Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llosgi

llosgi

meddwl rydw i am greulondeb rhai o'r pabau ac mae gen i ryw obsesiwn ynglŷn â'r chwilys, yna'r brwydro ofnadwy rhwng catholigion a phrotestaniaid, a'r creulondeb a'r poenydio a'r erledigaeth ar y ddwy ochr, a'r holl wrachod a gafodd eu llosgi, a ffanatigiaeth jonestown a arweiniodd naw cant o bobl i gyflawni hunanladdiad, heb sôn am y seiliau crefyddol y tu ôl i'r holocaust hynny yw fod yn cael ei hategu gan y celwydd taw'r iddewon groeshoeliodd crist, a'r defnydd o ddyfyniadau ysgrythurol i gyfiawnhau dienyddio gwrywgydwyr ).

Llosgi'r Reichstag.

Ni chafodd neb y gansen ond ein rhybuddio i beidio mynd at y capel wedyn, ond mae'n siwr fod clustia 'rhen Robaits yn llosgi.

Yr oedd hyn yn brofiad digon diflas yn aml; llosgi ystafell mewn neuadd neu ysgol mewn pentref, penodi dyddiad a threfnu siaradwr; hwnnw weithiau'n tom'i gyhoeddiad ar y funud olaf ac nid oedd dim amdani ond mynd yno fy hun a chyhoeddi neges y Blaid cystal ag y gallwn Ni chaem fawr ddim cefnogaeth mewn aml ardal, ychydig a ddeuai i'r cyfarfodydd a drefnid - rhyw hanner dwsin a llai na hynny yn aml ac weithiau neb yn troi i fyny.

Amhosibl llosgi eiddo'r Cyngor wrth gwrs.

Gyda channoedd o gefnogwyr ymosododd ar drefi yng ngogledd ddwyrain Cymru a'u llosgi.

Mae llawer rheswm rhag i dwll 'fynd allan'; o bosib fod y fuse wedi torri, neu ei fod yn wlyb ac felly yn araf iawn yn llosgi, neu efallai nad yw'r ddau ddyn wedi ei osod mewn cyffyrddiad â'r powdr.

Ac yna adroddodd yr hanes a oedd yn llosgi drwy'r dref.

Treth ar y corff oedd ymgripian dros y grib olaf, weithiau ar fy mhenliniau, a'r haul yn ei anterth yn llosgi fy wyneb bob cam o'r esgyniad trafferthus.

Williams a Lewis Valentine yn llosgi defnyddiau ac adeiladau'r ysgol fomio ym Mhenyberth.

Dro arall, soniai am ddirgelwch annatod (hyd yma) disgyrchiant, neu'r llwch rhwng y galaethau sydd yn casglu ac yn troi'n 'nifylau tan', fel y galwodd hwy, yn ymgrynhoi yn ser, yn llosgi a chrebachu ac yna'n ail danio ac ymagor yn nifwl tan eilwaith.

Pobol ffordd hyn isio bod yr un fath, mynd am face lifts a hair transplants, llosgi'u birth certificates fel roedd merchaid yn llosgi brâs.

Mae'n debyg fod costau petrol a'r ofnau yn sgîl llosgi rhai tai haf wedi helpu ymhellach yn y cyfeiriad hwn.

A gostyngeiddrwydd mawr, atebais innau fy mod yn credu y defnyddiai'r Arglwydd fi yn gyfrwng i'w hiacha/ u hi A'm calon yn llosgi ynof, dodais fy nwylo ar ei phen a gweddi%ais ag angerdd am i'r Arglwydd gyffwrdd â hi y foment honno yn ei gwendid a'i hiacha/ u.

Honnodd un cadfridog eu bod wedi llwyddo fwy nag unwaith i lanio timau bychain o filwyr yng Nghuba er mwyn llosgi cnydau siwgr a llofruddio swyddogion llywodraethol.

Byddai carcharorion y rhyfel cartref yn cael eu gyrru i mewn i gwter, eu gwlychu â phetrol a'u llosgi'n fyw.

Yr hyn i'w gofio yw y gall prynu annoeth olygu eich bod yn llosgi eich bysedd yn ariannol a'ch bod hefyd yn difetha eich gwyliau os nad yw'r garafan yn ateb eich gofynion personol chi.

Dyna paham mai creadigaeth pechod a man geni heresi ydi pob tre.' Ni allai Ieuan Ddu lai na dyfalu be oedd gan hwn i'w wneud â llosgi eglwys Dolbenmaen, ond roedd ei lygaid yn goch gan flinder a'i goesau'n gwanio oddi tano.

