Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llongwr

llongwr

Am to swear like a trooper cawn, yn gwbl gymeradwy, rhegi fel cath, paun, melin, tincer a cwrcyn ond nid rhegi fel llongwr na nafi.

“Fy nghof cynta pan yn blentyn oedd gweld fy nhad yn ei wisg llongwr,” meddai Hywel, a fagwyd ym Môn.

Y morwr wrth yr olwyn lywio oedd un o'r lleill, a llongwr yn gwylio'r môr o gwmpas y llong oedd y llall.

Mr Bassett neu Dic Llongwr, falle.

Pabyddes oedd ei fam ac ai Alun i'r offeren gyda hi; llongwr oedd y tad a Methodist Calfinaidd ac ai'r hogyn i'r capel gydag ef pan fyddai adref o'r mor.

Mi fydd yn powlio crio 'gei di weld.' 'Dwi inna isio crio, ond 'mod i yn methu 'te.' Rhyfel Annibyniaeth America ac ymyrraeth y Ffrancwyr a alwodd y Capten Timothy Edwards yn ôl i'r môr, a hynny wedi tair blynedd ar ddeg o fod yn llongwr tir sych.

Daeth Huw yn ei ôl, a Dic Llongwr gydag e.

Yr oedd nifer y criw gyda'r Capten yn chwech, dau ar y wats, a phan oedd eisiau symud yr hwyl studding (hwyliau tywydd braf) yr oedd yn rhaid i'r llongwr nad oedd wrth yr olwyn symud yr hwyl ei hun.

Pan symudodd Ifan Parry o Eil o Man i Benrhos, ty bychan ar ben lon Cerrigcamog, dyma John Rowlans yn cyfeirio at Ifan Parry fel 'Arglwydd y Penrhos'.Dyna Catrin Owan, Lon Las gwraig John Owan a wisgai gap pig gloyw bob amser, er mwyn i bawb wybod mai enjiniar oedd o ar y mor, ac nid llongwr.

Ddydd Mercher, bu morwr arall farw o'r oerni, a'r noson honno bu farw llongwr arall wedyn.

Ymuno unwaith eto â llong hwyliau fawr fel Ail Fêt a chael tywydd mawr ym Mae Biscay, a phan oedd yn gweithio ar y dec, llongwr oedd wrth ei ochr yn cael ei ysgubo i'r môr gan foryn trwm.