwydd trwyddo rhed llinyn beirniadaeth o gymeriad Geraint yn ei ymagwedd a'r math o ddifyrrwch sy'n mynd â'i fryd.

Bu'n bustachu'n hir i ddatod y llinyn a glymwyd yn gwlwm-gwlwm.