Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lloriau

lloriau

Yn yr ail ran hon, ceid cutiau bychain crynion ag arnynt do o wellt neu frwyn ­ byddai eu lloriau'n is na'r ddaear oddi amgylch er mwyn cadw'r tŷ'n gynnes ac o afael y gwyntoedd.

Ac yr oedd yn yr un adeilad wraig dlawd a'i gorchwyl ydoedd glanhau lloriau swyddfeydd, a'r grisiau a gysylltai loriau gwahanol yr adeilad hwnnw.

Adeilad pedwar llawr yw e gyda'r ddau lawr cyntaf yn fwyty Fietnamaidd a lloriau tri a phedwar yn glwb preifat.

oeddynt fel mân us yn dyfod o'r lloriau-dyrnu haf: a'r gwynt a'u dug hwynt ymaith...

Ond i'r teithiwr busnes sy'n cyrraedd y maes awyr ac yn llogi tacsi er mwyn cyrraedd ei westy, llwyd a dilewyrch yw'r argraff gyntaf o'r drefedigaeth; heolydd penrhyn Kowloon rhwng y maes awyr a'r twnel i ynys Hong Kong yn dagfa drafffig fyglyd, fflatiau'r pumdegau a'r chwedegau yn salw o'u brig i'w bôn, ysbwriel o'r lloriau uwchben wedi disgyn yn bentyrrau pwdr ar y mân doeon sy'n cysgodi prysurdeb y stryd rhag bygythiad glaw tyrfau'r gwanwyn.

Mae'r coedyn yn cael ei ddefnyddio i wneud dodrefn a lloriau, ac i wneud cyrff offerynau llinynnol.