Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llong

llong

Roedd y capten llong yn yr ail gerbyd a ddaeth i'r golwg.

Ar y diwrnod llawn olaf yn Galway, mynnodd Merêd eu bod yn mynd ar y llong i Ynysoedd Arainn.

Ond oherwydd ei bod hi'n dywyll, bu'n rhaid craffu i weld golau'r llong ar y môr yn y pellter, ond tybiai sawl un ei bod yno.

Yn ffodus roedd llong achub arall ar ei ffordd i'w helpu nhw hefyd.

Ymunodd wedyn fel Mêt â llong fawr unwaith eto yn Glasgow a oedd yn llwytho am Sydney, Awstralia.

Mae'n rhaid fod Datini wedi cipio'r llong.

Ar y daith hon ar y llong y cefais fy mheint cyntaf o Guinness.

Ond wedi i'r llong angori ger Inis Mo/ r, sylweddolodd D ilys fod rhaid mynd mewn cwch bach i'r lan ac roedd hynny'n codi braw arni.

Ymunodd â llong hwyliau a hwylio am Pisagua yn Peru a chael tywydd mawr o gwmpas yr Horn.

Roedd y llong yn gollwng dwr ac roedd yn rhaid i'r criw bwmpio ddydd a nos er mwyn ei chadw rhag suddo.

Roedd gweddill y criw yn cysgu tra gofalai Douglas a hwythau am y llong.

Rwyt ti'n siwr o lwyddo." Cofiodd yn sydyn hefyd am yr hyn a ddywedodd un capten llong wrtho unwaith pan oedd yn forwr ifanc iawn.

Rwy'n credu ei fod, am funud o leiaf, yn falch o weld dyn yno wrth ei ochr, gan iddo afael yn dynn yn fy mraich Rhonciodd y llong yn afreolus deirgwaith ar ôl ei gilydd.

Yn y llyfr Porthmadog Ships mae gennym hanes am y llong Marie Kaestner a gollwyd gyda phawb oedd arni ar fordaith o Lerpwl i Borthmadog.

Cawsom ginio yn Amlwch ac wrth gychwyn oddi yno am Gaergybi gwelsom un o longau cwmni y Blue Funnel yn hwylio'n weddol agos i'r arfordir, ac 'roedd gwledd arall yn ein haros yng Nghaergybi, sef cael mynd ar fwrdd y llong Cambria.

Wrth fwrw ymaith yr iaith a'r hen sicrwydd, fe'i cafodd Huw Menai ei hun fel llong ar drugaredd y byd - yn enghraifft drawiadol o beryglon newid diwylliant yn rhy sydyn.

'Wel, be wyt ti isio tro'ma, Llong?

Yn oes yr hwyliau diflannodd llawer llong fawr hardd, a'r unig esboniad a roddwyd yn yr ymholiadau swyddogol oedd y tebygolrwydd mai taro rhewfryn a achosodd iddi suddo, gan foddi pob enaid byw heb adael neb i ddweud yr hanes.

Mae'n anodd i ni, sy'n hedfan i Awstralia mewn mater o oriau, ddychmygu'r fath brofiad; wythnosau lawer wedi eu carcharu o fewn terfynau llong gymharol fechan, heb gysylltiad o gwbl a gweddill y ddynoliaeth.

Help!" gwaeddodd, gan obeithio y byddai rhai o'r criw a gysgai yn rhan ôl y llong yn deffro wrth ei glywed.

'Roedd Thomas Williams, Olgra yn gapten ar long o'r enw Maritime a phan fyddai'r llong mewn porthladd ym Mhrydain arferai Mrs Williams a'r ddwy ferch fach, Eluned a May, ymuno ag ef a byddai Mam yn cael mynd efo nhw.

Wyt ti'n cofio?" Hwyliodd y llong heibio'r morglawdd, a'i thrwyn yn ffroeni'r môr agored.

Yr oedd yr Almanac yn ystordy o wybodaeth gymysg am genedlaethau lawer, geni, priodi, marw rhyw deyrn neu arglwydd, drylliad llong, neu dan mawr Llundain, ac yna yn sydyn, rhyw ddywediadau fel - "Gwynt a glaw, yma a thraw%, rhyw erchyllderau dyddiol am sbel wedyn, ac yna "Felly pery i'r mis derfynnu%, hynt y lleuad a thrai a llanw.

Campiodd y gwynt i chwythu'n ffyrnicach o'r de-orllewin, a sylwodd y rheini o bobl brofiadol ar y bwrdd fod y llong yn gorfod newid ei chwrs i yrru yn wyneb y gwynt.

