Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llw

llw

Mi gymera fy llw na chawsoch chi erioed y fath ddifyrrwch yn eich bywyd,' ebe Harri.

Aelodau Seneddol yn cael yr hawl i dyngu eu llw yn Saesneg ac yn Gymraeg, ond nid yn Gymraeg yn unig.

Mi fyddwn yn barod i fynd ar fy llw fod rhyw dawelwch yn y pren sy'n cael ei drosglwyddo i mi.

Holodd ni'r plant a oeddem ni wedi bod ar gyfyl ystafell Mr Sugden, ond na, gallem gymryd ein llw, ac er bod arni gywilydd mawr o'i hamryfusedd 'doedd dim amdani ond gosod allan liain glân iddo a byw trwy amser cinio ac amser te ac amser swper mewn sachliain a lludw, yn ymwybodol iawn o'i bai ond heb ddweud gair wrth y gŵr gwadd amdano.

Y mae'r stori am yr ail dro y bu i mi gyfarfod â Mrs Thatcher yn un y bydd llawer yn ei chael yn anodd i'w choelio, ond mi âf ar fy llw ei bod yn wir.

Mi gymrwn fy llw ei bod hi'n falch o wneud hynny, er na ddywedodd hi'r un gair, dim ond gwneud tursiau arnaf fi.

Gymra fy llw na choda fo ddim oddi wrth y bwrdd am y gweddill o'i oes, a mwy na thebyg y bydda fo farw o newyn yn y diwadd.

Byddai'i modryb yn deud fod Syr Simon yn arfar cael 'i sgwrio cyn brecwast bob dydd hefo brws sgwrio, gymra fy llw y byddai raid i minna fynd trwy'r un oruchwyliaeth.

Trawsffurfiodd yr hen Gomisiwn Eglwysig a'i droi'n Llys yr Uchel Gomisiwn a hwnnw'n gwbl wynebgaled yn defnyddio ddulliau hen chwilys yr Oesoedd Canol, yn gorfodi pob cyhuddedig i gymryd y llw ex officio a oedd yn caniata/ u i esgob yn rhinwedd ei swydd ofyn unrhyw gwestiwn a fynnai i'r cyhuddedig a phe peidiai hwnnw ag ateb, gellid cymryd yn ganiataol ei fod yn euog, er nad oedd un ditment wedi ei chyhoeddi yn ei erbyn cyn hynny na thwrnai'n bresennol i'w gynorthwyo.

Roedd y rhain wedi bod mor deyrngar i'r llw a dyngwyd i Hipocrates nes eu bod, y rhan fwyaf ohonynt, yn medru rhoi llawer mwy o sylw i anghenion y rhai cyfoethog oedd yn llawer mwy tebyg o ddioddef o ddiffyg traul na'r dica/ u oedd yn sgubo fel pla drwy rengoedd y rhai na fedrai fforddio bwyta digon, i bryderu ynghylch diffyg traul.

A dyma nhw'n dod ac yn eistedd ar y llawr wrth ein traed ni, a chyda nhw roedd yna anferth o ddyn - 'Joe Louis' oedden nhw'n ei alw fo - ac roeddo'r un ffunud â'r bocsiwr ond mi fuaswn i'n cymryd fy llw ei fod o ddwywaith gymaint ag o.