Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lliwgar

lliwgar

Doedd y du a'r gwyn byth yn cymysgu, a rhwng y ddau eithaf roedd bywyd yn syml ac yn lliwgar.

Clywais ddweud y bu hwn yn fynydd-tanllyd unwaith a bod ei greigiau lliwgar yn profi hynny.

Ni welwyd erioed amgueddfa mor lliwgar, y waliau yn ddu a llif-oleuadau bach yn goleuo'r cesys, rhai yn ymwneud â blynyddoedd y rhyfel fesul blwyddyn ac eraill yn trafod hysbyseb unigol, OXO, Ovaltine, Rinso ac yn y blaen.

Gellid dadlau mai Bill Parry yw un o'r cymeriadau mwyaf lliwgar yng Ngogledd Cymru.

Croesawai'r Eglwys gelfyddyd y paentiwr hefyd, a ymarferai â'i grefft ar y muriau gwyngalchog a darlunio golygfeydd Beiblaidd ac eglwysig yn lliwgar a byw; yn naturiol, fel yr âi tai'r ysgwi%eriaid yn fwy uchelgeisiol, câi'r paentiwr fynedfa iddynt hwythau'n ogystal.

O bob cyfeiriad daw dynion a merched mewn crysau gwynion i gynnig canapés a vol-au-vents yr un mor lliwgar.

Dim ond y Gwylwyr a gâi wisgo dillad lliwgar.

Heddiw papur lliwgar wedi'i dorri'n fân.

Y tueddiad heddiw ydi clirio llefydd o'r fath, a dyna'r nico wedi colli ei gynefin a ninnau yn colli ffrind a chantor lliwgar diguro.

Trefn o fesur a roddodd inni ddywediadau lliwgar fel Dim llawn llathen a Rhoi chwart mewn pot peint.

Mae'r nico, yr un mwyaf lliwgar o'r teulu, tipyn bach yn fwy swil, ond fe'i gwelir mewn llawer i ardd rhai adegau o'r flwyddyn.

Ar wahân i nofelau a straeon ecsentrig Dr Pennar Davies a nofelau lliwgar diweddar Rhydwen Williams nid oes gennym odid ddim o wir bwys.

Gyda'r goleuadau'n pefrio a'r carped trwchus, lliwgar, yn wir, roedd yn debycach i eglwys nag i gapel.

Detholiad o hwiangerddi poblogaidd Cymraeg, gyda lluniau lliwgar.

Teulu Lliwgar Mae lliwiau llachar yn nodweddiadol o'r rhan fwyaf o'r Pincod.

Y weithred yma, o dderbyn pum cant o gopi%au o lyfrau lliwgar, syml Collins, oedd yr un gymwynas fawr a wneuthum dros lyfrau Cymraeg yn ôl Wyn Burton, Llyfrgellydd Ysgolion ar y pryd.

Ac yr oedd yn Blas - gatiau crand a stepiau yn arwain at bileri Rhufeinig, ac oddi mewn i'r neuadd fawreddog paneli o luniau lliwgar ar y waliau.

Cofiant y cymeriad lliwgar yn llenyddiaeth Cymru'r ugeinfed ganrif.

Mae'r lluniau lliwgar yn hyfryd gyda digon o fanylder i gadw diddordeb plentyn bychan yn y cymeriadau a'r anifeiliaid.

Wedi i'r fflach o olau gilio, gwelodd gyda syndod ei fod yn sefyll yno gan ddal clamp o gleddyf addurniedig, a gemau lliwgar ar ei charn, a'i llafn mor ddisglair nes ei bod yn goleuo'r gell gyfan.

Doedd gwaith yn yr ysgol fel athro ddim mor ddiddorol a lliwgar i ysgrifennu amdano rhywsut." "Mae'n bywydau ni'n cael eu difetha gan agwedd pobol.

Mae hi'n llachar, mae hi'n lliwgar a dyw hi'n cymryd dim gwamalu, gan neb.

Roedd bathodyn Lithuania'n lliwgar-ffres ar ddillad swyddogion y maes awyr - yn ôl y drefn flaenoriaethau draddodiadol mewn sefyllfaoedd o'r fath, roedd iwnifforms ar ben y rhestr.

Mae'r lluniau'n lliwgar a chlir ond heb y gwreiddioldeb a geir yng Nghyfres Rwdlan.