Hyn oll bron dwy flynedd cyn i mi gael llong.

"Ddim hyd yma, neu fuaswn i byth wedi mentro ailadrodd yr holl stori wrthych chi heno." "'Rydym yn ffodus ein bod ni wedi gofalu am gaban," meddai fy ngwraig wrth i'r llong symud oddi wrth y cei yn Dover am un o'r gloch y bore.

Er ei bod yn noson ddistaw yno yn y Cefnfor Tawel, a'r llong heb fod yn ysgwyd llawer, fe lithrodd ei law yn sydyn oddi ar y cloc.

.' Cododd ei glustiau'n syth: Wyddoch chi, y gŵr y buoch chi'n sgwrsio ag o ar y llong, y masnachwr o Genoa .

Roedd PC Llong yn sboncian i fyny ac i lawr fel estrys ungoes ac yn chwythu fel fflamiau ar ei chwibanogl arian.

'Wel be?' meddai PC Llong 'Wel wyt ti'n fodlon coelio ržan na laddodd Vatilan mo Huws Parsli.

Un diwrnod pan oedd Hadad a'i warchodwyr, a oedd erbyn hyn yn debycach i noddwyr, yn aros yn y wersyllfa lle gwelsai Hadad griw'r llong ddiwetha, dyma garafa/ n ramantus, estron yr olwg yn dynesu o'r bwlch creigog ac yn aros wrth ffynnon y balmwydden.

Godam oedd ei enw ac mi aeth o mewn tair llong ar ddeg o Rhos on Sea.

Roedd hi'n dechrau nosi ac efallai mai dyma'r rheswm paham fod y morwyr yn awyddus i ddychwelyd i'r llong.

Estynnodd lyfryn o'i boced a darllen ohono: 'Lleidr yw Vatilan a phlismon o'r enw PC Llong wyf innau.'

Cliriodd PC Llong ei lwnc a chwyddo'i frest i'w llawn maint.

Cofiwch, pan ddychwelwn ni i Grenada, fe fydd rhaid inni rannu caban ar y llong.'

Ffordd ddrud o gyrraedd ychydig o bobol fyddai hi, meddai John Ellis o Theatr Clwyd, wrth i Gyngor Ffilm Cymru lansio dogfen Cine/ mobile i Gymru ac fe fydd "fel llong ofod yn ymweld o dro i dro%, meddai David Gillam o Valleys Arts Marketing.

Dechreuodd ef ei yrfa ar y môr, fel llawer o hogiau ifainc Llyn, mewn llong fechan o'r enw Fishguard Lass ac yntau'n bedair ar ddeg oed a chyda'r Capten a'r Mêt yn gwneud nifer y criw yn dri.

Llong DIY.

Ond pan gafodd fyrddio'r llong o'r diwedd rhyfeddai fod creadur mor gryf a solet wrth y cei yn anesmwytho ar y mor agored.

'Mae'r dillad isa yna sgynnoch chi amdanoch yn anghyfreithlon,' meddai PC Llong.

Lansio'r llong Titanic.

Sonia am un llong a oedd mor brin ei bwyd fel pan brynodd y Capten luniaeth yn ynys St.

Byddai Anti yn dweud mai yr achos am hyn oedd fod y dŵr yn brin ar y llong pan anwyd hi ar ganol y mor.

Roedd y llong wedi'i hangori'n ymhellach o lawer i ffwrdd.

Y morwr wrth yr olwyn lywio oedd un o'r lleill, a llongwr yn gwylio'r môr o gwmpas y llong oedd y llall.

Fe geisia i afael yn y wifren sy'n hongian o du ôl y llong.

Gwyddai oddi wrth yr ychydig lythyrau a ddilynodd nad oedd pethau'n argoeli'n dda i Lynges Prydain yn India'r Gorllewin - Eistaing, a'r Llyngesydd a'i holynodd, Comte de Guichen, yn gyfrwys, y morwyr a'r milwyr yn anystywallt, afiechydon yn rhemp a llong ugain oed fel y Cornwall yn gollwng fel basged.

Llongwyr ar fwrdd y llong ryfel Rwsiaidd Potemkin yn cymryd y llong drosodd, taflu'r swyddogion i'r m“r a chodi'r faner goch.

Cyrraedd Frisco yn ddiogel i groeso mawr gan ei fodryb a oedd yn byw yn y dref, a daeth llawer o'i ffrindiau i'r llong.

