Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llochesau

llochesau

Yr oedd yn dda gan Gymorth i Fenywod yng Nghymru gael ymgynghori a gweithio gyda Tai Cymru, a Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Cymru yn y gwaith o lunio'u canllawiau newydd hyn mewn perthynas â llochesau.

Pan gwblheir y rheini sydd ar y gweill ar hyn o bryd, bydd dau draean o'r llochesau yng Nghymru wedi ru darparu drwy gymdeithasau tai yn hytrach nag awdurdodau lleol.

Ond llesteirir gwerth y fath welliannau gan y ffaith bod y diffyg cartrefi addas ar gyfer menywod a phlant sy'n ymadael â'n llochesau yn faen tramgwydd i'n holl wasanaeth.

Cyllido swydd gweithwraig plant lawn-amser ym mhob un o'n llochesau yw ein nod o hyd, ac mae Cymorth i Fenywod yng Nghymru unwaith eto wedi cefnogi ceisiadau am arian drwy'r rhaglen Cymorth Trefal; bu dau o'r rhain yn llwyddiannus, sef y Rhyl ac Ogwr.

Parhaodd grwpiau Cymorth i fenywod lleol i ddatblygu llochesau mewn partneriaeth â chymdeithasau tai yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Calondid i ni yw gweld bod y Lwfans Rheolaeth Anghenion Arbennig yn cynnwys swm ychwanegol ar gyfer llochesau sydd yn cydnabod y ffaith bod eu costau yn uwch oherwydd y nifer fawr o blant y rhoddir llety iddynt i'w gymharu â mathau eraill o hostel.

Ond gall ymdrin â chymdeithas tai fod yn broses hirfaith, gymhleth, a bydd yn fynych yn golygu bod gofyn i staff mewn llochesau ddatblygu gwybodaeth arbenigol mewn maes arall eto, a hwythau eisoes â gormod o waith a rhy ychydig o arian.

Er bod y mudiad cymdeithasau tai yng Nghymru wedi ehangu, mae eu cyfraniad hwy i ddarparu cartrefi parhaol ar gyfer menywod a phlant sy'n ymadael â llochesau yn amrywio'n fawr iawn.

Er mwyn hwyluso a rhoi ffurf i'r broses hon, datblygodd y Grŵp Prosiectau Arbennig o fewn Cymorth i ferched yng Nghymru, sy'n cynnwys gweithwragedd llochesau menywod sy'n gweithio yn maes tai, a gweithwraig tai CiF nifer o fodel-gytundebau.