Llyfr lliwgar yn cyflwyno synau anifeiliaid.

Wedyn dyna William Phillips, Castell Pictwn, priod Janet Perrot, chwaer y cymeriad lliwgar hwnnw, Syr John Perrot.

Dyma pryd y daeth blodau lliwgar i fod.

Cant eu peillio gan y gwynt, ac felly nid oes angen petalau lliwgar i ddenu pryfed.

Yn amadawiad Mr HS Roberts collodd Llanfairfechan un o'i chymeriadau mwyaf lliwgar a diddorol, gwr ag yr oedd ei ddiddordebau yn cyffwrdd y rhan fwyaf o weithgareddau y cylch.

Y môr a'i drysorau fydd y thema a ddefnyddir ac fe'i cyflwynir mewn modd lliwgar, hwyliog a deniadol.

Rhoes y gorau i arlunio confensiynol er mwyn datblygu ei dawn arbennig at greu baneri protest allan o ddefnydd lliwgar.

Roedd yna rhywbeth hudolus, arall-fydol bron am weld y gemau'n fyw o Mexico yn gynnar yn y bore -- roedd o'n fyd cyffrous, lliwgar, a safon y pêl-droed yn wefreiddiol.

Gyda'i ddull lliwgar o adrodd stori a'i hymestyn o fodfedd i filltir, fe aeth yn rhan o'n chwedloniaeth, o'n traddodiad a mesur o'i ddylanwad ar gymdeithas yw fod ei straeon yn dal yn fyw, ymhell ar ei ôl.

Hynny, oherwydd bod dweud hynny yn awgrymu fod aelodau ein senedd genedlaethol yn lliwgar.

"Rydych chi'n edrych ar oroesiad di- fflach iawn bywyd digon lliwgar, cripil â'i ddwy goes wedi eu parlysu a dim ond hanner ei goluddion ganddo.

Roedd bryd Hel Straeon yr wythnos hon ar bysgodyn tew, lliwgar o'r enw Myfanwy sy'n byw yn Llanfairpwll.

Y ddau air syn cael eu defnyddio amlaf i ddisgrifio llyfrau Cymraeg yw lliwgar a swmpus.

Biti na fyddai pawb yn cael gwisgo dillad lliwgar, meddyliodd.

Llyfr lliwgar fformat mawr yn rhoi hanes Shompa a'i bywyd yn India.

Prif atyniad yr arddangosfa oedd detholiad o'r Rhuban Heddwch lliwgar a ddangoswyd y llynedd ar faes Eisteddfod Llanrwst.

Amrywiant o'r rhai llachar lliwgar yn y trofannau i'r rhai llai amlwg eu lliw a'u llun a welwn ni yng Nghymru.

Tywysodd Lisa yr ymwelydd o gwmpas, gan symud o'r meinciau at y byrddau, o'r torwyr at y peirianwyr, o'r rhesi o esgidiau lliwgar ar eu hanner at y gwadnau yn disgwyl am sodlau, ac o'r diwedd at yr esgidiau gorffenedig yn cael eu gosod yn daclus mewn blychau gwynion.

Cerddi lliwgar i'w mwynhau yw'r rhan fwyaf, cerddi y galwch eu darllen drosodd a throsodd a gweld profiad newydd ynddynt bob tro.

Adroddodd papur newydd mai cynllun ffrog Versace drawiadol a wisgwyd gan Miss Hurley yw'r ysbrydoliaeth y tu ôl i gynllun lliwgar ar fysus yr ardal.

Ym marw sydyn ac annhymig Bedwyr Lewis Jones collodd Cymru un o'i meibion gorau ac un o'i chymeriadau mwyaf lliwgar.

Mae Darwin yn lliwgar, llawn persenoliaeth ac yng nghanol tymor y Monsoon.

O'r funud gyntaf, cawsom ein swyno gan y lle - y pentref glân ar droed y mynydd enfawr, y tai a'u bocsus blodau lliwgar, cwrteisi'r bobl, a hwyl ein cyd-deithwyr yng Ngwesty Montana.

Bryd hynny hefyd, fe gafodd pobol leol waith ac enwognwydd fel ecstras, gyda helyntion dau o gymeriadau mwya' lliwgar Caernarfon ar y pryd - Wil Napoleon a Mons - yn dod yn rhan o chwedloniaeth y Cofis.

