Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llithro

llithro

all neb wadu, er bod yr ordeinio'n hollol anorfod, eto perigl yr ordeinio, perigl mynd yn gyfundeb ar wahan, ydy ei bod hi/ n haws llithro oddi wrth yr hen Erthyglau, yr hen Homiliau, rhoi llai o bwys arnyn-nhw, cymryd haearn y ffrwyn rhwng ein dannedd, penderfynu pynciau credo heb gadw mewn cof mai etifeddiath ydy'r Ffydd, ac mai cadw'r ffydd, traddodi, ydy swydd pregethwr, nid ymresymu'n rhydd.

Y ddamcaniaeth fwyaf poblogaidd yw bod curiad y silia a'r fflagela'n golygu bod y ffibrilau'n llithro dros ei gilydd yn hytrach na chyfangu fel y tybiwyd gynt.

Weithiau mae'n edrych fel rhidyll symudol anferth o oleuni, fel yn 'Y Gogarth o Fangor Uchaf', lle mae'r haul yn llithro'n esmwyth trwy orchudd tenau o gymylau i oleuo'r môr.

Nid bod cyfraniad cerddorol yr Eglwys yn ddisylw gan fod organ a chôr eglwys gadeiriol neu abaty yn sicr o fod yn hyfrydwch i glust pwy bynnag a'u clywai Ond yr oedd crefft y telynor a'r crythor proffesiynol yn dai yn hynod fyw a derbyniol, a pharch mawr yn cael ei ddangos tuag at feistri'r re/ pertoire traddodiadol helaeth a chywrain, sydd bellach wedi llithro bron yn llwyr o'n gafael.

Llyfr cyfrif gyda phanelau sy'n llithro o ochr y dudalen.

Cododd y brenin ei law ac ynghanol twrw'r dŵr gwaeddodd: Dowch ar fy ôl i rwan a gwyliwch rhag llithro ar y cerrig." Fel stori o lyfr yn yr ysgol, diflannodd o dan y pistyll dŵr.

Er mwyn gweld pa anifail sy'n cuddio, mae'n rhaid llithro rhannau o'r tudalennau cadarn i un ochr.

Roedd y llwybr yn ofnadwy ­ dau gam ymlaen a llithro thri yn ôl.

Ar ddydd golau, yn sŵn traffig a phobl a rhuthr fedrech chi mo'i chlywed, ond yn y tawelwch, roedd miwsig yr afon yn llithro dros y cerrig i'w glywed yn glir.

Ac fel tasa hyn ddim yn ddigon, roedd y Sbaenwyr ar Ffrancwyr nad oeddynt mewn dosbarthiadau'n arbenigo mewn sgio dros fy sgis, fy nharo hefo'u polion a gwneud swn llithro fel 'avalanche' y tu ol i mi.

Mae'r adenydd rheiddiol a'r cysylltiadau nexin yn troi'r llithro hwn yn symudiadau plygu ar ran y siliwm wrth iddo gyflawni'r gylchred o drawiad effaith a thrawiad adfer.

Ac yn sydyn, popeth yn sefydlogi ac yn caledu, a'r goleuni rhyfedd yn llithro i ffwrdd.

"Mae yna waith i'w wneud." Dilynodd hi ar hyd y strydoedd culion, yn hanner rhedeg a hanner llithro hyd y carped gwyn.

Yno, yn llithro o dan ddrws y gegin roedd ychydig bach o fwg.

Mwynhaodd y sylw a llithro'n ôl i'w blynyddoedd melyn - cysgu yn yr un ystafell fechan lle y gwelsai wyneb Duw yn y lleuad a chlywed Evan Moses yn mwmian am Ei gartre i fyny rywle yn yr awyr.

Dodwch y dorch o dan yr hylif sebon a'i llithro allan yn araf, yn hytrach na'i chodi yn fertigol.

Drwy'r ffenestr agored y noson honno, y peth olaf a glywai'r plant oedd sŵn yr afon yn llithro'n dawel dros y cerrig ar ei gwely gro yng ngwaelod y dyffryn, sŵn y tylluanod yn hwtian yn y coed ar ei glannau a chyfarthiad pell y llwynog coch o'i ffau ar lethr y mynydd.

Y mae ail- adeiladu seiliau cymdeithas yn dasg anodd, y mae adfer iaith sydd yn llithro o'n gafael yn dasg anos fyth.

Toc roedd yn crynu ac yn llithro ond cydiodd yn dynnach yn ei ffon fagl i gynnal ei bwysau wrth iddo wasgu ei law arall yn erbyn y graig.

Yr adeg honno y daeth yn ymwybodol o'r sŵn llithro o'i gwmpas.

Roedd yr hen wraig yn pendympian cysgu, a'i sbectol wedi llithro i lawr ei thrwyn.

nid ar ei phen ei hun, yn llithro lawr...

Gall fod gan y silia byr hyn yr holl gyfarpar hanfodol ar gyfer symud neu beidio, ond os yw blaenau'r ffibrilau sy'n ffurfio pob siliwm wedi'u cydio'n dynn yn ei gilydd, yna rhwystrir y ffibrilau rhag llithro dros ei gilydd.

Oherwydd stori fer o ffilm ydyw gyda'r darnau'n llithro i'w gilydd fel dror i fwrdd, chwedl Kate Roberts.

Trïa ysgogi dy bartner oherwydd dy fod ti wedi llithro mewn i rych.

Caeodd ef drachefn, gan benderfynu llithro'n ôl i'w lesmair.

'Roedd cyflwr y maes yn arbennig, roedd y chwaraewyr weithiau'n llithro.

Erbyn amser te yr oedd Lloegr yn cael y gorau o'r gêm a Pakistan wedi llithro i 151 am bum wiced.

Hir pob aros - ond drychwch - mae rhywbeth yn digwydd gyda char yn llithro drwyr porth.

Y peth mwya tebygol ydi bod un o'r gweision wedi gadael drws y celloedd heb eu cloi, a'u bod nhw wedi llithro allan a chael hyd i guddfan mewn rhyw fwthyn dinod yng nghanol y goedwig.

Wrth wylio un afalans llydan yn llithro ymaith yn union wrth draed dau ffigwr bach ym mhen arall y grib ac ofni'r gwaethaf am funud hir, daeth geiriau o 'Princess' Tennyson o'r newydd i'm cof: to walk With Death and Morning on the Silver Horns.

Tuedd y rhai pren oedd llithro allan o'u lle.

Doedd dim ots mod i'n cymryd pum gwaith gymaint i gyrraedd, na mod i'n llithro wrth fynd, na mod i'n cyrraedd wedi blino'n lan ac yn dioddef clymau gwythi.

Tybir bod y llithro rhwng ffibrilau sy'n gysylltiedig a'i gilydd yn deillio o weithgaredd y breichiau dynein.

Fel petai masg y clasurwr stans yn llithro am foment.

Awgrymir bod y silia hyn yn gweithredu fel dyfais rhag llithro neu groeswasgu, rhywbeth yn debyg i deiar a stydiau dur ynddo ar fodur.