Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llwynog

llwynog

ond mae detholiad 'gwerthfawr' yno o binwydd Alban, Corsica, Lodgepole ac ati, ond wedi dweud hyn, du-bol-buwch yw y coedwigoedd, cuddfan y llwynog - a dim llawer mwy.

Aeth y dydd yn ei flaen ym Mhant Llwynog a phob un yn mynd i'w ffordd ei hun.

Dywedodd y mab rywbeth wedyn yng nghlust ei dad, ac ebe'r Yswain: `Dyma ti, Harri, 'rydan ni'n mynd i dreio codi llwynog ddydd Llun; roi di fenthyg dy geffyl i Ernest am y diwrnod?'

Roedd fel petai'r rhai a arbenigai yng nghelfyddyd ymladd a lladd, wedi bod yn rhy brysur yn hela'r llwynog, a sicrhau bod eu lle breintiedig o fewn y gymdeithas yn ddiogel, i fedru rhoi amser i ddysgu unrhyw wers ers dyddiau'r rhyfel byd arall hwnnw Roedd y wlad ar ei thin - yn llythrennol felly, ac oni bai am ddewrder dall y rhai a gredai fod Ffasgaeth yn waeth na chaethwasiaeth, ac ysfa bwli o ddyn a dynnai wrth ei sigâr ac yfed ei hun i anymwybyddiaeth, am ymladd a rhyfel, mi fyddai pob dim wedi mynd i'r gwellt.

Drwy'r ffenestr agored y noson honno, y peth olaf a glywai'r plant oedd sŵn yr afon yn llithro'n dawel dros y cerrig ar ei gwely gro yng ngwaelod y dyffryn, sŵn y tylluanod yn hwtian yn y coed ar ei glannau a chyfarthiad pell y llwynog coch o'i ffau ar lethr y mynydd.

Ymddangosai fod y cwmni helwriaethus wedi eu mwynhau eu hunain yn fawr yn ystod y dydd y llwynog, wedi ei godi ac wedi ei ymlid am filltiroedd lawer, wedi ei ddal.

'Ei di ddim i Bant Llwynog?' gofynnodd Sylvia ar ôl saib.

Does dim rhyfedd ei fod wedi ennill medalau DSO a DFC" "Mae o'n gallu arwain ei sgwadron fel un yn hela llwynog.

Dringodd ar ei beic, ac yn ôl â hi i'r Bala, heb weld Debora'n troi'r gornel o gyfeiriad Pant Llwynog.

Toc oernadodd y cŵn, a deallwyd bod llwynog wedi ei godi.

Yr oedd ci llwynog bach o gwmpas ac meddai John yn llawn athrylith am anifeiliaid: "Mi 'rwyt ti'n berffaith iach, y baw, mae dy hen nosi di'n reit oer." A byddai'r plant yn teimlo trwyn pob ci ar ôl hyn os byddai rhyw arwydd o salwch arno i weld a fyddai ei "nosi yn oer." A minnau wedi dechrau sôn am John Preis daw llawer hanesyn i'r cof am ei ymweliadau mynych â ni.

Gorfod gollwng bob dim o'i ddwylo a'i gleuo hi rhagddynt fel llwynog o flaen cwn.

Rywbryd yn ystod y Saboth digwyddodd daro ar y ffordd fawr â Mr Jones y Person, a ddywedodd wrtho: `Cofia di, Harri, ddod hefo ni fory i godi llwynog, a gobeithio'r nefoedd y cawn ni ddiwrnod braf.' `Trystiwch chi fi y byddaf yno,' ebe Harri.

Am y llwynog a'r sbort o'i ddal y siaradai'r cwmni wrth y bwrdd mawr, ac felly y gwnâi cymdeithion Harri wrth y bwrdd bach.

I wneud pethau hyd yn oed yn fwy bizarre, roedd Richard, sy'n gawr o ddyn a chanddo farf flewog, mor amlwg â llwynog mewn cwt ieir.

Rhyw fagu llwynog oedd hynny - datgelu gwybodaeth i arall, ond byddai hogiau gorsaf Caernarfon yn barod iawn i'm dysgu, a dysgais lawer oddi wrthynt.