Talwyd am yr olwyn ar ôl i'r llong gael ei dadlwytho.

Llongwyr ar fwrdd y llong ryfel Rwsiaidd Potemkin yn cymryd y llong drosodd, taflu'r swyddogion i'r m"r a chodi'r faner goch.

Llong ofod yn glanio ar y blaned Mawrth.

Yn hwyr y noswaith honno wedi treulio diwrnod digon diddan efo Mali a'r plant, cychwynnodd Merêd a Dilys am Gaergybi i ddal y llong hwyr am Iwerddon.

Rwyt ti wedi cysgu digon!" Stan McNally oedd yn gweiddi y tu allan i ddrws caban Douglas ar y llong.

Llong wedi ei gwneud gartre oedd hi.

Trychnineb Zeebrugge, y llong Herald of Free Enterprise yn suddo a thua 200 yn boddi.

Roedd gwynt mawr wedi taro eu llong ym Môr China, a'r llifeiriant wedi rhuthro i ystafell y peiriannau gan fygwth malurio'r llong yn ddarnau.

gobeithient, trwy redeg ar draws y cae, gyrraedd y safle manteisiol hwn o flaen eu llongau, ac os byddai 'r rheini 'n dal i fynd aent ymlaen at bont trillwyn, a 'r llong gyntaf dan y bont fyddai 'n ennill.

Mae'r dynion yn rhwymo'r cotiau yn fwndeli ac yn eu cario nhw yn ôl i'r llong.

'Roedd Meinir, fy ngwraig, yn hwylio yr union noson yna hefyd, yr ail ar bymtheg o Orffennaf ddwy flynedd yn ôl, ac fe suddodd y llong honno mewn storm!

Profiad cynhyrfus a dweud y lleiaf oedd mynd yn y cwch bach yn ôl i'r llong.

'Twyt ti ddim yn talu digon o bres cadw draw imi roi'r gorau iddi'n gyfan gwbl,' atebodd PC Llong.

Un noson cariodd Mr Hughes lawer o hwyliau a daeth y Capten i fyny a dweud wrtho am dynnu hwyliau oddi ar y llong, ac o dan ei wynt yn mwmian, "Dam, you know nothing, fear nothing".

Breuddwydiodd fod y llong yma'n mynd i suddo heno cyn cyrraedd Belg.

Roedden nhw wrthi'n sgwrsio yn un o lolfeydd y llong pan ddigwyddodd y trychineb.

Eithriad mewn llongddrylliadau hen iawn yw i'r darnau o'r llong a welir yn awr adlewyrchu siâp y llong wreiddiol.

Swyddog ar y llong British Monarch oedd Douglas.

Sawl llong mewn trybini wyliasant yn fud?

Troes PC Llong at Nel gan dapio'i drwyn yn wybodus.

Er bod pedwar deg wyth wedi marw allan o bron i bymtheg can o garcharorion, morwyr a milwyr a gludwyd mewn un ar ddeg o longau, roedd Capten Arthur Phillip wedi cyflawni un o fordeithiau enwocaf hanes y mor, dros bymtheng mil o filltiroedd heb golli'r un llong.Roedd y marwolaethau'n llawer mwy yn y llyngesau a'i dilynodd oherwydd gorlwytho, prinder bwyd, creulondeb annynol ac afiechydon a oedd yn deillio'n anorfod o'r sefyllfa ar y llongau, a'r ffaith bod y fordaith mor hir.

Gwyddwn bopeth amdani gan mod i wedi gweld y llong yma o'r blaen yn fy mreuddwyd .

Yn y cyfamser, bu morwr a oedd yn wael cyn gadael y llong, farw y noson gyntaf ac ychydig ar ei ôl bu farw dau arall.

Y canlyniad fu i'r llyw rhydd droi mewn cylch a tharo corff y llong a niweidio'r platiau a hynny yn gwneud i'r llong gymryd dwr.

Yr oedd gwraig y Capten John Williams a gwraig y mêt yn y llong a boddwyd hwy gydag un ar bymtheg o'r criw.

Yr un llong ydy hon a'r llong welais i yn fy mreuddwyd.

Ond yn y bore pan gododd pawb, roedd y llong wedi diflannu.

Dadleuai rhai eu bod nhw wedi gweld y llong ac nad oedd rhagor na thafliad carreg i ffwrdd.

A dyna'r llong yn neidio'n sydyn, ac yn troi ar ei hochr .

Byddai hwnnw'n crwydro drwy'r llong am hanner awr wedi wyth bob bore i sicrhau bod popeth yn iawn.

