Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llon

llon

Ni all neb anghofio'i brofiadau trist a llon, tawel a chynhyrfus, tra bo'r cof yn effro a'r gydwybod yn fyw.

Dim ond gelynion Cymru a Chymreictod sy'n honni y buasai'r cenedlaetholwyr Cymreig wedi cydweithredu'n llon â'r Ellmyn petai lluoedd Hitler wedi goresgyn Prydain.

Merched du llachar yw gwragedd Cwffra, merched cryf, llon, ac yn eu plith ambell un dawel, feingorff, na fyddai ei symud drwy'r tŷ yn ddim amgenach na chwyth o berarogl neu dincial isel tlysau arian.

Hawdd tosturio pan fo'r galon yn llon.

Doeddwn i ddim wedi bod yno ddim dau funud, pan ddaeth rhyw hen fachgan ata i'n llon i gyd.

I ffwrdd â ni unwaith eto, gan ganu'n llon (y rhan fwyaf ohonom, o leiaf).

Cyfoeth o storiau, am ei ddyddiau cynnar fel siopwr gwlad, oedd forte Evan Jones, y perchennog, a gallai ddifyrru'r oriau gydag atgofion am y llon a'r lleddf.

Pa rwystr oedd i wreng a bonedd ddathlu'r þyl yn llon?

Fel hyn y cymharodd Tom Parri Jones ddagrau'r llon a dagrau'r lleddf þ Dwy afon dirion deurudd þ i rai llon, Ond i'r lleddf a'r dwysbrudd Chwipiadau rhaffau ar rudd, Stori cwest ar y cystudd.

Ceir darnau gan Watcyn Wyn, Gwydderig a Gwalch Ebrill mewn amryw o'i bamffledi, ac er mai enw'r Meudwy sydd ar glawr Llon lenyddiaeth y gweithiwr (Abertawe c.