Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llwythog

llwythog

Camgymeriad, mi gredaf, oedd dangos tŵr real ar ddechrau'r cynhyrchiad gan ei fod yn tynnu oddi ar amwysedd llwythog y geiriau cyntaf: Merch: Dwi yma.

Yr awdur yw David Owens, newyddiadurwr o Dde Cymru syn brolio mai fe oedd y cyntaf yng Nghymru i gyfweld grwp bach fydd rhai ohonach chi'n gyfarwydd efo - y Manic Street Preachers, ac mae ei CV llwythog yn profi fod ganddor hygrededd ar wybodaeth i daclor testun newydd yma.

Cyrhaeddai adre o'r môr yn llwythog; creiriau'r Almaen a Ffrainc i ymuno â'r rhai oedd yma'n barod o'r India, Japan a lleoedd pellennig eraill - ambarel o ffasiwn newydd a blygai'n dwt i fag llaw fy Mam; llathenni o sidan i wneud ffrogiau i Mam a minnau; melfed wedyn i wneud trowsusau "dydd Sul" i 'nau frawd.

Ni ddaeth, a gorfu i ni neidio i drên oedd eisoes yn llwythog, a mynd i San Servito, tua chwe milltir i'r gogledd o'r dref.

Ymhen rhyw ugain munud, eisteddai wrth fwrdd llwythog gydag Emrys a'i fam a'i chwaer Gwen, athrawes a oedd newydd gyrraedd adref o ysgol gerllaw.

Prin y mae angen gwell dehongliad o'r modd yr oedd y safbwynt cenedlaethol yn tyfu yng Nghymru rhwng y ddau ryfel na'r brawddegau llwythog hyn.

Y llefarwr llwythog, llawysgrifen fechan araf ddestlus oedd ganddo.

Roedd yr awyr yn fyglyd, yn wlyb a llaith ac yn llwythog gan aroglau gorfelys tegeiriannau trofannol yn eu blodau.

Er i reilffordd, - boed honno'n llinell gul neu n llinell letach, - ddod i gludo cynnyrch y chwareli yn y man a dim galw mwy am y ceffyl ynglŷn â hynny o waith, roedd yna lawer o geffylau yn gweithio tu fewn i'r chwareli, yn llusgo wagenni a sledi - yn llwythog neu fel arall - ar y ffyrdd haearn a oedd yn gwau ac yn cyrraedd i bob twll a chongl mewn chwarel.

Ac er bod dyn ifanc di-goesau yn begera wrth borth y capel yn Laitumkhrah, roedd y llyfr emynau o roddwyd imi ar ddechrau'r gwasanaeth yn llwythog gan enwau cynefin: Treforus, Cwm Rhondda, Rhosymedre, Abertawe, Capel y Ddôl, Blaenwern...

Teg casglu, felly, ei fod ar brydiau yn teimlo'n ddig tuag at waith dyn yn anharddu wyneb y ddaear, a hynny yn enw Cynnyd: ac y mae ei ddefnydd o'r gair gydag 'C' fawr yn ymddangos, yn y cyd-destun hwn, yn llwythog o goegni ac eironi chwerw.