'Ddowch chi allan am funud, Huws Parsli, plîs, mae PC Llong isio gair hefo chi.'

A oedd hi yn llong dda yn rhedeg o flaen awel gyda môr trwm?

Yr oedd y llong yma yn gollwng dwr ac yn anffodus rhedodd i'r lan a bu'n rhaid cael gwaelod newydd iddi.

Adroddodd yr hyn a welodd wrth y Capten a hwyliodd y llong i Bombay er mwyn ei hatgyweirio.

Dreif on.' 'Ella ma' trio rhoi ar ddallt i ti roedd hi ma' boddi 'nath y Captan.' 'Nid boddi 'nath o.' 'Dyna ddeudodd Timothy Edwards pan ddaeth o yma hefo'r stori - syrthio dros ochor y llong, medda fo, pan oedd o'n homward bownd o'r gwledydd pell 'na, a boddi yn y dyfnfor.'

Yn anffodus nid oedd y mêt wedi gofalu bod y gwenith oedd yn llwyth y llong y fordaith gynt wedi cael ei lanhau o gwmpas agoriad i'r pwmp, a phan geisiwyd pwmpio'r dwr allan nid oedd yn gweithio fel bod y llong yn llenwi â dwr.

Chwiliwn am y llecynnau tawel a gweddigar i adeiladu llong bywyd, ac yna fentro i'r dwfn.

Bu am fordaith yn yr Owen Morris, un o sgwneriaid Porthmadog, ac mae'n ei chanmol fel llong gref wedi ei hadeiladu o goed derw.

Cafwyd lloches yn y pentref ond bu'n rhaid disgwyl yn hir yn eu dillad gwlyb am y llong i'w cyrchu'n ôl i Galway; roedd honno wedi mynd ymlaen i Inis Meain.

"Mi fydd oriau wedi mynd heibio cyn iddyn nhw sylwi nad ydw i ar y llong, ac er bydd y capten yn sicr o ddychwelyd i chwilio amdana i, mi fydda i wedi boddi ymhell cyn hynny," meddai'n ddigalon wrtho'i hun, gan wylio'r golau yn diflannu i'r pellter.

'Ržan y plismon plant ichdi,' ysgyrnygodd Nel yn sefyll a'i thraed un bob ochor i ben PC Llong a lledr ei sgidiau sodlau uchel yn cochi'i glustiau, 'tydi Vatilan heb ladd neb yn naddo?'

Roedd gan ei pherchenogion hi, teulu Davies Porthaethwy, o leiaf deg llong, llongau mawr yn y cyfnod hwn, ar yr un fordaith, i gyd yn cludo cannoedd o deithwyr a nwyddau, ac ar draws y Fenai yng Nghaernarfon, roedd cartref John Owen, Ty Coch un o feibion teulu Rhuddgaer, Mon yntau'n berchennog ar longau a hwyliai i Ogledd America ac Awstralia.Ceir rhywfaint o'u hanes hwy yn y bennod nesaf.

Roedd hwn yn ateb dibenion y fasnach yn well gyda doc mewnol a gatiau trymion i gronni'r džr fel bod llong yn medru cael ei llwytho beth bynnag oedd stad y llanw a'r offer diweddaraf i hwyluso'r gwaith o drafod a llwytho'r llongau.

Gadawodd y llong i fynd i'r ysgol yn Glasgow am ei diced Ail Mêt a bu'n llwyddiannus.

Ei long nesaf oedd llong hwyliau lawn, ac yn hwylio'n dda, ond nid oedd ei Chapten yn un am gario hwyliau.

ychydig funudau wedi iddynt gyrraedd y bedol cyrhaeddodd llong huw, ac ychydig y tu ôl iddi longau ffred a gethin yn taro 'n ei gilydd wrth agosau, ac un wil yn rhuthro tuag atynt atynt fi sy 'n ennill !

Yn llong fudr mewn môr a pha hwyliau oedd hi yn eu cario orau mewn tywydd mawr?

VATILAN DI-EUOG a RHYDDID I VATILAN oedd y slogannau, mewn llythrennau breision cochion, ac un arall o dan rheini'n dweud PC LLONG Y CWD mewn paent glas.

Fedrwch chi ddim mynd yno drwy'r yr un fath ag i nefoedd Cristnogion call, dim ond efo llong.

Ar y noson honno y troes llong Townsend Thoresen, Herald of Free Enterprise, drosodd tu allan i harbwr Zeebrugge ar ddechrau ei thaith yn ôl i Dover.