Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llithrodd

llithrodd

O weld yr hwsmon mewn ystum gweddi ar ganol llawr y gegin cafodd Pyrs gryn sioc a llithrodd y gist bren drwy'i hafflau a drybowndio i'r llawr.

Ar y cyfle cyntaf, llithrodd i lawr y grisiau ac ar draws y parlwr yn ddistaw, ddistaw.

Llithrodd Geraint ei lygaid i lawr y wal honno, fesul carreg, nes gweld yn y gwaelod ...

Rhoddodd Elis Robaitsh eitha slaes iddo hefo'r cap stabal a llithrodd Pero dros ben yr olwyn i'r ffos.

Llithrodd y pen-teulu yn ddiymhongar i gadair y cerfiwr, a chymerth y misus ei hunan yr awenau yn y pen arall.

Yna llithrodd drwy'r ffenest ac allan.

Llithrodd wal o eira lawr y mynydd, ei wthio o'i blaen a'i gladdu mewn eiliad.

Clywn ei sŵn yn stwyrian ac yn murmur draw yno, a chyn bo hir dyma fo'n ymddangos o'i guddfan dan groesi'r llawr llydan ar ryw hanner dawns, ond wrth chwifio'i freichiau llithrodd y stethosgop o'i ddwylo dan sglefrio ar bolish y linolewm fel sarff rwberog.

"Llithrodd hwnnw, a'm trôns, i ffwrdd wrth i Rex fy llusgo gerfydd fy jersi ar hyd y cae," atebodd ei dad.

Gwell i ni fynd tra bod cyfle gyda ni.' Rhoes Michael bwli ar y wifren dynn a chan wthio'i hun i ffwrdd o sil y ffenestr gyda'i draed llithrodd i lawr.

Llithrodd cadno ar hyd y llwybr defaid a groesai Fynydd y Glog gan beri cyffro sydyn yn y ddiadell wasgaredig, ond ni chymerodd ef yr un sylw ohonynt hwy.

Llithrodd y wlad yn ddyfnach ddyfnach i'r gaeaf.

Yn sydyn, llithrodd y bollt yn ddidrafferth i'w le, ac agorodd drws y bwthyn led y pen, gan daflu'r hen wraig fel crempog yn erbyn y wal a rhoi clec iddi ar ei thrwyn.