Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llipa

llipa

Gadawai profiadau'r nos ei gorff yn llesg ac yn llipa.

Rywfodd, gallaf fu nychmygu fy hun yn awr yn sefyll yn reit ofnus o flaen y sbectol hynny mewn un o'i lysoedd yn Aberdar neu Ferthyr - am resymau amlwg efallai - ac yntau'n syllu'n ddigon llym ac eto'n eironig chwareus ar y fath ffigur llipa, ac ar ol tawelwch hir go arwyddocaol yn ebychu'n wlyb i ganol fy llygaid - 'Eilradd, ai e?' Oedd roedd yn bryd i mi ostwng pen ryw ychydig.

Gwell peidio casglu'r blodau chwaith, gwywo'n llipa wnant cyn pen fawr o dro wedi eu codi, mae'n llawer rheitiach eu gadael i eraill fwynhau eu prydferthwch.Cynefin tra gwahanol sydd i Flodyn y Gog un sychedig yw hwn ac felly ar weirgloddiau llaith a glannau afonydd y'i gwelwn.

Syrthiodd y cawr yn llipa ar wastad ei gefn a'r twrw yn ysgwyd y ddaear gyfan fel daeargryn mawr.

Mae'r cymeriadau hwythau'n llawn ac yn annwyl: Eli'r hen gocyn bach ffwdanus; Mona'r rasberry ripple a'i thraed yn solat ar y ddaear; Tref llipa, llwfr a diddychymyg.

Gollyngodd ei ddwylo'n llipa fel pe baent yn hollol ddiffrwyth.

Crymanodd Guto ac edrych yn bwdlyd i lawr y lab lle'r oedd Miss Davies yn potsian â jar gloch a thamaid o falŵn llipa.

Wrth edrych arno yn y microsgop electron sganio mae hwn yn ymddangos yn llipa ond yn y tentacl byw mae'n ymestyn yn syth allan o wyneb y tentacl.

Disgynnodd ei dwylo yn llipa wrth ei hochr.

Brysiodd i fwyta ei chig seimllyd a'i salad llipa er mwyn gallu ffonio Emyr i sôn am ei phenderfyniad.