Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llongddrylliadau

llongddrylliadau

Pwrpas y pwyllgor hwn oedd cyd-drefnu ymgeision i archwilio a diogelu safleoedd llongddrylliadau hanesyddol o gwmpas Prydain.

Nid oedd dim yn y ddeddf hon i atal unrhyw un rhag symud gwrthrychau o longddrylliad hanesyddol neu achosi difrod difrifol cyn belled ag y byddai ef neu hi yn rhoi gwybod am y darganfyddiadau i'r Derbynnydd Llongddrylliadau lleol.

Datblygodd ymgeision i ddiogelu llongddrylliadau nid yn gymaint oherwydd polisi systematig ond yn hytrach fel ymateb i wahanol argyfyngau.

Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd, ar ôl derbyn cyngor gan y Pwyllgor Ymgynghorol ar Safleoedd Llongddrylliadau Hanesyddol, roi trwydded i gloddio safleoedd o'r fath.

Ar wahân i'r dirgelwch a'r rhamant sy'n gysylltiedig â llongddrylliadau ac yn gymhelliad i ddenu pobl ifanc i astudio gweithgareddau tanfor, gall safleoedd llongddrylliadau ddangos imi sut y mae grymusterau naturiol dros gyfnod penodol o amser yn lleihau effaith llongddrylliadau ar lawr y môr.

Ymddengys y wybodaeth a geir o astudio llongddrylliadau hanesyddol a safleoedd dan y môr yn ddigon pitw o'i chymharu â'r adnoddau hyn, ond er hynny y mae iddi bosibiliadau mawr.

Eithriad mewn llongddrylliadau hen iawn yw i'r darnau o'r llong a welir yn awr adlewyrchu siâp y llong wreiddiol.

Y mae safleoedd llongddrylliadau'n agored i ymyrraeth nid yn unig gan nofwyr anwybodus ond hefyd gan grwpiau'n chwilota am drysor.

Fodd bynnag, efallai y bydd y nofwyr tanddwr yn dehongli'r Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau fel dull o'u hamddifadu hwy o elfen gyffrous i'w hobi ac o greu monopoli i'r proffesiynol (sydd yn broffesiynol yn rhinwedd eu cymwysterau academaidd yn unig a heb fawr o brofiad o waith tanddwr).

Beth yw'r sefyllfa gyfreithiol ynglŷn â llongddrylliadau hanesyddol ar hyn o bryd?

Mae'n debyg mai achos Cymdeithas HMS Association oedd yr achos pwysig cyntaf i ddwyn sylw at sefyllfa fregus safleoedd llongddrylliadau hanesyddol.