Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

llymion

llymion

Yn bersonol, gallaf gyfrif ar un llaw yr adegau y bu+m yn ei syrjeri, fel y tro hwnnw y bu'n trin archoll gwifren bigog rhag gwenwyno'r gwaed A'r tro arall cyn imi ymweld â chyfandir Asia, pan warchododd fi rhag polio a malaria, heb anghofio'r pigiadau llymion hynny rhag y tetanus a'r teiffoid.

Tros bechadur buost farw, Tros bechadur ar y pren, Y dioddefaist hoelion llymion, Nes it orfod crymu'th ben; Dwed i mi ai fi oedd hwnnw Gofiodd cariad rhad mor fawr?

"Pethau celyd a llymion a ddywedid flyneddau yn ol yn y Seren am yr eglwys wladol, ac wele wr Llen tan yr enw 'Gwr lleyg', a ddaeth i'r maes yn rhyfeddol hyf a gorchestol i'w amddiffyn; ond cyn pen hir efe a ddychrynodd ac a synodd, a ofidiodd ac a gywilyddiodd, ac a ddiangodd, gan rym ei wrthwynebwyr, a'r holl edrychwyr yn chwerthin, a'r holl eglwyswyr yn cnoi penau eu bysedd".