Erbyn iddo orffen roedd ei chopa'n llosgi, ei hwyneb yn goch a'i thymer drwg hithau'n dechrau fflamio ond chafodd hi ddim cyfle i ymollwng.

Eu llosgi'n ulw a'r mwg yn ymlwybro hyd y bryniau fel trafaeliwr angau yn sūn clindarddach y fflamau, nes bod popeth a phobman yn ddu, y tân sy'n llosgi'r cyfan yn fud a'r holl sioe yn stopio'n bwt ym môn y clawdd terfyn.

Wrth deithio'n ôl, sylwais ar fwg hyd y llechweddau o amgylch, lle'r oedd ffermwyr yr ucheldir yn llosgi hen dyfiant o wellt a rhedyn crin a bonion grug ac eithin.

Mae llosgi'r meirw yn arfer bydeang.

"Y mwyaf ffein yw'r baco y cyflymaf mae'n llosgi.

Roedd y bacwn yn y ffwrn yn dechrau llosgi.

Byddid yn arfer llosgi'r gwellt hwn hwfyd fel y llosgid y grug - er mwyn cael tyfiant ifanc yn ei le yn y gwanwyn.

Castell Windsor yn llosgi a'r Frenhines yn cyhoeddi fod y flwyddyn wedi bod yn 'Annus Horriblis'.

Gwyddonwyr yn poeni fod llosgi tanwydd ffosil yn peri i'r tymheredd godi.

"Mae tân sy'n llosgi'n araf drwy'r nos yn well na rhyw dân shafins sy'n diffodd yn sydyn, yn tydi?

Yn hanes Maelgwn dallwyd ef a'i wŷr gan golofn niwl a aeth gyda Chadog, ac yn hanes Rhun fe'u dallwyd gan fwg a godai o ysgubor y ceisiai gwŷr Rhun ei llosgi.

"Fe ddylid eu llosgi nhw."

Peth digon masochistaidd i'w wneud yn fy marn i: rydw i'n gochyn ac yn llosgi'n hawdd pan fydd yr haul yn danbaid.

Pan wnaethom ni gyrraedd Awstralia ym mis Chwefror 1968 roedd y tywydd yn ofnadwy o boeth - dros 100F ac ymhen tri diwrnod yr oeddwn wedi llosgi'n ofnadwy.

Roedd aelodau'r cleifion yn llosgi ac roedden nhw'n cael pyliau o fod yn flin iawn.

Roedd gan y ddau ddau gant a hanner o bunnoedd yr un yn llosgi yn eu pocedi ac roedden nhw wedi trefnu i brynu'r milgi cyn cyrraedd adref.

Mae'r pren yn llosgi'n dda hyd yn oed pan fo'n wyrdd ac mae'r mwg yn llesol yn enwedig i fabanod.

Llosgi llyfrau ar sgwâr y tu allan i Brifysgol Berlin.

Yr un pryd cyrhaeddodd y Sacsoniaid prydgolau o ogledd Ewrop ein glannau, gan ddwyn a lladd a llosgi ar eu ffordd.

Gyrfa a gychwynnodd pan drodd glaslanc un ar hugain allan ryw ben bore, 'lawer dydd yn ôl' bellach, gobaith yn fflachio yn ei Iygaid, tân yn llosgi yn ei fol a thail cefn gwlad Môn yn ffres ar ei 'sgidia' am ei gyfweliad cynta' yn Ysgol Ramadeg Newton le Willows, sefydliad oedd yn drewi gan draddodiad yn Lloegar bell!

Ni fu farw neb yn Hu%nxe, ond cael a chael oedd hi fod dau blentyn o Libanus wedi byw, ar ôl iddynt gael eu llosgi'n ddifrifol, ac fe fydd y creithiau ganddynt am byth.

Llosgi cyrff y meirw y byddai pobl yr oes hon, a chladdu eu lludw mewn llestri pridd, fel hwnnw a gafwyd ym Mhen-llwyn ac a ddangosir yn y darlun.

mae testunau gan anghredinwyr yn brin oherwydd cawsant eu llosgi y testunau a'r anghredinwyr gan grefyddwyr.

Disgrifiodd un o'r bechgyn y profiad fel cerdded drwy fflamau tân heb gael eich llosgi ganddynt.

Rhan o ddefod angau'r Roma yw llosgi eiddo'r meirw, yn ddillad ac yn wely.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Saunders Lewis, D. J. Williams a Lewis Valentine yn llosgi defnyddiau ac adeiladau'r ysgol fomio ym Mhenyberth.

Wrth gerdded ar ei ôl ar hyd yr ysgol, doeddwn i'n gweld neb, ond mi wyddwn fod llygaid degau o blant arnaf, a theimlwn fy wyneb yn llosgi'n dân gan swildod.