Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llyfu

llyfu

yma, ym misoedd yr haf, byddai rhibyn o raean yn ymestyn o ganol yr afon, ond yn awr yr oedd cryn ddyfnder o ddŵr ^ r yn llyfu erchwyn lleithiog y lan, a rhai o ganghennau 'r helyg o boptu bron, bron yn cusanu wyneb yr afon.

Llaciodd y brêc ar y bygi a llyfu'i wedus isa'.

Byddai'n ddifyr sylllu ar y tafod hir ystwyth yn llyfu o'u cylch.

Y mae'r ci erbyn hyn yn llyfu eich wyneb yn lân.

hynny ydi, peidiwch â'n nghamddeall i, 'sai moyn eu gweld nhw'n llyfu a swsio'i gilydd ac ati .....

Bydd hynnyn newyddion da i'r rhai hynny a fu'n gwisgou tafod yn llyfu stamps yn y gorffennol ond maen drueni na allodd y Swyddfa Bost drefnu y bydden nhw ar gael cyn llyfiad mawr y Nadolig.

Wedir cyfan, onid dyna yw hanfod busnes a menter - eich bod yn bywn fras ar eich llwyddiant a llyfu clwyfau unrhyw fethiant.

Dwedodd ar y Post Cyntaf bod y tîm wedi treulio'r penwythnos yn llyfu'u clwyfau ac yn gobeithio am well canlyniad ddydd Mercher.