Oedd, fe oedd yn gymeriad lliwgar, gyda iaith a dywediadau yr un mor liwgar.

Yr oedd yn fyrlymus a lliwgar ei barabl, ac yn un man gollyngodd y gair bugger o'i enau.

Y deiliach a aeth â'i bryd, rhai bach, rhai mawr, brau, crin, oll yn lliwgar fel cychod mewn regeta.

Dyma ţr sy'n huawdl iawn wrth areithio, a'i ieithwedd yn lliwgar ond y deall yn finiog.

Llawlyfr lliwgar yn dangos sut i greu patrymau Celtaidd deniadol.

Siapiodd ei bysedd medrus sgwariau o ddefnydd a'u troi yn rhosynnau sidan fel rhai byw a phennau blodau lliwgar tra'n siarad am yr hobi cyfareddol hwn.

Tudalennau lliwgar i ddisgyblion meithrin sy'n dysgu Cymraeg.

Felly yr un cynlluniau asesu sydd ar y gweill i'r gorau o Ynysoedd Prydain yn ogystal â'r brwdfrydedd sy'n rhan annatod o gymeriad lliwgar Steve Black.

Os oedd Evan Jones yn gymeriad, roedd ganddo gefnder ymhlith y mwyaf lliwgar o blant dynion.

Mae gynno fo gefndir lliwgar, oes.

Naratif llinynnol a phob digwyddiad yn dilyn y naill y llall mewn trefn amseryddol yw hwn, ond nid yw mor lliwgar a hamddenol â'r ail nac ychwaith mor rhesymegol ei gyflwyniad.

'Y siom mwyaf oedd gweld y ffenest, a arferai fod yn lliwgar ddeniadol ac yn llawn bywyd, mor wag.

Ym Mangor penderfynodd y Frigad Dân ddefnyddio eu hysgolion i annog y cyhoedd i gyfrannu at fwcedi Pudsey a thra eu bod nhw'n dringo, roedd gweithwyr archfarchnad KwikSave yn y ddinas yn gwisgo dillad hanesyddol lliwgar i berswadio cwsmeriaid i gyfrannu ychydig o geiniogau at yr achos.

Efallai'n wir fod eu hymateb iddynt yr un ag ymateb Joyce i gatholigiaeth, ond yr oeddynt yno, hyd yn oed os oeddynt yn llai lliwgar na'r adleisiau joyceaidd.

Safai pedair cadair uchel â chlustogau lliwgar arnynt ar y llwyfan.

Dim ots os yw eich llyfr y peth mwyaf syrffedus dan haul o ran cynnwys - cyn belled âi fod yn lliwgar ac yn swmpus mi fydd yr adolygwyr wedi eu plesio.

Yr oedd yn gymeriad lliwgar, yn heddychwr y rhoddwyd min ar ei dystiolaeth gan y clwyf a ddioddefodd fel milwr yn y brwydrau yn Nyffryn Somme yn ystod Rhyfel Byd I.

Eu pobl nhw, yn Saeson, Ffrancwyr ac Americaniaid, yw'r cymeriadau lliwgar, herfeiddiol a fu'n brasgamu ar draws cyfandiroedd gan adael ar eu hôl ychydig o oglau alcohol, calonnau chwilfriw a biliau heb eu talu.

Mae mynyddoedd yr Hajar yn cadw gormod o'r anialwch o'r fan hon, tra bo'r cwrel yn gwneud yn siwr fod digon o bysgod lliwgar i'w gweld dan donnau'r Indian Ocean.

Y digwyddiad arall oedd agoriad ffurfiol Llyn Celyn pan ddaeth mawrion Lerpwl ynghyd i gynnal y seremoni mewn pafiliwn lliwgar, agored, wrth odre'r argae.

Mae'n stori wreiddiol sy'n llawn digwyddiadau wedi eu gosod ar dudalennau lliwgar efo lluniau trawiadol.

O'n cwmpas, cannoedd o lyffantod mawr yn crochlefain ac wrth ein pen yn y goedwig, yr adar lliwgar yn gwatwar fel tonic solffa.

Un o berhenogion mwyaf lliwgar y tŷ oedd Thomas Wynn.

cyfoethogir cyflwyniad syml a dirodres yr awdur gan doreth o luniau lliwgar, nifer ohonynt yn lluniau dychmygol.